Yr Athro Delyth James

​​​​​

​​​Yr Athro Delyth Higman James

PhD, MSc, BPharm (​Anrh), GPhC, FRPharmS, FHEA

Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth

Prif Arweinydd ar gyfer REF (Gwyddorau Iechyd)

E-bost​: dhjames@cardiffmet.ac.uk

Ffôn: +44 (0)29 2041 6526

Twitter: @delythhjames​


Addysgu

​Fel Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth a Fferyllydd cofrestredig, prif ganolbwynt diddordebau dysgu Delyth yw seicoleg a'r defnydd o feddyginiaethau. Mae Delyth hefyd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae ganddi ddiddordeb yn rôl yr iaith frodorol mewn ymgynghoriadau gofal iechyd.


Addysgu

  • MSc Seicoleg Iechyd - Seicoleg Iechyd a'r Seicolegydd Iechyd; Newid Ymddygiad Iechyd; Dulliau Ymchwil a Dylunio
  • Seicoleg, BSc (Anrh) - Newid Ymddygiad Iechyd


Goruchwylio Traethodau Hir

  • MSc mewn Seicoleg Iechyd
  • Dulliau Ymchwil Meistr mewn Iechyd a Gwyddor Gymdeithasol [MRes]
  • BSc (Anrh) Seicoleg: Seicoleg Iechyd


Penodiadau Diweddar fel Darlithydd Gwadd

  • 2019 - Darlithydd Gwadd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Coleg Doethurol
  • 2016-19 Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rhagnodi Annibynnol, Prifysgol Caerdydd.
  • 2015-17 MSc mewn Ymchwil Glinigol, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd, Prifysgol Caerdydd.
  • 2015-17 Gradd MPharm, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd, Prifysgol Caerdydd.


Penodiadau Diweddar fel Arholwr Allanol

  • 2018 - 2022 MSc mewn Polisi ac Ymarfer Rhyngwladol, Ysgol Fferylliaeth, Coleg Prifysgol Llundain (UCL).
  • 2014 - 2018 MSc mewn Ymarfer Fferylliaeth Glinigol, Prifysgol Ganol Swydd Gaerhirfryn (UCLAN).
  • 2015 - 2018 MSc mewn Practis Fferylliaeth Gyffredinol, Prifysgol East Anglia (UEA)).
  • 2016 - 2018 Health Education England (HEE), London & Southeast, Fferyllydd Cyn-gofrestru, asesiadau OSCE.​

Ymchwil

Mae Delyth yn Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth. Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â seicoleg ymddygiad cleifion ac ymarferwyr gofal iechyd sy'n sail i ddefnydd effeithiol o feddyginiaethau. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn deall credoau cleifion am feddyginiaethau a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain yn ystod yr ymgynghoriad i wneud y defnydd gorau o feddyginiaeth. Mae meysydd arbenigedd eraill yn cynnwys ymddygiad hunan-feddyginiaeth cleifion, ymroi i gymryd meddyginiaeth, sgiliau ymgynghori, cyfweld ysgogiadol (MI) a rôl y Gymraeg mewn gofal iechyd. Caiff profiad helaeth Delyth o addysgu yn y meysydd hyn ei lywio gan ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.​​


Goruchwylio Graddau Ymchwil

Yn 2020, cafodd Delyth ei henwebu a'i rhoi ar restr fer Gwobr Goruchwyliwr PhD y Flwyddyn y DU, FindAUniversity Ltd.


Goruchwylio Graddau Ymchwil

Cyfredol

2019 - presennol Derith Rhisiart, Rôl yr iaith frodorol mewn cyfweliadau ysgogiadol ac ymgynghoriadau newid ymddygiad (Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

2018 - presennol Elizabeth Sheils, Adherence-related medication beliefs in patients with psoriatic arthritis, School of Pharmacy & Pharmacology, Ysgol Fferylliaeth a Ffarmacoleg, PhD, Prifysgol Caerfaddon

Wedi'u Cwblhau

2018 - 2023 Dr Sarah Brown, Visualising hypertension, and medication adherence (wedi'i ariannu gan KESS2)

2018 - 2022 Dr Jen Ward, Positive Psychology intervention in a community pharmacy setting (PhD wedi'i ariannu gan KESS2)

2014 - 2019 Dr Fadya Al-Hamadani, Factors affecting the safe administration of medicines in care homes, PhD (Prifysgol Caerdydd)

2002 - 2005 Dr Rauja Abdel Tawab, Development, and validation of the medicines related consultation framework (MRCF), PhD (Prifysgol Brighton)


