Dr Shelley-Ann Evans

​​

 Teitl y Swydd:  Uwch Ddarlithydd
 Rhif Ystafell: D210
 Rhif Ffôn:  + 44 (0) 29 2041 5559
 Cyfeiriad E-bost:   adcurnin@cardiffmet.ac.uk 

  

Addysgu

Biocemeg a chemeg sylfaenol, ac ymarferion cysylltiedig yn y labordy; darlithoedd a gweithdai ystadegau; Goruchwylio prosiectau ymchwil israddedig; arweinydd prosiectau ymchwil israddedig; arweinydd modiwl yn y modiwl Sgiliau Allweddol mewn Gwyddorau Biocemeg/Gofal Iechyd.

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn troi o amgylch cylchrediad gwaed; mae hyn yn cynnwys anffurfiad celloedd gwaed, adlyniad a rhyngweithio ag endotheliwm fasgwlaidd; rolau celloedd gwaed a marcwyr llidiol mewn iechyd, ymarfer corff, afiechyd a llygredd aer.  Mae hyn hefyd yn cwmpasu anhwylderau llidiol a chylchrediad y gwaed, a dylanwadau amgylcheddol ar haemorheoleg. Mae'r cydweithredu cyfredol yn cynnwys ymchwiliadau i effeithiau llygredd amgylcheddol ar haemorheoleg (ar y cyd â Grŵp Gronynnau Caerdydd, Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Prifysgol Caerdydd), ac ymchwilio i'r newidiadau haemorheolegol sy'n digwydd yn ystod rhaglenni ymarfer corff. Mae ymchwil gydweithredol flaenorol wedi cynnwys ymchwilio i heterogenedd monosyt (ar y cyd â'r Ysgol Feddygol, Prifysgol Birmingham); ymchwiliad i gamweithrediad endothelaidd mewn clefyd thyroid (ar y cyd â'r Adran Feddygaeth, Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru).

Dolenni Allanol

Dyfarnwr ar gyfer dau gyfnodolyn, "Biorheology" a "Clinical Hemorheology and microcirculation".
Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch