Staff

​​​​​​​​​​​Mae darlithwyr yn yr Ysgol yn academyddion profiadol sy’n defnyddio ystod o strategaethau dysgu ac addysgu arloesol er mwyn creu profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr.

Mae recriwtio staff ymroddedig o ansawdd uchel yn hanfodol i lwyddiant parhaus Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd.

Mae gan y staff darlithio ystod eang o arbenigedd ar draws yr holl brif ddisgyblaethau hyfforddi academaidd a hyfforddi chwaraeon.

Mae llawer o’r staff yn ymwneud ag ymchwil gymhwysol, ymgynghori a gweithgareddau hyfforddi lefel uchel sy’n uniongyrchol berthnasol ar gyfer hysbysu a darparu’r modiwlau y maent yn eu cyflwyno.​

Tîm Rheoli a Chynllunio

Seicoleg Gymhwysol

Gwyddorau Biofeddygol

Gofal Iechyd

Llesiant y Boblogaeth

Rheoli a Diwylliant Chwaraeon

Perfformiad Chwaraeon

Addysg Gorfforol, Hyfforddi a Dadansoddi Chwaraeon

Staff Anrhydeddus

Staff Cymorth Technegol​

​​Mae'r Tîm Cymorth Technegol Ymchwil ac Arloesedd a Phrosiectau yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor ar draws dau faes o feysydd labordy arbenigol yr Ysgol. Mae'r tîm ymchwil ac arloesi yn gweithio gydag ymchwilwyr Ôl-ddoethurol, myfyrwyr PhD, myfyrwyr ôl-raddedig ac academyddion. Mae'r tîm yn cefnogi ystod amrywiol o weithgareddau ymchwil ac arloesi ar draws sawl disgyblaeth wyddonol.

 

Mae'r Tîm Cefnogi Prosiectau yn gweithio gyda myfyrwyr BSc ac MSc israddedig i hwyluso'r gwaith o gyflwyno prosiectau ymchwil ar draws rhaglenni Gwyddor Biofeddygol, Gwyddor Bwyd a Thechnoleg a Phodiatreg. Mae staff technegol yn y ddau faes yn gweithio ar draws disgyblaethau, gan ddarparu cefnogaeth nid yn unig i'w gilydd, ond hefyd ar gyfer Dysgu ac Addysgu, darparu arbenigedd ar gyfer dosbarthiadau ymarferol a addysgir a chyfrannu at y gronfa Arddangoswyr Technegwyr.

 

Mae'r Tîm Cymorth Technegol Dysgu ac Addysgu yn cefnogi addysgu dosbarth ymarferol ar draws rhaglenni gradd Gwyddorau Biofeddygol, Technoleg Ddeintyddol a Gwyddor Bwyd a Thechnoleg yr Ysgol. Mae'r tîm yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth labordy, cefnogaeth dechnegol arbenigol, paratoi dosbarth ymarferol, danfoniad ac adferiad. Mae'r tîm hefyd yn darparu cefnogaeth Technegydd Arddangoswr i'r gweithgareddau addysgu dosbarth ymarferol hyn.

 

Mae'r Tîm Cymorth Technegol Clinigol yn darparu cymorth technegol ar gyfer ystod eang o feysydd a gweithgareddau clinigol gan gynnwys rhai o'n rhaglenni gradd achrededig a ariennir gan y GIG ac a ariennir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Mae'r meysydd a gwmpesir yn cynnwys podiatreg, therapi lleferydd ac iaith, seicoleg, gofal iechyd cyflenwol a'r ystafell asesu iechyd. Maellawer o'r meysydd hyn yn cynnal clinigau ar gyfer cleifion neu gleientiaid.  

 

Cymorth Technegol (Campws Cyncoed)

Mae pum tîm cymorth technegol sy'n cefnogi'r labordai a'r gofodau stiwdio ar Gampws Cyncoed. Y pum maes yw:

  • Biomecaneg

  • Cyflyru, Adsefydlu a Thylino Chwaraeon

  • Ffisioleg Chwaraeon

  • Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon

  • Cyfryngau a Darlledu Chwaraeon


Mae'r timau'n cefnogi graddau israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil doethurol.  Maent yn ymwneud ag ymchwil staff a phrosiectau ymchwil ac arloesi a ariennir yn allanol. ​

Mae'r tîm ar y ddau gampws yn goruchwylio'r gwaith o redeg y meysydd hyn o ddydd i ddydd, gan gwmpasu iechyd a diogelwch, sefydlu clinig a maes addysgu arbenigol, rheoli stoc, cynnal a chadw offer a meddalwedd arbenigol, a darparu cymorth technegol i staff a myfyrwyr.   ​

Staff Cymorth Gweinyddol

Ar hyn o bryd mae’r timau wedi’u lleoli ar draws y ddau gampws yn cefnogi’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd.


Cymorth Rhaglenni

Mae’r tîm Cymorth Rhaglenni’n darparu cefnogaeth i academyddion, myfyrwyr a rheolwyr mewn ystod amrywiol o feysydd sy’n ymwneud â’r rhaglenni a addysgir trwy gydol y flwyddyn.

Cyncoed:CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

Llandaff:CSSHSLlandaff@cardiffmet.ac.uk


Ymchwil ac Arloesi

Mae’r Tîm Ymchwil ac Arloesi’n gyfrifol am gefnogi cydweithwyr academaidd gyda chyngor a chefnogaeth weinyddol ynglŷn â llawer o weithgareddau ymchwil ac arloesi amrywiol.

Cyncoed:CCR-I@cardiffmet.ac.uk

Llandaff:cshsresoffice@cardiffmet.ac.uk


Cymorth Ysgol

Mae’r Tîm Cyllid ac Adnoddau Dynol yn gyfrifol am gefnogi cydweithwyr academaidd gyda’r holl weinyddiaeth sydd ynghlwm â phrynu, cyllid ac adnoddau dynol.

Cyncoed:

Cyllid - CCPurchasing@cardiffmet.ac.uk

Adnoddau Dynol - CCHR@cardiffmet.ac.uk

Llandaff:

Cyllid - DWest@cardiffmet.ac.uk

Adnoddau Dynol - ldonnelly@cardiffmet.ac.uk