Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Ym mis Medi 2017 unodd Ysgol Chwaraeon Caerdydd ag Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd i ddod yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Wedi'i leoli i ddechrau ar draws campws Cyncoed a Llandaf, bydd y Brifysgol yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gampws Cyncoed sydd wedi'i neilltuo'n benodol i chwaraeon a gwyddorau iechyd. Bydd yr Ysgol newydd yn parhau i ddatblygu ei harbenigedd cyfredol, tra hefyd yn datblygu synergeddau newydd rhwng chwaraeon ac iechyd.