Gemma Davies

​​​

Darlithydd mewn Dadansoddi Perfformiad

Rhif ffôn: 029 2020 5759
Cyfeiriad e-bost: gldavies@cardiffmet.ac.uk​

Ymunodd Gemma â'r tîm addysgu academaidd ym mis Medi 2016, yn dilyn swydd dwy flynedd fel Uwch Dechnegydd Dadansoddi Perfformiad yn yr ysgol. 

Ers ymuno â'r Ysgol Chwaraeon, mae Gemma wedi integreiddio ei hun o fewn yr elfen Dysgu Seiliedig ar Waith y cwrs Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon (SPA), gan gefnogi myfyrwyr â lleoliadau mewnol o fewn Chwaraeon Met Caerdydd. Mae hi hefyd wedi meithrin cysylltiadau allanol cryf â Sboncen a Phêl-fasged a Phêl-rwyd Cymru, gan arwain at gyfleoedd lleoli allanol i fyfyrwyr.

Mae Gemma yn ddadansoddwr gweithredol, gyda chysylltiadau cyfredol â Sgwad Hŷn Pêl-rwyd Cymru ac yn cefnogi masnachfraint y Ddraig Geltaidd yn yr Uwch Gynghrair Pêl-rwyd Cenedlaethol, ochr yn ochr â chefnogi athletwyr a hyfforddwyr Squash Wales International. 

 

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Davies, G. (2010). A qualitative analysis of the opinions of athletes, coaches and analysts on the provision of feedback in elite and sub-elite sport. MSc. Cardiff: UWIC.

Davies, G., Fuller, A., Hughes, M.T., Murray, S., Hughes M.D. and James, N. (2008). Momentum of perturbations in elite squash. In A. Hoekelmann and M. Brummond (eds.) Performance Analysis of Sport VIII, Magdeburg : School of Sport, Otto von Guericke Universitat, pp. 77 - 97.

A chyflwyno yng Nghyngres Dadansoddi Perfformiad y Byd, yr Almaen 2008.

    Addysgu a Goruchwylio 

    Ar hyn o bryd mae Gemma yn cyflwyno modiwlau Dadansoddi Perfformiad ar lefel Israddedig ac Ôl-raddedig, ochr yn ochr â darparu modiwlau Sboncen lefel 5. Ar hyn o bryd mae hi'n Diwtor Personol i fyfyrwyr SPA Lefel 4.

     

    Cymwysterau a Gwobrau

    MSc Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon - 2010 
    BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff - 2008

    Proffil Chwaraeon / Hyfforddi

    Chwaraewr sboncen Rhyngwladol Cymru ar lefel iau a hyn. Cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Tîm Iau Ewropeaidd a Tim Iau Pencampwriaeth y Byd , cyn mynd ymlaen i gynrychioli ei gwlad ym Mhencampwriaethau Hŷn Ewrop.

    Mynychodd Gemma Gemau'r Gymanwlad 2012 fel dadansoddwr yn cefnogi dyblau Sboncen Team England. 

    Dadansoddwr Sboncen Cymru, yn mynychu Pencampwriaethau Tîm Ewropeaidd yn cefnogi chwaraewyr a hyfforddwyr. 

    Ar hyn o bryd yn gweithio gyda thîm Hŷn Pêl-rwyd Cymru a chwblhau taith tair gêm brawf i Dde Affrica yn 2016.

    Mae'n frwd iawn ym maes chwaraeon ac wedi cynrychioli ei Sir mewn Pêl-rwyd, Pêl-droed a Hoci.