Dr Anna Stembridge (nee Mayes)

​​

​Uwch Ddarlithydd mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon

Rhif ffôn: 029 2041
Cyfeiriad e-bost: amayes@cardiffmet.ac.uk

Mae ymrwymiad Anna at ragoriaeth wedi llywio, cymell a siapio ei hathroniaeth o fewn ei gwaith, ac yn ymestyn hefyd i’w bywyd tu hwnt i’r gwaith. Mae’n angerddol dros bobl, dros ferched ym myd chwaraeon a thros arweinyddiaeth.  Mae ei sgiliau cyfathrebu cryf, ei brwdfrydedd a’i hawydd i sicrhau ‘rhagoriaeth’ wedi’i symbylu i geisio creu diwylliant ‘tîm’ sy’n gwerthfawrogi ac yn ysgogi systemau sy’n cyfoethogi profiadau’r dysgwyr a’r timau.

Fel Uwch Ddarlithydd, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i faes hyfforddiant chwaraeon ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â’r modiwlau perfformiad ym maes pêl-rwyd. Yn ystod ei chyfnod gyda’r ysgol chwaraeon, mae Anna hefyd wedi darparu ystod o wasanaethau ymgynghorol i athletwyr, hyfforddwyr a Chyrff Rheoli Cenedlaethol.  Treuliodd gyfnod arbennig o dair blynedd a hanner ar secondiad gyda England Netball fel Prif Hyfforddwr y Tîm Cenedlaethol.

Fel cyn Prif Hyfforddwr a chyn athletwraig ryngwladol, mae Anna yn gallu cyfleu gofynion chwaraeon ar lefel perfformiad uchel a sut i ddelio gyda chyfnodau heriol.  Mae’n cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o fewn yr amgylchedd elît hwn sy’n berthnasol i brofiad y myfyrwyr ond hefyd i feysydd proffesiynol eraill fel busnes, addysg a rheolaeth. 

Mae Anna ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd PhD sy’n seiliedig ar fethodoleg awtoethnograffeg, gan ddefnyddio ymarfer myfyriol ar berfformiad critigol a phrofiad bywyd, i archwilio’r prosesau a’r profiadau dysgu sy’n helpu hyfforddwyr i ymdopi’n well gyda gofynion perfformiad y byd hyfforddi elît.  

Mae’r ffaith bod Anna wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn Rhaglen Hyfforddwyr Elît UK Sport yn dyst i’w gwaith caled, ei phenderfyniad a’i hymrwymiad i hyfforddiant ac arweinyddiaeth yn y DU. Mae’r rhaglen arbennig hon wedi rhoi cyfleoedd unigryw iddi fanteisio ar arbenigedd, technoleg a phrofiadau o’r radd flaenaf, yn ogystal â bodloni gofynion yr hyfforddwr a’r gamp unigol.

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygiad ymarferiad proffesiynol o fewn amgylcheddau perfformiad uchel, yn enwedig hyfforddiant ac arweinyddiaeth chwaraeon.  Mae’r diddordebau hyn yn cynnwys archwilio’r ffactorau seicogymdeithasol sy’n sail i effeithiolrwydd hyfforddwyr, y defnydd o ymarfer myfyriol a sut mae’n llywio gweithredoedd ac ymddygiadau yn y dyfodol, a gallu hyfforddwyr i ymdopi a pherfformio ym maes busnes yn y byd chwaraeon.  Yn fwy diweddar, rwyf wedi ymgymryd ag ymchwilio prosesau recriwtio, cadw a datblygu arweinwyr benywaidd o fewn chwaraeon.

Erthyglau a Arolygwyd mewn Cyfnodolion Academaidd
O'Donoghue, P. G., Mayes, A., Edwards, K. M. and Garland, J. (2008). Performance Norms for British National Super League Netball. International Journal of Sport Science and Coaching, 3, 501-511. 

Llyfrau fel Awdur

Mayes, A. (2009). Skills: Netball (Know the Game). UK: Corpus Publishing Ltd

​Penodau mewn Llyfrau

O'Donoghue, P. and Mayes, A. (2013), Coach Behaviour, In McGarry, T., O’Donoghue, P.R. and Sampaio, J. (eds), Routledge Handbook of Sports Performance Analayss (pp.155-164). London: Routledge

Cyflwyniadau cynhadledd

O'Donoghue, P.G. and Mayes, A. (2006). Computerised analysis and feedback relating to coach behaviour, World Congress of Performance Analysis of Sport, 7, Szombathely, Hungary, 23-26th August 2006.

 

Addysgu a Goruchwylio

Mae Anna yn cyflwyno modiwlau ym meysydd hyfforddi chwaraeon, seicoleg chwaraeon a pherfformiad ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Ei nod pennaf yw sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â’u prosesau dysgu a hyrwyddo meddwl beirniadol a dadansoddol tuag at natur gymhleth ac amlweddog yr amgylchedd hyfforddi.  Mae’n annog ei myfyrwyr i groesi’r ffiniau rhwng academia ac ymarferiad yn ddyddiol, gan awgrymu ei bod yn hanfodol i’r ymarferwr effeithiol gofleidio’r ddau fyd.

