Dr Rebecca Aicheler

Teitl Swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Imiwnoleg

Cyfeiriad E-bost: RAicheler@cardiffmet.ac.uk​

Rhif Ffô​n:​​ + 44 (0) 29 2041 5559

Rhif Ystafell: D2.10

Addysgu

Rwy'n addysgu Imiwnoleg a Firoleg ar y cyrsiau gradd BSc Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddor Gofal Iechyd, ac ar y cwrs gradd MSc Gwyddor Biofeddygol.  Rydw i hefyd yn addysgu pathoffisioleg clefydau ar y radd Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg a'r radd Gwyddor Gofal Iechyd Cyflenwol.

  • Rwy'n addysgu ar y modiwlau canlynol:

    Israddedig

    Haint ac Imiwnedd A 

    APS5013   Egwyddorion ac Ymarfer Gwyddorau Cellog 

    SBM5001 Pathoffisioleg Clefyd – (Arweinydd Modiwl) 

    APS6008  Pynciau Cyfoes Gwyddor Biofeddygol 

    Ôl-raddedig

    MBS7021  Technegau Dadansoddol a Diagnostig 

    MBS7008  Microbioleg Feddygol 

    MBS7009 Pynciau Biocemeg Feddygol Uwch 

    MBS7003 Pynciau Imiwnohaematoleg Uwch

    MBS7013 Imiwnoleg – (Arweinydd Modiwl)  


Ymchwil

Mae fy angerdd o ran ymchwil yn ymwneud â deall beth sy'n rheoleiddio gweithrediad celloedd Lleiddiol Naturiol. Mae celloedd Lleiddiol Naturiol yn cynnwys poblogaeth heterogenaidd o lymffocytau cynhenid sy'n dangos gallu eithriadol i ladd celloedd tiwmor a rheoli heintiau firaol penodol. Mae celloedd Lleiddiol Naturiol yn gallu gweithredu'n annibynnol ar gydnabyddiaeth antigen benodol, sy'n golygu eu bod yn gyfansoddion allweddol yn yr ymateb imiwnedd cynhenid. Caiff eu gweithrediad ei reoleiddio drwy integreiddio cyfuniad o signalau actifadu ac ataliol a geir gan ligandau ar eu targedau, ac mae fy nghwestiwn ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall sut mae'r signalau hyn yn rheoleiddio gweithrediad celloedd lleiddiol naturiol.

Mae fy mrhosiectau ymchwil yn cynnwys:

 (1) Modylu Ymateb Lleiddiol Naturiol gan Cytomegalofeirws Dynol

Mae Cytomegalofeirws Dynol (HCMV) yn feirws β-herpes hollbresennol, sy'n sefydlu heintiau hyd oes parhaol yn y lletywr. Mae Cytomegalofeirws yn peri morbidrwydd a marwoldeb mewn unigolion ag imiwnedd gwan, fel pobl sydd â HIV/AIDS neu sy'n cael therapi cyffuriau sy'n atal y system imiwnedd. Mae'r feirws yn peri risg sylweddol i ffetysau heb eu geni, ac mae'n un o brif achosion camffurfiad cynhennid. Mae celloedd Lleiddiol Naturiol yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli heintiau Cytomegalofeirws, ac mae unigolion sydd â diffyg y celloedd hyn yn dioddef o glefyd Cytomegalofeirws amlwg yn aml. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar nodi mecanweithiau newydd sydd wedi'u hamgodio gan y feirws, sy'n ei alluogi i fodylu ymateb y gell Leiddiol Naturiol. Nid yn unig y mae'r ymchwil hwn yn roi dealltwriaeth well i ni o'r rhyngweithiad rhwng celloedd Lleiddiol Naturiol a chelloedd wedi'u heintio â Cytomegalofeirws, ond mae ganddo hefyd oblygiadau pwysig o ran deall mecanweithiau cyffredinol rheoleiddio gweithrediad celloedd Lleiddiol Naturiol. 




HCMV UL141 alters the distribution of CD155, an activator of NK cell function. In the top panel CD155 (in red) is found at the cell surface. In the bottom panel HCMV UL141 (in green) causes CD155 (in red) to be redistributed from the cell surface to the intracellular compartment called the Endoplasmic Reticulum where the two proteins co-localise (in merge shown in yellow). This prevents NK cells from binding to CD155 and leads to inhibition of NK cell degranulation in response to HCMV infected cells. 


(2) Virotherapeutics and NK Cell function
 
NK cells have the ability to recognise and kill diverse types of tumour cells thus providing an attractive avenue for novel immunotherapeutic treatment of a range of cancers. However, in the clinic NK cell immunotherapy has been met with limited success and new approaches for harnessing the ability of NK cells to kill cancer cells are needed.

Oncolytic viruses, those that can selectively infect and kill cancer cells, offer a unique opportunity not only to directly kill cancer cells but to boost the immune response to eradicate tumours. Working in collaboration with Dr Alan Parker at Cardiff University, we are developing a novel oncolytic adenovirus vector that is capable of infecting primary ovarian cancer cells. This vector has the capacity to encode a transgene that when expressed can modulate the NK cell response. My research focusses on phenotyping and functionally profiling NK cells in the ascites of patients with ovarian carcinoma to better enable us to design a vector that can boost the natural ability of NK cells to recognise and lyse ovarian cancer cells in patients.

