Dr Craig Gwynne

Craig Gwynne

​​​

Teitl y Swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Podiatreg
Rhif Ystafell: D1.01A
Rhif Ffôn:
Cyfeiriad E-bost:   adcurnin@cardiffmet.ac.uk 

Ar wahân i'm rôl fel darlithydd, rwy'n Bodiatrydd cymwys wedi ymaelodi â'r Coleg Podiatreg a chofrestru gyda'r HCPC. Mae fy nyletswyddau clinigol yn cynnwys ymgymryd â chlinigau MSK yn ogystal â gweithredu fel goruchwyliwr clinigol yng Nghanolfan Astudiaethau Podiatreg Cymru, a gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n gorff y mae gennyf gytundeb anrhydeddus ag ef. Mae fy nyletswyddau eraill yn cynnwys bod yn diwtor derbyniadau ar gyfer y rhaglen Bodiatreg BSc a thiwtor blwyddyn lefel 4.

Addysgu

Rwy'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac mae fy addysgu yn bennaf yn cynnwys cyflwyno darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial clinigol a labordai sgiliau yn y rhaglenni Podiatreg israddedig ac ôl-raddedig.

  • BSc Podiatreg
  • POD4001 Meddygaeth Podiatreg 1
  • POD4002 Astudiaethau Cyhyrysgerbydol 1
  • POD4004 Ymchwil a Llywodraethu 1
  • POD4005 Ymarfer Clinigol 1
  • POD5002 Astudiaethau Cyhyrysgerbydol 2
  • POD5005 Ymarfer Clinigol 2
  • POD6005 Ymarfer Clinigol 3
  • POD6003 Datblygiad Proffesiynol 3

MSc Uwch Ymarferydd (Astudiaethau Cyhyrysgerbydol)

  • Dadansoddiad Osgo
  • Biomecaneg Chwaraeon ac Anafiadau

Ymchwil

Cwblheais fy PhD, "Investigation of proximal and distal factors associated with patellofemoral pain and the effect of tailored intervention strategies" yn 2018. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys mecaneg anafiadau'r aelodau isaf, gan arbenigo mewn poen patellofemoraidd.

Cyhoeddiadau

Gwynne, C. R. and Curran, S. A. (2018). Two-dimensional frontal plane projection angle can identify subgroups of patellofemoral pain patients who demonstrate dynamic knee valgus. Clin Biomech. 58 (1): 44-48.

Gwynne, C. R. (2019). Alterations in center of pressure during single limb loading in individuals with patellofemoral pain. Journal of the American Podiatric Medicine Association. In Press.

Gwynne, C. R. and Curran, S. A. (2014). Quantifying frontal plane knee motion during single limb squats: Reliability and validity of 2-dimensional measures. Int J Sports Phys Ther. 9 (7): 898-906.

Dolenni Allanol

Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)