Teitl Swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Maetheg a Deieteteg
Rhif Ystafell: D1.14
Cyfeiriad E-bost:
kgallimore@cardiffmet.ac.uk
Rhif ffôn: + 44 (0) 29 2041 7219
Addysgu
Ym Met Caerdydd, prif feysydd dysgu Katherine yw arferion bwyd, tablau cyfansoddiad bwyd, sgiliau proffesiynol, sgiliau addysgu/cyfathrebu a deieteteg glinigol, yn edrych ar diabetes yn benodol. Mae hi hefyd yn goruchwylio nifer o draethodau hir israddedig ar faetheg a deieteteg, ac mae hi wedi bod yn llwyddiannus yn dosbarthu gwaith myfyrwyr i'r gymuned faetheg a deieteteg ehangach fel cyflwyniadau poster/crynodebau i gynadleddau, a'i chyflwyniad llwyddiannus diweddaraf oedd.
Ymchwil
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd.
Cyhoeddiadau
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd.
Dolenni Allanol
Mae Katherine yn ddeietegydd cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sydd â blynyddoedd o brofiad yn gweithio ym maes gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol a meddygfeydd teulu. Mae ganddi dystysgrif addysgu uwchraddedig mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, gradd Feistr (PoCET) ac mae'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.
Mae Katherine yn parhau i ymarfer fel deietegydd clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac mae hi wedi'i lleoli yn yr adran Therapi Cleifion Allanol yn Ysbyty Ystrad Mynach. Yma, mae hi'n arbenigo mewn cwnsela deiet un i un mewn lleoliad cleifion allanol, ynghyd â gweithredu'r rhaglen Slim for Life ar gyfer grwpiau fel rhan o'r strategaeth rheoli gordewdra ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hi'n un o'r ychydig ddeietegwyr yng ngwledydd Prydain sy'n hyfforddi myfyrwyr deieteteg yn y brifysgol a'r ysbyty.