Yn y gorffennol, bu Anna’n Gyfarwyddwr Disgyblaeth (perfformiad), Goruchwyliwr traethodau hir, Tiwtor Blwyddyn (lefel 4 a 5) ac arweinydd modiwl ar nifer o fodiwlau israddedig. 

Dolenni Allanol:
Rwy'n gysylltiedig â nifer o sefydliadau allanol trwy ymchwil, ymarfer proffesiynol, gweithgareddau menter a dysgu ac addysgu.

UK Sport - Elite Coach Programme (2013 to present)
Mae Anna yn 1 o 9 aelod a ddewiswyd, a’r unig ferch, ar raglen arbennig Elite Coach Programme. Mae’r rhaglen arbennig hon wedi rhoi cyfleoedd unigryw iddi fanteisio ar arbenigedd, technoleg a phrofiadau o’r radd flaenaf, yn ogystal â bodloni gofynion yr hyfforddwr a’r gamp unigol. Mae’r Rhaglen Elît wedi helpu i harnesu a datblygu arweinyddiaeth Anna o fewn y grŵp arbennig hwn o hyfforddwyr, yn ogystal â’i galluogi i raeadru’r dysgu gydol oes hwn ymhob agwedd ar ei gweithgareddau hyfforddi a dysgu.

Sports Coach UK Coach - Inspire Programme Graduate (2011- 2013)

British Association of Sport and Exercise Science (BASES)
Rwyf wedi darparu cymorth seicoleg chwaraeon i unigolion, timau a sefydliadau ar lefel elît a lefelau is mewn amrywiaeth o gampau gwahanol rhwng 2005 a 2012 yn rhinwedd fy rôl fel gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer a achredwyd gyda BASES.

SPSS, Cardiff – Sports Therapy Diploma

 

Cymwysterau a Gwobrau

PhD (Proposed completion date 2017), Thesis Title: The psychology of the elite coach: Learning to cope at the business end of sport. Director of Studies: Dr Brendan Cropley.

PGCtHE - University of Wales Institute, Cardiff (2009)

MSc Sports Psychology - University of Wales Institute, Cardiff (2004)

BSc Sport and Exercise Science - University of Wales Institute, Cardiff (2002)

UK Sport Elite Coach Programme Member (2013)
Graduate of the Sports Coach UK Coach Inspire Programme 2011

Cymwysterau Proffesiynol:
Bases - Accredited Sport and Exercise Scientist (Psychology – Scientific Support)(2007 – 2012)
SPSS, Cardiff – Sports Therapy Diploma (2002)

Dyfarniadau:

  • Ar restr fer Hyfforddwr y Flwyddyn DU a Hyfforddwr Perfformiad Uchaf y flwyddyn yn 2013 (n =3), yn agos iawn at yr enillydd sef Warren Gatland
  • Tîm y Flwyddyn yng Ngwobrau ‘Sportswomen of the Year’ a gynhaliwyd gan Sky Sports mewn cydweithrediad â’r Sunday Times yn 2013. 
  • Corff Rheoli Chwaraeon y Flwyddyn yng Ngwobrau arbennig Diwydiant Chwaraeon BT yn 2014.
  • Dyfarnwyd gwobr arbennig Cancer Research UK i England Netball sef gwobr Flame of Hope.

 

Proffil Chwaraeon / Hyfforddi

Hyfforddi:

Prif Hyfforddwr Carfan Genedlaethol Pêl-rwyd Lloegr, ar gyfer 48 o Gemau Prawf (2011-2015):

  • Cymhareb ennill/colli o 67% (31/46, gyda 25 o’r gemau hynny yn erbyn y 3 Cenedl Uchaf yn y Byd) 
  • Vs cenedl Rhif 1 yn y Byd (Awstralia) 3/8 + 1* golled o 1 gôl yng Ngemau’r Gymanwlad  2014
  • Vs cenedl Rhif 2 yn y Byd (Seland Newydd) 1/6 + 1* golled o 1 gôl yn rownd gyn-derfynol Gemau’r Gymanwlad 2014
  • Vs cenedl Rhif 4 yn y Byd (Jamaica) 7/11
  • Vs Gweddill y Byd (<4) 20/21 

Cyfresi Prawf a digwyddiadau o bwys:

