Gayle Davis

​​

Teitl y Swydd: Uwch ​Ddarlithydd

Rhif Ystafell: D1.11

Rhif Ffôn: + 44 (0)29 2020 5786

Cyfeiriad E-bost: gdavis@cardiffmet.ac.uk




Addysgu

Mae Gayle wedi bod yn addysgu ar y radd BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd ers dros 13 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi dod yn gymrawd ac yna'n Uwch gymrawd o'r Academi Addysg Uwch. Mae Gayle wedi cymryd rhan ar raglen rhagoriaeth addysgu yr Academi Addysg Uwch a chwrs datblygu arweinyddiaeth INSIGHTS. Mae hi hefyd yn addysgu ar yr MSc Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol ac yn goruchwylio myfyrwyr meistr ar draws y cyrsiau MSc Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol ac MSc Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles.

Ei phrif feysydd o ddiddordeb o fewn ei haddysgu yw:

  • Diogelu'r Amgylchedd
  • Asesiad Effaith ar Iechyd
  • Diogelu Iechyd

Mae Gayle hefyd wedi cael cyfle i ddarparu sesiynau addysgu mewn Sefydliadau yn Ewrop ac Affrica ac mae'n parhau i feithrin y partneriaethau rhyngwladol hyn​.

Ymchwil

Astudiodd Gayle Iechyd yr Amgylchedd yn Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd (Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach) cyn gweithio am sawl blwyddyn yn y sector cyhoeddus yn delio â materion yn ymwneud â Diogelu'r Amgylchedd gan gynnwys ymchwilio i faterion niwsans, ansawdd aer, polisi a strategaeth iechyd yr amgylchedd, yn ogystal ag arbenigo mewn rheoli sŵn ac acwsteg amgylcheddol. Yna symudodd Gayle i rôl iechyd cyhoeddus ehangach fel rheolwr partneriaeth strategol iechyd cyhoeddus. Mae ganddi Radd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus o Brifysgol Caerdydd a thystysgrif ôl-raddedig mewn Acwsteg a pheirianneg rheoli sŵn. Yn ystod ei chyfnod yn ymarfer iechyd, datblygodd Gayle sawl diddordeb ymchwil ac ar hyn o bryd mae'n gwneud PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ychwanegol mae Gayle yn awyddus iawn i ddatblygu ei hymchwil addysgeg gyda diddordeb arbennig mewn llythrennedd asesu ac ymholi ar sail problemau.

Cyhoeddiadau

Presentation at the Advance HE's Annual Teaching and Learning Conference 2019, Teaching in the spotlight: Innovation for teaching excellence being held on 2-4 July 2019 at Northumbria University. Presentation entitled - Contextualised academic skills induction to aid transition and retention for undergraduate and postgraduate students. (Stuart Scott, Chris Dennis, Gayle Davis, Alastair Tomlinson)

Presentation to the Environmental Public Health - Collaboration for Sustainable Development Conference, Nairobi, Kenya - Air Quality Management in the UK: A practical perspective. (May 2012)

Poster at Learning & Teaching conference – Cardiff Metropolitan University - Student experience of patch work text assessment – a public health policy module experience. (July 2017)

Poster presentation session - Higher Education Academy Conference, Newcastle. Student experience of patch work text assessment – a public health policy module experience. (January 2018)

Dyjack, D. T., Choonara, A., Davis, G., Hannelly, T., Lynch, Z., Mitchell, G., Rodrigues, M. A., Shaw, L., & Ross, K. E. (2021). The COVID-19 Pandemic and Environmental Health: Lessons Learned. Journal of Environmental Health, 5, 20-.

Rodrigues, M. A., Silva, M. v., Errett, N. A., Davis, G., Lynch, Z., Dhesi, S., Hannelly, T., Mitchell, G., Dyjack, D., & Ross, K. E. (2021). How can Environmental Health Practitioners contribute to ensure population safety and health during the COVID-19 pandemic? Safety Science, 136 (September 2020), 105136. https://doi.org/10.1016/j.ssci.2020.105136​

Dolenni Allanol

Mae Gayle yn Ymarferydd Siartredig mewn Iechyd yr Amgylchedd ac yn aelod o ​Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (www.CIEH.org). Aelod o'r Sefydliad Acwsteg (www.IOA.org.uk) ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (www.heacademy.ac.uk).