Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu graddau a gydnabyddir yn broffesiynol, ynghyd ag ymchwil ac arloesi effeithiol, mewn celf a dylunio, busnes a rheolaeth, addysg a gwasanaethau cyhoeddus, chwaraeon a gwyddorau iechyd, a thechnolegau a pheirianneg.
Fel sbardun ar gyfer trawsnewid addysgol a chymdeithasol, rydym yn gweithio gyda phwrpas i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial at eu cenhedlaeth eu hunain a chenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn gatalydd ar gyfer arloesi a’r economi, ac yn gyfrannwr allweddol i dyfiant cynhwysol a chynaliadwy yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cymuned gydweithredol a thrugarog, ymgorfforir ein gwerthoedd o greadigrwydd, amrywiaeth, rhyddid ac arloesi yn ymddygiad ein staff a’n myfyrwyr; trwy ein harweinyddiaeth, ymddiriedaeth, dewrder ac atebolrwydd i’n gilydd, ac i’n partneriaid.