Karen De Claire

​​​

​​

Swydd: Uwch Ddarlithydd. Arweinydd modiwl Ymarferydd Diploma Ôl-radd Seicoleg         Fforensig
 Ysgol:  Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd
 E-bost:   kdeclaire@cardiffmet.ac.uk  
 Rhif ffôn: +44(0)29 2041 1169​​
 Rhif Ystafell: D3.12


Addysgu

Arweinydd Modiwl
• Portffolio (Ymarferydd Diploma Ôl-radd Seicoleg Fforensig)

Addysgu
• Diploma Ôl-raddedig mewn Seicoleg Fforensig Ymarferyddol
• MSc Seicoleg Fforensig

Goruchwylio Ôl-raddedigion
• Myfyriwr ôl-raddedig - Seicolegydd Fforensig dan Hyfforddiant ar y Diploma Ôl-radd mewn Seicoleg Fforensig i Ymarferwyr

Cyhoeddiadau

  • De Claire, K. & Dixon, L. (2015). The Effects of Prison Visits From Family Members on Prisoners’ Well-Being, Prison Rule Breaking, and Recidivism: A Review of Research Since 1991. Trauma Violence Abuse. 1524838015603209, doi:10.1177/1524838015603209

Proffil

Mae Dr De Claire yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi'n Seicolegydd Fforensig cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac yn Seicolegydd Fforensig Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae hi'n aelod llawn o Is-adran Seicoleg Fforensig (DFP) y BPS, Cymrawd Cysylltiol a Gwyddonydd Siartredig y BPS ac yn therapydd EMDR. Mae gan Dr De Claire rôl rhan amser gyda'r Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol yn arwain ar brosiectau penodol sy'n ymwneud â rheoli carcharorion a lles. Mae cefndir Dr De Claire fel ymarferydd seicoleg fforensig, gydag arbenigedd penodol mewn asesu ac ymyriad â dynion risg uchel sydd wedi troseddu'n dreisgar ac yn rhywiol, yn y ddalfa a'r gymuned. Mae ganddi hefyd brofiad sylweddol o ymgynghori mewn lleoliadau fforensig ar ystod o faterion sy'n effeithio ar garcharorion, eu plant a'u teuluoedd a staff carchardai.

Mae ganddi hefyd brofiad o ddigwyddiadau critigol mewn carchardai, ac yn parhau i gynghori yn eu cylch . Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys: ymatal a pherthnasoedd teuluol, rôl ymlyniad wrth droseddu, effaith trin trawma ar ymddygiad aildroseddu.

Mae Dr De Claire yn aelod cyfetholedig o bwyllgor DFP a Phwyllgor Polisi BPS Cymru ac ar hyn o bryd mae'n drysorydd DFP Cymru.