Dr Robert Mayr

​​​

Teitl y Swydd:  Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth
 Rhif Ystafell:   D0.07e
 Rhif Ffôn:   + 44 (0) 29 2041 7291
 Cyfeiriad E-bost:  rmayr@cardiffmet.ac.uk

 

Proffil

Rwy'n uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth yng Nghanolfan Therapi Lleferydd ac Iaith Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn gydymaith ymchwil yn y Ganolfan dros Ymchwil Dwyieithrwydd, Prifysgol Bangor. Rwy'n gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac yn aelod o Gymdeithas Seinegwyr Academaidd Prydain (BAAP), Cymdeithas Ieithyddiaeth Glinigol Prydain (BACL), y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (IPA) a'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudio Iaith Plant (IASCL).

Mae fy addysgu yn cwmpasu ystod eang o feysydd ym maes ieithyddiaeth, ac yn ddiweddar bûm yn gweithredu fel arholwr allanol ar gyfer y BSc (Anrh.) mewn Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mhrifysgol Reading.

Mae fy ymchwil yn ymwneud yn bennaf â datblygu systemau sain mewn plant ac oedolion dwyieithog, gan archwilio natur rhyngweithiadau trawsieithyddol yn benodol. Ar hyn o bryd, rwy'n goruchwylio pedwar myfyriwr PhD sy'n astudio agweddau ar ddatblygiad ffonolegol dwyieithog neu nam ar y clyw.

I gael rhagor o fanylion, gan gynnwys ffeiliau pdf o fy nghyhoeddiadau i'w llwytho i lawr, ewch i fy ngwefan bersonol.


 

Addysgu

  • Bûm yn addysgu'n flaenorol ym Mhrifysgol Fiena, Awstria, a Phrifysgol Sheffield. Rwy'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch, a than yn ddiweddar bûm yn arholwr allanol ar y cwrs BSc (Anrh.) mewn Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mhrifysgol Reading.

    Ar hyn o bryd, rwy'n dysgu ar y modiwlau canlynol:

    ·        SLP 4010: Ieithyddiaeth 1: Gramadeg ac Ystyr (arweinydd modiwl)

    ·        SLP4061: Datblygiad Iaith mewn Plant (arweinydd modiwl)

    ·        SLP5000: Proffilio Ieithyddol

    ·        SLP 5010: Ieithyddiaeth 2: Ieithyddiaeth Gymdeithasegol, Dadansoddi Disgwrs, Damcaniaeth Ieithyddol (arweinydd modiwl)

    ·        SLP 6020: Astudiaethau dwyieithog a deuddiwylliannol (arweinydd modiwl)

    ·        SLP 6080: Prosiect (arweinydd modiwl)


Ymchwil

Diddordebau ymchwil

·        Caffaeliad seinegol a ffonolegol mewn plant unieithog, dwyieithog ac amlieithog

·        Cynhyrchiad a chanfyddiad lleferydd ail iaith

·        Athreuliad lleferydd iaith gyntaf

·        Lleferydd arferol ac anarferol

·        Agweddau seinegol a ffonolegol ar gydgyffyrddiad ieithyddol

 

Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Anna Kowalska (PhD llawn amser): Caffaeliad ffonolegol mewn plant dwyieithog Pwyleg-Saesneg. Hunan-ariannu. Medi 2015-

Wenlong Xiong (PhD llawn amser): Pwnc i'w gadarnhau. Hunan-ariannu. Medi 2015-

Rhonwen Lewis (PhD llawn amser): Datblygiad ffonolegol cynnar mewn plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg: astudiaeth hydredol. Cyllidwr: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Medi 2010-

Sarah Patten (PhD, rhan-amser): Asesiadau canfyddiad lleferydd gyda chleientiaid byddar/â nam ar eu clyw: ymchwiliad i'w heffeithlonrwydd fel teclyn clinigol. Ymgeisydd staff; Awst 2011-

 

Arholiadau Graddau Ymchwil

Arholwr Allanol, PhD, Prifysgol Sheffield, Mai 2015.

