Mae Met Caerdydd yn brifysgol flaengar, sy’n gweithio gyda
phwrpas, effaith a thosturi i wneud economïau yn fwy llewyrchus, cymdeithasau’n decach, diwylliannau’n gyfoethocaf, amgylcheddau’n wyrddach a chymunedau’n iachach. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a’n staff i drawsnewid bywydau a chymunedau trwy ein
haddysg o ansawdd uchel, effaith uchel, wedi’i llywio gan ein
hymchwil a’n harloesedd
arloesol.
Mae gan ein corff cynyddol o staff a myfyrwyr dros 1,600 o staff craidd a thros 25,000 o gofrestriadau myfyrwyr; Mae 23% yn fyfyrwyr rhyngwladol o dros 130 o wledydd gyda dros 33% yn astudio rhaglenni ôl-raddedig. Mae gennym 13,500 ychwanegol o fyfyrwyr mewn 13 o wledydd ar draws y byd yn astudio ein rhaglenni drwy ein 13 o bartneriaid addysg byd eang. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n gynhwysol ac i sicrhau amgylcheddau dysgu cynhwysol ac mae gan ein staff synnwyr cryf o gymuned ynghyd â manteision bywyd uchel ei ansawdd a hynny mewn dinas brifysgol llawn egni o dros 50,000 o fyfyrwyr.
Mae ein Prifysgol flaengar wedi datblygu, wedi amrywio ac wedi gwella’n sylweddol dros y cyfnod strategol diwethaf ac wedi llwyddo i gynyddu ei throsiant o lai na £100m yn 2017 i dros £150m yn 2023. Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021’ gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon’ gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.
Mae ein gwerthoedd o
greadigrwydd, arloesedd, cynwysoldeb ac ymddiriedaeth, a gefnogir gan ein hymddygiad o
arweinyddiaeth, dewrder, atebolrwydd ac ystwythder yn cael eu hategu gan egwyddorion
rhyddid academaidd ac
ymreolaeth sefydliadol sy’n ein harwain wrth i ni gydweithio ar draws y byd.
Os rydych eisiau ymuno â’n cymuned ddylanwadol, cydweithredol a thosturiol, edrychwch isod ar ein cyfleoedd presennol. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion swydd gan glicio ar y ddolen ar ein
tudalen chwilio am swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.