Arholiadau PhD Viva Voce (n=16)

  • Coleg Prifysgol Llundain (UCL) (x4)
  • Coleg y Brenin Llundain (KCL) (x3)
  • Prifysgol Caerfaddon (x2)
  • Prifysgol Manceinion
  • Prifysgol Nottingham
  • Prifysgol John Moore Lerpwl
  • Prifysgol Bradford
  • Prifysgol Aberdeen
  • Prifysgol East Anglia
  • Prifysgol Caerdydd (yn cael ei arwain yn Gymraeg)


Grantiau Ymchwil Diweddar

2023 RCBC Cymru, Meithrin Gallu Ymchwil ar gyfer Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Fferyllwyr; Cyntaf i Ysgoloriaeth Ymchwil "Exploring Vaccine Hesitancy Among Welsh Prison Residents: A Qualitative Study". Christopher Smith, Dr Kate Isherwood, Yr Athro Delyth H James (£12k) gyda Benjamin Gray, Stephanie Perret (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

2023 Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 50% Ysgoloriaethau PhD. 'Deall prosesau rhesymu a gwneud penderfyniadau disgyblion sy'n gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg i fynd i astudio trwy gyfrwng y Saesneg mewn Colegau Addysg Bellach'. Dr Mirain Rhys, Katharine Young, Yr Athro Delyth James (£33,000).

2023 Iechyd Cyhoeddus Cymru, Mewnwelediadau ymddygiadol am alluogwyr a rhwystrau i gleifion sy'n dychwelyd anadlwyr i'r fferyllfa gymunedol i'w gwaredu'n ddiogel. Yr Athro Delyth James, Heidi Seage, Dr Rhiannon Phillips, Dr Sarah Brown, Dr Britt Hallingberg (£25,000).

2022 Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru  - A transdisciplinary feasibility study of the use of a Blood Pressure visualisation platform (Vista_BP) in GP surgeries in Wales. Yr Athro Delyth James, Dr Barry McDonnell, Dr Britt Hallingberg, Sarah Brown, Dr Imtiaz Khan, Dr Paul Angel ac Owen Stickler (£30k).

2022 Llywodraeth Cymru, Datblygu cymorth penderfynu ar gyfer menywod a merched sy'n ystyried defnyddio Valproate i reoli eu Hepilepsi. Dr Rhiannon Phillips, Yr Athro Delyth James (£10,000).

2021 Llywodraeth Cymru, Pharmacy - Delivering a Healthier Wales. Steroid Safety Solutions: Development and Impact of a Pharmacy Steroid Advice Service on Patient Safety & Profession. Dr Lynnette James, Yr Athro Aled Rees, Yr Athro Delyth H James (£18,477).

2020 Ser Cymru - Tackling COVID-19 Funding. COVID-19 public experiences in Wales: A longitudinal mixed-methods study of attitudes, beliefs, and behaviour in response to the coronavirus pandemic. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Banc Data SAIL, Prifysgol Abertawe. Dr Rhiannon Phillips Dr Britt Hallingberg, Dr Heidi Seage, Dr Nick Perham, Advisors: Yr Athro​ Diane Crone a'r Athro Delyth James (£102,000).

2020 Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 100% PhD Scholarship. Deall prosesau rhesymu a gwneud penderfyniadau disgyblion sy'n gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg i fynd i astudio trwy gyfrwng y Saesneg mewn Colegau Addysg Bellach​'. Dr Mirain Rhys, Yr Athro Delyth James (£66,000).

2019 Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2), ysgoloriaeth PhD Cronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF)​. Developing a theory-based understanding of the factors that contribute to the decision to donate whole blood (and /or platelets) in young people in Wales. Dr Heidi Seage, Dr Delyth H James, Amanda Davies, Claire Glennan (£80,000).

2019 RCBC Cymru, Meithrin Gallu Ymchwil ar gyfer Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Fferyllwyr; Cyntaf i Ysgoloriaeth Ymchwil. Designing an intervention to improve the timeliness of medicines supply and clinical information at discharge from hospital. David Mcrae, Dr Delyth H James (£10,744).​

Cyhoeddiadau

Erthyglau Cyfnodolyn Academaidd Wedi'u Cyfeirnodi

Smith J, Seage CH, Lane E, James DH (2023). Using the Theoretical Domains Framework to Uncover the Barriers and Facilitators of Medication Adherence in Parkinson's Disease. Exploratory Research in Clinical and Social Pharmacy. Doi.org/10.1016/j.rcsop.2023.100309

Dale C, Seage CH, Phillips, R, James DH (2023). The Role of Medication Beliefs in COVID-19 Vaccine and Booster Uptake in Healthcare Workers: An Exploratory Study. Healthcare. 11, 1967. https://doi.org/10.3390/healthcare11131967.