Canolwr Allanol, Uwch Ddoethuriaeth drwy weithiau cyhoeddedig (DLitt), Prifysgol Bangor, Gorffennaf 2014.

Arholwr Allanol, PhD, Prifysgol Sheffield, Ionawr 2013.

 

Prif Gydweithredwyr

Yr Athro Ineke Mennen, Prifysgol Graz, Awstria

Dr Simona Montanari, Prifysgol Talaith California, Los Angeles, UDA

Dr Jonathan Morris, Prifysgol Caerdydd, Cymru

Dr Daniel Williams, Universität Potsdam, yr Almaen 

 

Prosiectau presennol a diweddar

·        Datblygiad ffonolegol mewn plant dwyieithog Sbaeneg-Saesneg: astudiaeth hydredol (gyda Simona Montanari), Medi 2014-

·        Datblygiad ffonolegol mewn plant ac oedolion dwyieithog Sylheti-Saesneg (gyda Aysha Siddika), Ionawr 2015-

·        Amrywiaeth seinegol-gymdeithasol mewn sefyllfa cydgyffyrddiad ieithyddol: Achos Cymraeg a Saesneg Cymru (gydag Ineke Mennen, Prifysgol Bangor), Medi 2012 - Mawrth 2014, ariannwyd gan yr Academi Brydeinig / Leverhulme.

·        Datblygiad lleferydd tairieithog: astudiaeth achos hydredol (gyda Simona Montanari, Prifysgol Talaith California, Los Angeles), Ebrill 2012-

·        Athreuliad iaith gyntaf yn lleferydd efeilliaid dwyieithog monosygotig (gydag Ineke Mennen, Prifysgol Bangor a Sacha Price, Prifysgol Metropolitan Caerdydd). Medi 2010-Ionawr 2012

·        Caffaeliad clystyrau o gytseiniad mewn plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg (gyda Danna Jones a Gwennan Howells, Prifysgol Metropolitan Caerdydd), Medi 2009 - Ionawr 2014

·        Astudiaeth acwstig draws-dafodieithol o unseiniaid a deuseiniad Cymraeg (gyda Hannah Davies, Prifysgol Metropolitan Caerdydd), Medi 2008 - Ebrill 2011

·        Natur llafariaid crynion blaen: adroddiad acwstig ac ynganiadol ar lafariad NURSE yn Saesneg De Cymru (gyda Torsten Müller, Prifysgol Ruhr Bochum), Ebrill 2008 - Mawrth 2010, ariannwyd drwy Grant Bach gan Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd.

·        Datblygiad canfyddiadol llafariaid Almaeneg gan ddysgwyr Saesneg (gyda Paola Escudero, Prifysgol Amsterdam), Gorffennaf 2006 - Chwefror 2009

·        Agweddau prosodig ar sylwebaeth bêl-droed Almaeneg a Saesneg (gyda Torsten Müller, Prifysgol Ruhr Bochum), Tachwedd 2005 – Mai 2006.

Cyllid (Ymchwil ac Addysgu)

Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cynllun Staffio Academaidd: 75% o swydd darlithydd cyfrwng Cymraeg mewn Therapi Lleferydd ac Iaith wedi'i hariannu am 5 mlynedd, Canolfan Therapi Lleferydd ac Iaith, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, 2015-2020 (tua £140,000).

Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig (SG111947; £7,533.80): Amrywiaeth seinegol-gymdeithasol mewn sefyllfa cydgyffyrddiad ieithyddol: Achos Cymraeg a Saesneg Cymru, (PI: Robert Mayr; cyd-ymgeisydd: Ineke Mennen, Prifysgol Bangor), Medi 2012 - Mawrth 2014.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Ysgoloriaeth Doethuriaeth Cyfrwng Cymraeg (tua £65,000 dros bedair blynedd), deiliad ysgoloriaeth: Rhonwen Lewis, Medi 2010 -

Grant Ymchwil Bach Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Ebrill 2007).

