Hannah Plumpton

Teitl Swydd:        Darlithydd
Rhif Ystafell:     
D0.07d
Rhif Ffôn:        
+ 44 (0) 29 2041 7287
Cyfeiriad E-bost:   
hplumpton@cardiffmet.ac.uk

 

Proffil

 

Mae Hannah yn Therapydd Lleferydd ac Iaith cymwysedig, ac mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm darlithio Met Caerdydd ers 2007.

Yn y flwyddyn 2000, dechreuodd Hannah ei swydd glinigol gyntaf yn Essex yn gweithio gyda phlant ac oedolion ag anawsterau cyfathrebu a llyncu. Yn 2002, symudodd Hannah yn ôl i Gaerdydd i ddechrau swydd fel Therapydd Lleferydd ac Iaith Arbenigol mewn ysgol arbennig i blant ag anawsterau lleferydd ac iaith penodol.

Pan symudodd Hannah i addysgu ym Met Caerdydd, cyflawnodd ei Thystysgrif Ôl-raddedig Addysgu ym maes Addysg Uwch, a daeth yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch. Yn ogystal, cafodd Hannah gymrodoriaeth addysgu a arweinir gan fyfyrwyr am addysgu arloesol yn 2012, ar ôl ail-gynllunio ei haddysgu i gynnwys dulliau clinigol dilys. Yn 2015, cafodd Hannah Uwch Gymrodoriaeth gan yr Academi Addysg Uwch, sy'n adlewyrchu ei hymgysylltiad parhaus â dysgu ac addysgu.

Ar hyn o bryd, mae Hannah yn cynnal clinig pediatrig yn y brifysgol mewn cydweithrediad â'r bwrdd iechyd lleol, ac mae'n aml yn goruchwylio lleoliadau myfyrwyr. Mae hi hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Clinigol, ac yn addysgu am namau lleferydd ac iaith pediatrig.

Mae Hannah yn aelod o'r corff proffesiynol, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, a'r corff rheoleiddio y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.


Addysgu

Mae Hannah yn arbenigo mewn anawsterau lleferydd ac iaith, gan gynnwys namau iaith penodol ac anhwylderau sain lleferydd. 

Mae'n addysgu ar y modiwlau canlynol:

SLP5021 Patholeg Lleferydd ac Iaith 1

SLP5031 Patholeg Lleferydd ac Iaith 2

SLP5050 Arfer Clinigol 1

SLP6011 Patholeg Lleferydd ac Iaith 3

SLP6040 Seicoieithyddiaeth a Niwroseicoleg Wybyddol

SLP6050 Arfer Clinigol 2

SLP6080 Prosiect Blwyddyn Olaf

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Hannah ym maes anhwylderau sain lleferydd a nam ieithyddol. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar oedolion sydd â namau ieithyddol datblygiadol parhaus, ac ar hyn o bryd mae Hannah yn cyflawni ei gradd Meistr mewn Ymchwil ym Met Caerdydd er mwyn ymchwilio i'r boblogaeth hon ymhellach, ac i archwilio anghenion cymorth ymhellach.

 

 

Cyhoeddiadau

Plumpton, H. (2010) Bridging the Gap' between theory and practice- Situative Learning and Experiential Techniques in the Lecture Theatre yn Haslett, S.K. (Gol) Linking research and teaching in Wales. Yr Academi Addysg Uwch.

Plumpton, H. a Mayr, R. (2014) Clinical Morphology yn Methods in Teaching Clinical Linguistics and Phonetics (Whitworth a Knight (goln). Guildford: Gwasg J&R