Sheils, E, Tillett W, James D, Brown S, Diack C, Family H, Chapman S (2023). Changing Medication-Related Beliefs: A Systematic Review and Meta-Analysis of Randomized Controlled Trials. Health Psychology (wedi'i dderbyn/ yn y wasg).

Ward JL, Sparkes A, Rickets M, Hewlett P, Prior A, Hallingberg B, James DH (2023). Development of a Positive Psychology Well-Being Intervention in a Community Pharmacy Setting, Pharmacy. 11 (1), 14; https://doi.org/10.3390/pharmacy11010014

Phillips R, Hallingberg B, Evans J, Taiyar K, Torrens-Burton A, Cannings-John R, Gillespie D, a Williams D, Shiels L, Ashfield-Watt P, Hughes K, Thomas-Jones E, James D, Wood F. (2022). Perceived threat of COVID-19, attitudes towards vaccination, and vaccine hesitancy: A prospective longitudinal study in the UK. British Journal of Health Psychology. Article DOI: 10.1111/bjhp.12606

Phillips R, Taiyari K, Torrens-Burton A, Cannings-John R, Williams D, Peddle S, Campbell S, Hughes K, Gillespie D, Sellars P, Pell B, Ashfield-Watt P, Akbari A, Seage CH, Perham N, Joseph-Williams N, Harrop E, Blaxland J, Wood F, Poortinga W, Wahl-Jorgensen K, James DH, Crone D, Thomas-Jones E, Hallingberg B (2021) Cohort Profile: The UK COVID-19 Public Experiences (COPE) prospective longitudinal study of health and well-being during the SARSCoV2 coronavirus pandemic. PlosOne https://doi.org/10.1371/journal.pone.0258484

Brown SL, McRae D, Sheils E, McDonnell BJ, Khan I, James DH (2022). The effect of visual interventions on illness beliefs and medication adherence for long-term conditions: a scoping review of the literature and mapping to behaviour change techniques (BCTs). Research in Social and Administrative Pharmacy. 18; 3239-3262.

Hallingberg B, Williams D, Cannings-John R, Hughes K, Torrens-Burton A, Gillespie D, Sellars P, Pell B, Akbari A, Ashfield-Watt P, James DH et al (2021). Protocol for a longitudinal mixed-methods study of psychosocial determinants of health behaviour, health and well-being outcomes during the COVID-19 pandemic: The UK COVID-19 Public Experiences (COPE) Study. BMJ Open.

McRae D, Gould A, Price-Davies R, Tagoe J, Evans A, James DH (2021). Public Attitudes towards Medicinal Waste and Medicines Reuse in a 'Free Prescription' Healthcare System. Pharmacy. 2021; 9(2):77. https://doi.org/10.3390/pharmacy9020077.

Chamberlain R, Huyton J, James DH (2020). Pharmacy Technicians Roles and Responsibilities in the Community Pharmacy Sector: A Wales Perspective. Pharmacy. ISBN 978-3-03936-543-2 (Hbk); ISBN 978-3-03936-544-9 (PDF) https://doi.org/10.3390/books978-3-03936-544-9.

Alves A, Green S, James DH (2019). Deprescribing of medicines in care homes - a 5-year evaluation of primary care pharmacists' practices. Pharmacy. 7, 105; doi:10.3390/pharmacy7030105

James D, Yemm R, Deslandes R (2018). A novel behaviour change learning activity for pharmacy undergraduate students. Pharmacy Education. 18 (1) 1-8.

Kember J, Hodson K, James DH (2018). The public's perception of the role of Community Pharmacists in Wales. International Journal of Pharmacy Practice. 26(2), pp.120-128 DOI:10.1111/ijpp.12375

James, D.H., Mantzourani, E., Porter-Floyd, G. (2017). Pharmacy students' reflections on a 'mock medicines' activity: Exploring intentional and unintentional nonadherence. Pharmacy Education, 2017; 17 (1) 1 - 7

Mcrae D, Allman, M., James, DH (2016). The redistribution of medicines: could it become a reality? International Journal of Pharmacy Practice. DOI 10.1111/ijpp.12275

Warburton J, Hodson KL & James DH (2014). Antibiotic intravenous to oral switch guidelines: Barriers to adherence and possible solutions. International Journal of Pharmacy Practice. DOI: 10.1111/ijpp.12086.

