Dr Kerry Harris

 

​​

​​Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Perfformiad: Clwb Pêl-droed Menywod Met Caerdydd

Rhif Ffôn: 029 2041 7278

E-bost: kharris@cardiffmet.ac.uk

Mae Kerry yn Uwch Ddarlithydd mewn Hyfforddi Chwaraeon. Hi hefyd yw Cyfarwyddwr Perfformiad Clwb Pêl-droed Menywod Met Caerdydd. Ymunodd Kerry â’r ysgol ym 1999 fel myfyriwr israddedig, a pharhaodd â’i hastudiaethau gydag MSc mewn Hyfforddi Chwaraeon. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau PhD yn llwyddiannus, a Thystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch yr un pryd. Yn ystod ei hastudiaethau ôl-raddedig, cyflawnodd Kerry nifer o swyddi academaidd a chwaraeon yn y Brifysgol. Roedd y rhain yn cynnwys Swyddog Datblygu Pêl-droed, Cyfarwyddwr Technegol Academi Bêl-droed Met Caerdydd a Phrif Hyfforddwr ar gyfer y rhaglen bêl-droed i fenywod, tra hefyd yn ymgymryd â rolau hyfforddi allanol eraill. Mae gan Kerry Drwydded A FAW/UEFA ac Ieuenctid Elît A.

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Mae diddordebau ymchwil Kerry yn cynnwys datblygu gwybodaeth ac ymarfer hyfforddi trwy ddefnyddio ymchwil weithredu. Yn ogystal, mae gan Kerry ddiddordeb mewn archwilio a gwella profiadau menywod mewn hyfforddi chwaraeon.

Erthyglau

  • Harris, K., Jones, R.L., & Santos, S. (under construction). Alienation, othering and reconstituting: An alternative future for women’s coach education. Quest
  • Hunter, A., Morgan, K., Harris, K., Santos, S. & Mouchet, A. (2023). Developing the use of explicitation techniques in team games as a pedagogical tool for coaching practice. International Journal of Sports Science & Coaching, 18 (4), 1025-1035
  • Clements, D., Morgan, K. & Harris, K. (2022). Investigating the use of Appreciative Inquiry as a process for coach development within a National Governing Body talent development programme. Sport, Education and Society, 28 (8), 972-989
  • Clements, D., Morgan, K. & Harris, K. (2020). Adopting an Appreciative Inquiry approach to propose change within a national talent development system. Sport, Education and Society, 27 (3), 286-299
  • Harris, K., & Jones, R.L. (2012). Enhancing coaches’ experiential learning through Communities of Practice (CoPs): An action research study. Saarbrücken, Germany: Lambert
  • Jones, R.L., Morgan, K. & Harris, K. (2012). Developing coaching pedagogy: Seeking a better integration of theory and practice. Sport, Education and Society, 17 (3), 313-329


Penodau mewn Llyfrau

  • Morgan, K., Harris, K. & Castro, J. (in press). Action Research. In L. Nelson, R. Groom & P. Potrac (Eds.). Research Methods in Sport Coaching. 2nd Edition
  • Morgan, K., Thomas, G. & Harris, K. (2016). Albert Bandura: Observational learning in coaching. In L. Nelson, R. Groom & P. Potrac (Eds.). Learning in Sports Coaching: Theory and Application. London: Routledge

Addysgu a Goruchwylio

Mae Kerry wedi addysgu ystod o fodiwlau gwahanol ar draws y rhaglenni israddedig ôl-raddedig mewn hyfforddi chwaraeon. Mae hi wedi dal nifer o rolau gwahanol gan gynnwys Tiwtor Blwyddyn a Chyfarwyddwr Rhaglen. Mae hi wedi goruchwylio ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig ac ar hyn o bryd mae’n goruchwylio ar lefel Doethuriaeth ar gyfer nifer o fyfyrwyr lefel 8.

Cymwysterau a Gwobrau

  • Trwydded A FAW/UEFA ac Ieuenctid Elît A
  • PhD Hyfforddi Chwaraeon, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • MSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • Tystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Proffil Hyfforddi

  • Rheolwr Cenedlaethol / Prif Hyfforddwr Prifysgolion Cymru (2004-2010)
  • Hyfforddwr Sgwad Merched Rhanbarthol Cymru (2005-2007)
  • Hyfforddwr Cynorthwyol Myfyrwyr Prydain Fawr yng Ngemau Prifysgolion y Byd (2009)
  • Cyfarwyddwr Technegol Academi Bêl-droed Met Caerdydd (2008-2011)
  • Prif Hyfforddwr / Cyfarwyddwr Perfformiad Clwb Pêl-droed Menywod Met Caerdydd (2003-Presennol)


Yn ystod ei hamser ym Met Caerdydd, mae Kerry wedi hyfforddi clwb pêl-droed y menywod i sawl teitl Cynghrair a Phencampwriaeth BUCS, teitlau cynghrair domestig a chwpanau Cymdeithas Bêl-droed Cymru a hefyd, chwe gwaith wedi sicrhau lle yn Rowndiau Rhagbrofol Cynghrair Pencampwyr y Menywod UEFA. 2014 a 2019 oedd ei blynyddoedd hyfforddi mwyaf llwyddiannus o bell ffordd, gan ennill pedair o bum cystadleuaeth fawr gan gynnwys y trebl domestig.