  • Cyfres Brawf Seland Newydd (Hydref 2014) 1-1 Cyfartal (Dim ond y 5ed tro erioed i Loegr guro Seland Newydd a’r ail waith yn unig i hynny ddigwydd yn Seland Newydd)
  • Fast 5 – cipio’r Fedal Efydd (Tachwedd 2014)
  • Gemau’r Gymanwlad - 4ydd Safle; colli o drwch blewyn i Awstralia a Seland Newydd o 1 gôl yn y ddwy gêm yn y grwpiau a’r Rownd Gyn-drefynol.
  • Enillwyr Cyfres Jamaica (Ebrill 2013) 3-0
  • Cyfres Brawf Awstralia (Ionawr 2011) Buddugoliaeth hanesyddol 3 - 0 dros Awstralia. Y fuddugoliaeth gyntaf (58 – 53) oedd trydedd fuddugoliaeth Lloegr erioed yn erbyn Awstralia yn hanes pêl-rwyd.  Roedd yr ail fuddugoliaeth yn hanesyddol gan nad oedd Lloegr erioed o’r blaen wedi ennill cyfres brawf yn erbyn Awstralia, ac roedd y drydedd fuddugoliaeth yn hanesyddol hefyd gan mai unwaith yn unig o’r blaen yr oedd Awstralia wedi colli cyfres brawf heb ennill yr un gêm.
  • FAST 5 2012 Tîm - Arian.
  • Cyfres Brawf Jamaica (Medi 2012) Enillwyr y Gyfres (2-1)
  • Carfan Lloegr yng Nghyfres Pêl-rwyd y Byd 2011. Ym mis Tachwedd 2011, yn nhrydedd Gyfres Pêl-rwyd y Byd (WNS), crewyd hanes gan y tîm WNS gan gyflawni rhywbeth na chyflawnodd unrhyw berson erioed yn hanes y gamp y Lloegr: sef camp na chaiff ei dileu o’r llyfrau recordiau; llwyddom i ennill Medal Aur gyntaf Lloegr ar Lwyfan y Byd.  

Prif Hyfforddwr Carfan Genedlaethol Lloegr ar Daith i Seland Newydd (n = 2 gêm brawf) ac Awstralia (n = 3) (Hydref 2011) (5 cap)

  • Hyfforddwr Cynorthwyol Carfan Genedlaethol Lloegr 2008 - 2011 (28 cap):
  • Pencampwriaeth y Byd - Medal Efydd (Singapore, Gorffennaf 2011)
  • Gemau’r Gymanwlad - Medal Efydd (Delhi, Hydref 2010); 
  • Carfan Genedlaethol Lloegr, Taith i Awstralia a Seland Newydd Hydref 2008 (0-2; 1-2) (Y 4ydd tro yn unig i Loegr guro Seland Newydd a’r tro cyntaf yn Seland Newydd)

Prif Hyfforddwr Carfan Genedlaethol Lloegr:

  • Pencampwriaeth Cyfres Bêl-rwyd y Byd (Fastnet, Tachwedd 2010) - Medal Arian

Cyd-Hyfforddwr Carfan Dan 21 Lloegr:

  • Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd (Awst 2009) 4ydd safle
  • Netball Europe (Ebrill 2009) Medal Aur;
  • Taith Barbados a Trinidad aTobago (Mai 2009); 
  • Taith Jamaica (Ebrill 2009);
  • Taith Awstralia (Awst 2008).

Hyfforddwr Carfan Pêl-rwyd SL TeamBath 2008 – 2010:

  • Enillwyr yr Uwch Gynghrair 2009 & 2010

Prif Hyfforddwr i dîm Uwch Gynghrair Celtic Dragons 2007 – 2008 & Chwaraewr – Hyfforddwr 2005 – 2007

Prif Hyfforddwr Academi Pêl-rwyd Cymru (2005-2007)

  • Yn ystod y ddwy flynedd a hanner, bu 7 o’r athletwyr yn cynrychioli Cymru ar Lefel Hŷn; 10 ar lefel dan 21; 8 ar lefel dan 19 a 3 ar lefel dan 17.
  • Roedd 8 o’r 12 chwaraewr a fu’n cynrychioli Cymru yng Nghwpan Pêl-rwyd Ieuenctid y Byd yn 2005 yn perthyn i’r Academi. 
  • Roedd 3 o’r 12 terfynol a fu’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2006 yn perthyn i’r Academi. 
  • O dîm Cymru a fu’n cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd 2007, roedd 5 yn perthyn i’r Academi neu wedi bod yn rhan o raglen yr Academi. 

Cyfarwyddwr Pêl-rwyd yn UWIC (Prifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn);

  • Tîm Cyntaf yn Rownd Derfynol BUCS: 2004, 2005, 2006, 2007

Cyd-hyfforddwr carfannau dan 19 a dan 16 Hucclecote

  • Enillwyr Clybiau Cenedlaethol dan 19 (2003) - Medal Aur

Perfformiad:
Anrhydeddau Rhyngwladol Pêl-rwyd Cymru:
45 Cap Llawn. 
Cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau’r Byd 2003 & 2007; Gemau’r Gymanwlad 2002 & 2006 yn ogystal â nifer o Bencampwriaethau Ewropeaidd.

Yarfan Bêl-rwyd Ieuenctid Lloegr:

5 cap. Cynrychioli Lloegr yng Ngŵyl Ieuenctid y Gymanwlad, Caeredin, 1997. 

Pêl-rwyd Ewrop ar lefel dan 16 a dan 17.