Abdel-Tawab R, James DH, Fichtinger A, Clatworthy J, Horne R & Davies G (2011). Development and validation of the Medication-Related Consultation Framework (MRCF). Patient Education and Counselling. 83 (3): 451-7.

French DP & James DH (2008). Reasons for the use of mild analgesics among English students. Pharmacy World & Science. Vol 30 (1): 79-85.

James DH & French DP (2008). The development of the Self-Medicating Scale (SMS): a scale to measure people's beliefs about self-medication. Pharmacy World & Science. 30: 794-800.

French DP, James DH, Horne R, Weinman J (2005). Causal beliefs and behaviour change post-myocardial infarction: How are they related? British Journal of Health Psychology. Vol 10, 167-182.

James D, Nastasic S, Horne R & Davies G (2001). The design and evaluation of a simulated-patient teaching programme to develop the consultation skills of undergraduate pharmacy students. Pharmacy World & Science, Vol 23(6): 212-216.

Horne R, James D, Petrie K, Weinman J & Vincent R (2000). Patients' interpretation of symptoms as a cause of delay to reach hospital in acute MI. Heart, Vol 83, No 4, p388-393.


Penodau Mewn Llyfrau

McRae D, Gould A, Price-Davies R, Tagoe J, Evans A, James DH (2022). Public Attitudes towards Medicinal Waste and Medicines Reuse in a 'Free Prescription' Healthcare System. In Parastou Donyai (Ed) Medicines Reuse. MDPI, Basel, Switzerland. ISBN 978-3-0365-4090-0 (Hbk); ISBN 978-3-0365-4089-4 (PDF). (Ailargraffiad yw'r llyfr hwn o'r Rhifyn Arbennig ar Ailddefnyddio Meddyginiaethau a gyhoeddwyd yn MDPI Pharmacy).

Chamberlain R, Huyton J, James DH (2020). Pharmacy Workforce Support Personnel. Pharmacy Technicians Roles and Responsibilities in the Community Pharmacy Sector: A Wales Perspective. In Desselle SP and Hohmeier KC (Eds.) Pharmacy Workforce Support Personnel. MDPI, Basel, Switzerland. ISBN 978-3-03936-543-2.

James DH & Patel J (2015). Cardiovascular Cases: Deep Vein Thrombosis (DVT) and warfarin. In Francis SA, Smith F, Malkinson J, Constanti A & Taylor K (Eds). Integrated Pharmacy Case Studies. Pharmaceutical Press, London.

James D & Horne R (2000). The role of patients' perceptions of illness in care-seeking behaviour. In: Gard P (Ed). A Behavioural Approach to Pharmacy Practice. Blackwells Science. Chapter 5.


Arall

The Conversation (2016). Pharmacists May accept Re-dispensing Medicines, but will Patients? Dr Delyth James (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a David Mcrae (Fferyllydd Ymchwil, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf). https://theconversation.com/pharmacists-may-accept-re-dispensing-medication-but-will-patients-63897​.

Proffil

Mae Delyth yn Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Is-gadeirydd etholedig Corff Athrawon. Yn ystod ei gyrfa mae Delyth wedi cynhyrchu hyd at £2m mewn incwm grant ar gyfer cynnal gweithgareddau ysgolheictod ac ymchwil.

Mae hi'n fferyllydd cofrestredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn practis clinigol yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Mae gyrfa academaidd Delyth (yng Nghymru a Lloegr) wedi canolbwyntio ar gydweithio agos â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud gwaith ymchwil gymhwysol ac ymarfer arloesol. Mae ymchwil Delyth yn tynnu ar ddamcaniaeth seicolegol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ganolog i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio meddyginiaeth.

Mae hi'n gweithio ar ryngwyneb ystod o ddisgyblaethau eraill fel technoleg ddigidol, celf a dylunio, a ffisioleg i lywio sawl prosiect gwahanol. Mae ganddi ddiddordeb penodol ym meysydd datblygu cyfathrebu gweledol i gefnogi cymryd meddyginiaeth, cynllunio ymyriadau cymhleth mewn gofal iechyd, ac addysgu gweithwyr proffesiynol i gynnal ymgynghoriadau effeithiol i gefnogi newid ymddygiad.

Yn ystod ei gyrfa cyhoeddodd dros 100 o allbynnau a chyflwynodd yn eang mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n Olygydd Cyswllt ​i'r​ International Journal of Pharmacy Practice, yn aelod o Fwrdd Golygyddol Pharmacy, ac wedi adolygu llawysgrifau i dros ugain o gyfnodolion eraill. Mae Delyth wedi bod yn Is-Gadeirydd ac yn aelod o banel beirniadu a phwyllgorau trefnu Cynhadledd Flynyddol Ymchwil Ymarfer Fferylliaeth y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Chynhadledd Ymchwil Ymarfer Gwasanaethau Iechyd a Fferylliaeth.

