Dr Jasper Verheul

​Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Cyfeiriad E-bost: jpverheul@cardiffmet.ac.uk
Twitter: @jasper_verheul

Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yw Jasper. Ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2022. Cyn ymuno â Met Caerdydd, cwblhaodd ei astudiaethau MSc a PhD mewn biomecaneg chwaraeon ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Yna gweithiodd fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol mewn biomecaneg y cyhyrau ym Mhrifysgol Birmingham. Mae ei bynciau ymchwil o ddiddordeb yn cynnwys llwytho biomecanyddol yn ystod symudiadau chwaraeon, mecaneg cyhyron-tendonau, ac addasiadau biomecanyddol i hyfforddiant. Mae’n addysgu ar draws amrywiaeth o fodiwlau biomecaneg ar lefel BSc a MSc


Diddordebau Ymchwil a Chyhoeddiadau

Diddordebau Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio’n bennaf ar y llwythau biomecanyddol a brofir gan y system gyhyrsgerbydol yn ystod amryw o gampau, a’r addasiadau cysylltiedig â pherfformiad ac anafiadau mewn ymateb i’r llwythau hyn. Mae’r defnydd o dechnolegau gwisgadwy yn ddiddordeb arbennig – megis unedau mesur anadweithiol a wisgir ar y corff – ar y cyd â modelu cyhyrsgerbydol a thechnegau mathemategol uwch i ddeall biomecaneg symudiadau chwaraeon yn well mewn lleoliadau maes.


Erthyglau Cyfnodolion

Verheul, J., Robinson, M.A. & Burton, S. (2024). Jumping towards field-based ground reaction force estimation and assessment with OpenCap. Journal of Biomechanics, DOI: 10.1016/j.jbiomech.2024.112044

Verheul J, Yeo SH. (yn y wasg). A Hybrid Method for Ultrasound-Based Tracking of Skeletal Muscle Architecture. IEEE Trans Biomed Eng.

Verheul J, Nedergaard NJ, Pogson M, Lisboa P, Gregson W, Vanrenterghem J, Robinson MA. (2021). Biomechanical loading during running: can a two mass-spring-damper model be used to evaluate ground reaction forces for high-intensity tasks? Sports Biomech, 20(5):571-582. doi: 10.1080/14763141.2019.1584238.

Johnson WR, Sian A, Robinson MA, Verheul J, Lloyd DG, Alderson JA. (2021). Multidimensional ground reaction forces and moments from wearable sensor accelerations via deep learning. IEEE Trans Biomed Eng, 68(1):289-297. doi: 10.1109/TBME.2020.3006158.

Verheul J. (2020). Biomechanical loads in running-based sports: estimating ground reaction forces from segmental accelerations (Gwobr Academi PhD). Br J Sports Med, 54(14):879-880. doi: 10.1136/bjsports-2019-100670.

Verheul J, Nedergaard NJ, Vanrenterghem J, Robinson MA. (2020). Measuring biomechanical loads in team sports – from lab to field. Sci Med Football, 4(3):246-252. doi: 10.1080/24733938.2019.1709654.

Smeets A, Verheul J, Vanrenterghem J, Staes F, Vandenneucker H, Claes S, Verschueren S. (2020). Single-joint and whole-body movement changes in ACL athletes returning to sport. Med Sci Sports Exerc, 52(8):1658-1667. doi: 10.1249/MSS.0000000000002308.

Pogson M, Verheul J, Vanrenterghem J, Robinson MA, Lisboa P. (2020). A neural network method to predict task- and step-specific ground reaction force magnitudes from trunk accelerations during running activities. Med Eng Phys, 78:82-89. doi: 10.1016/j.medengphy.2020.02.002.

Verheul J, Warmenhoven J, Lisboa P, Gregson W, Vanrenterghem J, Robinson MA. (2019). Identifying generalised segmental acceleration patterns that contribute to ground reaction force features across different running tasks. J Sci Med Sport, 22(12):1355-1360. doi: 10.1016/j.jsams.2019.07.006.

Verheul J, Gregson W, Lisboa P, Vanrenterghem J, Robinson MA. (2019). Whole-body biomechanical load in running-based sports: the validity of estimating ground reaction forces from segmental accelerations. J Sci Med Sport, 22(6):716-722. doi: 10.1016/j.jsams.2018.12.007.

Nedergaard NJ, Verheul J, Drust B, Etchells T, Lisboa P, Robinson MA, Vanrenterghem J. (2018). The feasibility of predicting ground reaction forces during running from a trunk accelerometry driven mass-spring-damper model. PeerJ, 6:e6105. doi: 10.7717/peerj.6105.

Verheul J, Clansey AC, Lake MJ. (2017). Adjustments with running speed reveal neuromuscular adaptations during landing associated with high mileage running training. J Appl Physiol, 122(3):653-665. doi: 10.1152/japplphysiol.00801.2016.


Addysgu a Goruchwylio

Addysgu

Rwy’n addysgu ar draws casgliad o fodiwlau biomecaneg ar lefel BSc a MSc ac rwy’n arwain y modiwl Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SSP5127) ar hyn o bryd. Yn ogystal, rwy’n goruchwylio sawl prosiect traethawd hir israddedig ac ôl-raddedig sy’n astudio sawl agwedd biomecanyddol ar berfformiad chwaraeon, monitro llwythau, ac addasu. Rydw i hefyd yn diwtor personol ar gyfer y rhaglen Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.


Cymwysterau a Gwobrau

Cymwysterau

  • PhD mewn Biomecaneg Chwaraeon, Prifysgol John Moores Lerpwl, 2019.
  • MSc mewn Biomecaneg Chwaraeon a Chlinigol, Prifysgol John Moores Lerpwl, 2015..
  • BSc mewn Pensaernïaeth, Adeiladu a Chynllunio (Dylunio Strwythurol), Prifysgol Technoleg Eindhoven, 2012
  • Cymrawd Cyswllt yr Academi Addysg Uwch.


Gwobrau

  • Enwebiad ar gyfer Gwobr Academi PhD 2019-2020 gan y British Journal of Sport Medicine, 2020.
  • Gwobr y cyflwyniad llafar gorau yng nghyfarfod Grŵp Buddiant Biomecaneg BASES, Prifysgol Salford, 2018.
  • Enwebiad ar gyfer gwobr ymchwiliwr ifanc yng nghynhadledd Cyhyrau a Symudiad, Prifysgol y Frenhines Fair Llundain, 2016.


Cysylltiadau Allanol

Rwy’n aelod llawn o’r Gymdeithas Biomecaneg Ryngwladol (2017-presennol) a’r Gymdeithas Biomecaneg Ryngwladol mewn Chwaraeon (2022-presennol). Rwy’n adolygydd ar gyfer sawl cyfnodolyn gwyddonol rhyngwladol ym meysydd biomecaneg, meddygaeth chwaraeon, a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, gyda >60 adolygiad wedi’u dilysu ar Publons.


Arholiadau Allanol

  • Traethawd ymchwil PhD: Prifysgol Talaith Sao Paulo (UNESP), 2021


Cydweithredwyr Allanol

  • Dr Mark Robinson – Prifysgol John Moores Lerpwl, DU
  • Dr Sang-Hoon Yeo – Prifysgol John Moores Lerpwl, DU
  • Yr Athro Jos Vanrenterghem – KU Leuven, Gwlad Belg
  • Dr Shinjiro Sueda – Prifysgol A&M Texas, UDA