Cyhoeddiadau

Fielding CA, Weekes MP, Nobre LV, Ruckova E, Wilkie GS, Paulo JA, Chang C, Suárez NM, Davies JA, Antrobus R, Stanton RJ, Aicheler RJ, Nichols H, Vojtesek B, Trowsdale J, Davison AJ, Gygi SP, Tomasec P, Lehner PJ, Wilkinson GW. (2017) Control of immune ligands by members of a cytomegalovirus gene expansion suppresses natural killer cell activation. Elife. 10;6. pii: e22206. DOI: 10.7554/eLife.22206.

Wilkinson, G.W., Davison, A.J., Tomasec, P., Fielding, C.A., Aicheler, R., Murrell, I., Seirafian, S., Wang, E.C., Weekes, M., Lehner, P.J., Wilkie, G.S., Stanton, R.J. (2015) Human Cytomegalovirus: taking the strain. Med Microbiol Immunol. 204(3): 273-84. DOI yr Adolygiad: 10.1007/s00430-015-0411-4

Stanton, R.J., Prod'homme, V., Purbhoo, M.A., Moore, M., Aicheler, R.J., Heinzmann, M., Bailer, S.M., Haas, J., Antrobus, R., Weekes, M.P., Lehner, P.J., Vojtesek, B., Miners, K.L., Man, S., Wilkie, G.S., Davison, A.J., Wang, E.C., Tomasec, P., a Wilkinson, G.W. (2014) HCMV pUL135 remodels the actin cytoskeleton to impair immune recognition of infected cells. Cell Host Microbe. 13;16(2):201-14. DOI: 10.1016/j.chom.2014.07.005

Weekes, M.P., Tomasec, P., Huttlin, E.L., Fielding, C.A., Nusinow, D., Stanton, R.J., Wang, E.C., Aicheler, R., Murrell, I., Wilkinson, G.W., Lehner, P.J., Gygi, S.P. (2014) Quantitative temporal viromics: an approach to investigate host-pathogen interaction. Cell. 5;157(6):1460-72. DOI: 10.1016/j.cell.2014.04.028

Fielding, C.A., Aicheler, R., Stanton, R.J., Wang E.C., Han, S., Seirafian, S., Davies, J., McSharry, B,P., Weekes, M.P., Antrobus, P.R., Prod'homme, V., Blanchet, F.P., Sugrue, D., Cuff, S., Roberts, D., Davison, A.J., Lehner, P.J., Wilkinson, G.W., a Tomasec, P. (2014) Two novel human cytomegalovirus NK cell evasion functions target MICA for lysosomal degradation. PLoS Pathog. 1:10(5) DOI: 10.1371/journal.ppat.1004058

Aicheler, R.J., Wang, E.C.Y., Tomasec, P., Wilkinson, G.W a Stanton, R.J. (2013) Potential for Natural Killer Cell-Mediated Antibody-Dependent Cellular Cytotoxicity for Control of HumanCytomegalovirus. Antibodies 2:(4):617-35 Review DOI:10.3390/antib2040617

Aicheler; R*., Wendell, S*., Tomasec; P*., Loewendorf, A., Nemcovicova, I., Wang, E.C., Stanton, R., Macauley, M., Norris, N., Willen, L., Ruckova, E., Schneider, P., Hahn, G., Zajonc, D., Ware, C.F., Wilkinson, G.W., a Benedict, C. (2013). Human cytomegalovirus UL141 targets the TRAIL death receptors to inhibit host innate defenses. Cell Host and Microbe. * Roedd cyfraniad yr awduron hyn yn gyfartal. Cell Host Microbe 13(3):324-35 DOI: 10.1016/j.chom.2013.02.003

Aicheler, R., a Stanton, R., (2013). Functional NK Cell Cytotoxicity Assays Against Virus Infected Cells. Methods Mol Biol. 1064:275-87. DOI: 10.1007/978-1-62703-601-6_20

Penodau Llyfr

Wilkinson, G.W., Aicheler, R., a Wang, E.C.Y. (2013). Pennod II.8: Natural Killer Cells and Human Cytomegalovirus. Cytomegaloviruses from Molecular Pathogenesis to Intervention. Gwasg Caister. 2013 


Cyflwyniadau

Cyflwyniadau Llafar Cenedlaethol a Rhyngwladol

2016 Symposiwm Celloedd Lleiddiol Naturiol Prydain

2016 Cymdeithas Ficrobiolegol Prydain

2013 Cynhadledd Cytomegalofeirws Dynol Prydain

2011 Cynhadledd Cytomegalofeirws Dynol Prydain

2008 Cyngres Flynyddol Cymdeithas Imiwnoleg Prydain

2008 11eg Cyfarfod y Gymdeithas ar gyfer Imiwnedd Naturiol

2008 Gweithdy Herpesfeirws Rhyngwladol

2008 Gweithdy ar Imiwnedd Gwrthfiraol Cynhenid a Gochel Firysau 

 

Cyflwyniadau Poster Cenedlaethol a Rhyngwladol

 

2013 Cyngres Imiwnoleg Ryngwladol

2008 Gweithdy Herpesfeirws Rhyngwladol

2008 Gweithdy Herpesfeirws Rhyngwladol

2004 Cymdeithas Imiwnoleg Prydain

 


Dolenni Allanol

Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch

Aelod o Gymdeithas Imiwnoleg Prydain

Ysgrifennydd Cymdeithas Imiwnoleg Prydain, De Cymru

Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd

Rhwydweithio Personal