Mae Delyth yn Gymrawd Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr, ac yn Gymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch. Mae hi hefyd yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac Isadran Seicoleg Iechyd. Mae hi'n aelod gweithgar o Bwyllgor Moeseg Ymchwil GIG Cymru a grŵp llywio Ymchwil Fferylliaeth Cymru.


Gyrfa

Graddiodd Delyth o Brifysgol Caerfaddon yn 1988 gyda gradd Baglor mewn Fferylliaeth (Anrh). Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant cyn-gofrestru mewn ysbytai yn Rhanbarth GIG Rhydychen, ymunodd ag Ysbyty Charing Cross fel Fferyllydd Preswyl ac enillodd nawdd i gwblhau MSc amser llawn mewn Fferylliaeth Glinigol yn Ysgol Fferylliaeth, Prifysgol Llundain. Ar ôl 5 mlynedd yn gweithio fel fferyllydd arennol gyda rôl addysg a hyfforddiant, teithiodd i weithio fel fferyllydd clinigol mewn ysbyty milwrol yn Saudi Arabia.

Ar ôl dychwelyd i'r DU, dechreuodd Delyth ar PhD mewn Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Brighton gyda'r Athro Robert Horne (bellach yng Ngholeg Prifysgol Llundain) a'r Athro John Weinman (bellach yng Ngholeg y Brenin Llundain). Teitl ei thesis PhD oedd 'Patients' perceptions of myocardial infarction and adherence to treatment'. Wedi hynny ymunodd â staff academaidd yr Ysgol Fferylliaeth, Prifysgol Brighton fel Uwch Ddarlithydd. Yna bu Delyth yn gweithio i Kent, Surrey and Sussex Workforce Development fel fferyllydd addysg a hyfforddiant cyn derbyn swydd yn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Brighton & Hove (PCT) fel Prif Fferyllydd i weithredu agenda rheoli meddyginiaethau Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Pobl Hŷn.

Symudodd Delyth yn ôl i Gymru yn 2005 i ymgymryd â swydd yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd. Yno, bu'n Uwch Ddarlithydd Addysgu ac Ysgoloriaeth a Chyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Ymarfer Clinigol Fferylliaeth (Gofal Cymunedol a Sylfaenol), tiwtor ar gyfer y cwrs rhagnodi anfeddygol gyda mewnbwn addysgu i bob lefel o'r portffolio o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Dechreuodd Delyth yn ei swydd fel Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2015. Cafodd ei dyrchafu'n Brif Ddarlithydd mewn Seicoleg Iechyd yn 2018 wedi iddi gymryd rôl Cydlynydd REF ar gyfer y Gwyddorau Iechyd. Yn 2020, fe'i gwnaed yn Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth i gydnabod ei chyfraniad helaeth at arloesi mewn ymarfer clinigol, drwy ymchwil ac ysgolheictod.


Rolau yn y ​Brifysgol

  • 2023 - presennol Is-Gadeirydd y Corff Athrawon, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
  • 2022- Grŵp Menywod i Ddarllenydd ac Athro, Hwylusydd Set Dysgu Gweithredol
  • 2018-2022 Cydgysylltydd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), Gwyddorau Iechyd
  • 2021-2022 Gweithgor Polisi Ymchwil Agored, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • 2018-2022 Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
  • 2016- presennol Gwyddorau Iechyd (UoA3) Aelod o Banel REF


Aelodaeth Allanol

  • Llysgennad STEM (Hwb Cymru)
  • Cymrawd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (FRPharmS)
  • Pwyllgor Moeseg Ymchwil GIG Cymru (REC1)
  • Grŵp Cynllunio a Gweithredu Strategol Ymchwil Fferylliaeth Cymru
  • Cymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch (FHEA)
  • Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
  • Is-adran Seicoleg Iechyd (DHP)
  • Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC)


Rolau Golygyddol

  • 2022- Golygydd Cyswllt, International Journal of Pharmacy Practice (IJPP). Gwasg Prifysgol Rhydychen.
  • 2020- Bwrdd Golygyddol, Pharmacy, MDPI.


Gwaith Mentora

  • 2019- Pharmacy Research UK.
  • 2019-2022 Cymdeithas Ymchwil a Gweinyddwyr (ARMA) y DU​.​

​​