Dr Mark Lowther

​​

 

​​

Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen Ôl-raddedig

Rhif ffôn: 029 2041 7076
Cyfeiriad e-bost: mlowther@cardiffmet.ac.uk​

Mae Mark yn gyfrifol am ddysgu ac addysgu israddedig ac ôl-raddedig, prosiectau ymchwil gweithredu ac ymgynghori â rheolwyr (gan gynnwys mentora proffesiynol a hyfforddi gweithredol) ym maes arweinyddiaeth chwaraeon. Ymhlith y cyd-destunau mae sefydliadau chwaraeon prif ffrwd (yn benodol cynllunio strategol, llywodraethu corfforaethol a rheoli pobl) ac amgylcheddau chwaraeon elitaidd (yn enwedig diwylliannau perfformiad uchel, capteniaeth tîm ac grwpiau arweinyddiaeth). Cyn y byd academaidd bu Mark yn gweithio ar lefel uwch yn y sectorau cyhoeddus a masnachol ar draws datblygu chwaraeon cymunedol (gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol a'r agenda iechyd) a rheoli cyfleusterau hamdden (gan gynnwys twristiaeth ac adfywio economaidd).




Ymchwil / Cyhoeddiadau

Fy maes diddordeb penodol yw rôl ac effaith arweinyddiaeth yng nghyd-destun amgylcheddau perfformiad uchel a thimau chwaraeon elitaidd. Mae diffiniad a chwmpas arweinyddiaeth yn cynnwys hyfforddwyr a chwaraewyr, ymdrech unigol ac ymddygiad grŵp, cyfrifoldeb ffurfiol a dylanwad anffurfiol. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn yr egwyddorion a'r mewnwelediadau trosglwyddadwy o chwaraeon elitaidd i'r cyd-destun busnes. Fy hoff ddull o archwilio'r diddordebau hyn yw trwy ymchwil weithredu a chydweithio.

Mae prosiectau ymchwil wedi cynnwys - Rôl arweinyddiaeth mewn ymgyrch ennill cwpan Ewropeaidd (astudiaeth achos undeb rygbi elitaidd); Rôl arwain a dylanwad capteniaeth tîm mewn undeb rygbi proffesiynol; Y broses o gydlyniant tîm mewn rygbi merched elitaidd; Yr amodau a'r ystyriaethau ar gyfer datblygu gwytnwch sefydliadol mewn criced proffesiynol; Yr amodau a'r egwyddorion ar gyfer perfformiad uchel mewn amgylcheddau heriol a chystadleuol (astudiaeth achos rasio cefnfor elitaidd); Egwyddorion ac arferion llywodraethu da mewn sefydliadau chwaraeon Ewropeaidd.

Addysgu a Goruchwylio

Ar hyn o bryd rwy'n Gyfarwyddwr Rhaglen yr MSc mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon ac yn Arweinydd y Modiwl ar gyfer Sgiliau Arweinyddiaeth a Dylanwadu (Ôl-raddedig), Strategaeth a Newid Sefydliadol (Ôl-raddedig) a Rheolaeth a Newid Strategol (Israddedig). Rwyf hefyd yn dysgu arweinyddiaeth chwaraeon ar nifer o fodiwlau eraill ac yn goruchwylio traethodau hir arweinyddiaeth  israddedig ac ôl-raddedig.

Cymwysterau a Gwobrau

MSc Organisation Consulting - Ashridge Business School
PgC Teaching in Higher Education – Cardiff Metropolitan University
Welsh Assembly Government - Inside Welsh Industry: Best Practice Exemplar
Wales Quality Award - Most Improved Organisation
Fellow - Higher Education Academy

Dolenni Allanol

Aelodaeth bwrdd: UK Board - Turnaround Management Association, National Council - Association for Management Education and Development, Chairman - Welsh Triathlon, Advisory Board - International Sport and Culture Association, Board Member - Urdd Gobaith Cymru Sport, Board Member - Cardiff Mind, Editorial Board (Leisure and Culture) - Chartered Institute of Public Finance and Accountancy.​

Aelodaeth broffesiynol: Association of Management Education and Development, Association of Business Psychologists, European Mentoring and Coaching Council, Society for Organisational Learning, Chief Leisure Officers Association.

Partneriaethau gwybodaeth: European Commission Project on Sport Governance, European Commission Health Programme/MOVE Project, European Commission Expert Group on Sport Governance, sports coach UK (Talent and Performance Coaching), Welsh Rugby Union (Leadership and Management), Saracens Rugby (Player Development Planning), James Grant Rugby (Academic Advisor), England Rugby League (High Performance and Emotional Intelligence)​, Arsenal FC (Player Development Planning), Glamorgan CCC (Strategic Insight Programme), Volvo Ocean Race (High Performance Teams).​

Arholwr Allanol: Prifysgol Swydd Gaerloyw (Rheoli Busnes Chwaraeon).