Dr Daniel Milton

​​​

 

​​

​​​Darlithydd mewn Addysg Gorfforol a Hyfforddi Chwaraeon/Uwch Hyfforddwr Clwb Rygbi Metropolitan Caerdydd

Cyfeiriad e-bost: dmilton@cardiffmet.ac.uk

Mae Daniel yn Ddarlithydd mewn Addysg Gorfforol a Hyfforddi Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Mae hefyd yn un o'r uwch hyfforddwyr rygbi o fewn Clwb Rygbi Metropolitan Caerdydd sy'n chwarae ym Mhencampwriaeth  Cenedlaethol WRU ac Uwch adrannau BUCS. Ymunodd Daniel â'r Ysgol yn 2012, yn dilyn 12 mlynedd fel athro addysg gorfforol yng Nghaerdydd.

Mae Daniel yn diwtor blwyddyn i'r rhaglen Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Lefel 4 ac yn addysgu ar draws y modiwlau addysgeg, hyfforddi a pherfformio.  Mae'n hyfforddwr cymwys Lefel 4 ac yn addysgwr hyfforddwyr. Ar hyn o bryd ef yw hyfforddwr ymosod 18s Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru.  Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Phrifysgol Birmingham a Sport Wales ar brosiect ymchwil cydweithredol sy'n ymwneud â chymhelliant ac Egwyddorion Grymuso.


Ymchwil / Cyhoeddiadau

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio yn y meysydd hyfforddi ac addysg gorfforol.  Mae gwella adborth i chwaraewyr a disgyblion wrth addysgu a hyfforddi gyda gwell dysgu yn un maes o ddiddordeb arbennig.  Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Birmingham a Sport Wales ar y prosiect ymchwil Grymuso Addysg Gorfforol sy'n edrych ar gymhelliant ac Egwyddorion Grymuso.  Ar hyn o bryd rwy'n cwblhau fy PhD gyda Joan Duda fel fy Nghyfarwyddwr Astudiaethau yn ogystal â Paul Appleton ac Anna Bryant.  Y nod yw archwilio'r berthynas rhwng amgylcheddau grymusol, ansawdd cymhelliant a datblygu pobl ar eu taith llythrennedd corfforol.

Penodau Llyfr
Morgan, K., Milton, D., & Longville, J. (in press 2015). Motivating pupils for learning in PE. In S. Capel & M. Whitehead (Eds.), Learning to Teach Physical Education. Routledge. London

Addysgu a Goruchwylio

Ar hyn o bryd rwy'n cyflwyno modiwlau ym meysydd Addysg Gorfforol ac Addysgeg, hyfforddi chwaraeon yn ogystal â modiwlau perfformiad ar draws y rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig.  Rwy'n Diwtor Blwyddyn ar gyfer Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Lefel 4 yn ogystal ag arweinydd modiwl ar gyfer SSP4019 Cyflwyniad Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid yn ogystal â Materion SSP5060 mewn Addysg Gorfforol ac Addysgeg.

Modiwlau Cyfredol
SSP4019 - Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid (Arweinydd Modiwl Lefel 4)
SSP5060 - Materion mewn AG (Arweinydd Modiwl Lefelau 5) 
SSP6089 – PBL mewn AG ac Addysgeg (Lefel 6)
SSP4060 - Egwyddorion a Thechnegau Chwaraeon (Rygbi Lefel 4)
SSP5067 - Technegau a Dadansoddi (Rygbi Lefel 5)
SSP6077 - Dadansoddi a Chymhwyso (Rygbi Lefel 6)
SSP7071 - Chwaraeon ac AG (Lefel 7)
SSP7005 - Deall yr Amgylchedd Hyfforddi (Lefel 7)

Cymwysterau a Gwobrau

B.A.  Astudiaethau Chwaraeon a Symud Dynol
TAR (Uwchradd AG)
Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Datblygu Chwaraeon a Hyfforddi Pg.D.
M.Sc. Gwyddor Hyfforddi (Rhagoriaeth)
Hyfforddwr Lefel 4 WRU
Addysgwr Hyfforddwyr WRU

Dolenni Allanol

Rwy'n gysylltiedig â nifer o sefydliadau allanol trwy ymchwil, ymarfer proffesiynol, gweithgareddau menter a dysgu ac addysgu.

WRU – Attack Coach National 18’s
Ers dechrau tymor 2014 rwyf wedi cael fy mhenodi’n hyfforddwr ymosodiad WRU National 18’s.  Mae gen i gyfrifoldeb i ddatblygu chwaraewyr ymosodol medrus iawn a bod yn rhan oo’r broses sicrhau parhad a dilyniant y chwaraewyr 18 oed drwy’r 20au i’r garfan hŷn.

WRU – Addysgwr Hyfforwyr
Fel addysgwr hyfforddwyr, rwyf wedi bod yn rhan o'r broses o ymgorffori cymwysterau hyfforddi Lefel 1 a Lefel 2 UKCC yn y modiwlau perfformiad. Gan weithio gyda Chris Davey, Neil Henessey a John Evans o’r WRU, mae'r myfyrwyr Lefel 4 bellach wedi cwblhau eu cymhwyster hyfforddi Lefel 1 WRU UKCC fel rhan o'r modiwl ac ar lefel 5 byddant yn cwblhau cymhwyster hyfforddi Lefel 2 WRU UKCC.

Sport Wales – Grymuso Addysg Gorfforol
Fel rhan o'r prosiect Grymuso Addysg Gorfforol, rwyf wedi cyflwyno gweithdai ar yr egwyddorion Grymuso Addysg Gorfforol sy'n sylfaenol i ddarparu addysg gorfforol yng Nghymru.  Mae'r gweithdy hwn yn y broses o gael ei fireinio a'i ddatblygu ar gyfer ei gyflwyno ledled Cymru.

IPLA – Cymdeithas Llythrennedd Corfforol Rhyngwladol

Proffil Chwaraeon / Hyfforddi

Clwb Rygbi Met Caerdydd (2007 hyd heddiw) Uwch Hyfforddwr y Cefnau
WRU National 18’s (2014 hyd heddiw) – Hyfforddwr Ymosod
Cardiff Blues Hyfforddwr Age Grade (2004-2008)
Cadeirydd Undeb Rygbi Ysgolion Caerdydd (2003-2005)