 

Adolygwr ar gyfer cyfnodolion academaidd

Applied Linguistics, Applied Psycholinguistics, Journal of Germanic Linguistics, Clinical Linguistics and Phonetics, Journal of the International Phonetic Association, Language Sciences, Second Language Research, Languages in Contrast, Child Language Teaching and Therapy, Journal of Phonetics, Language Teaching, Laboratory Phonology, Acoustics Australia, International Journal of Language and Communication Disorders, International Journal of Bilingualism.

Cyhoeddiad 

Mayr, R. (forthcoming, 2017). Jitter and shimmer. In Damico, Jack & Ball, Martin J. (eds.) The SAGE Encyclopedia of Human Communication Sciences and Disorders.                               

Morris, J., Mayr, R. & Mennen, I. (forthcoming, 2016). The role of linguistic background on sound variation in Welsh and Welsh English. In Durham, M. & Morris, J. (eds.) Sociolinguistics in Wales. London: Palgrave MacMillan.

Mayr, R., Morris, J., Mennen, I. & Williams, D. (2015). Disentangling the effects of long-term language contact and individual bilingualism: The case of monophthongs in Welsh and English. International Journal of Bilingualism, DOI: 10.1177/1367006915614921, first published online 26 November 2015.

Mayr, R. & Montanari, S. (2015). Cross-linguistic interaction in trilingual phonological development: The role of the input in the acquisition of the voicing contrast, Journal of Child Language 42: 1006-1035.

Mayr, R., Howells, G. & Lewis, Rh. (2015). Asymmetries in phonological development: The case of word-final cluster acquisition in Welsh-English bilingual children. Journal of Child Language 42: 146-179.

Mayr, R. & Montanari, S. (2015). Differentiation and interaction in the vowel productions of trilingual children, Proceedings of the 18th International Congress of Phonetic Sciences (ICPhS 2015), 10-14 August 2015, Glasgow.

Mennen, I., Mayr, R. & Morris, J. (2015). Influences of language contact and linguistic experience on the production of lexical stress in Welsh and Welsh English, Proceedings of the 18th International Congress of Phonetic Sciences (ICPhS 2015), 10-14 August 2015, Glasgow.
           
Plumpton, H. & Mayr, R. (2014). Morphology, In Whitworth, N. & Knight, R.-A. (eds.) Methods in Teaching Clinical Linguistics and Phonetics. J & R Press.;

Mayr, R., Jones, D. & Mennen, I. (2014). Speech learning in bilinguals: consonant cluster acquisition, In: Thomas, E. & Mennen, I. (eds.) Advances in the Study of Bilingualism. pp. 3-24, Bristol: Multilingual Matters.

Mayr, R., Price, S. & Mennen, I. (2012). First language attrition in the speech of Dutch-English bilinguals: the case of monozygotic twin sisters, Bilingualism: Language and Cognition 15 (4): 687-700.

Mayr, R. & Davies, H. (2011). A cross-dialectal acoustic study of the monophthongs and diphthongs of Welsh, Journal of the International Phonetic Association 41 (1): 1-25.
     
Thomas, E.M. & Mayr, R. (2010). Children's acquisition of Welsh in a bilingual setting: a psycholinguistic perspective, In: Morris, D. (ed.) Welsh in the 21st Century. Cardiff: Cardiff University Press.

Mayr, R. & Escudero, P. (2010). Explaining individual variation in L2 perception: rounded vowels in English learners of German, Bilingualism: Language and Cognition 13 (3): 279-297.

Mayr, R. (2010). What exactly is a front rounded vowel? An acoustic and articulatory investigation of the NURSE vowel in South Wales English, Journal of the International Phonetic Association 40 (1): 93-112.

Mayr, R. & Davies, H. (2009). The monophthongs and diphthongs of North-eastern Welsh: an acoustic study, Proceedings of the 10th Annual Conference of the International Speech Communication Association (Interspeech 2009), 6-10 September, Brighton, pp. 2315-2318.

​​​ Müller, T. & Mayr, R. (2007). Speech rate, time pressure and emotion in English and German football commentary, In: Weinert, R. (ed.) Spoken language pragmatics: an analysis of form-function relations, Continuum, pp. 160-181.​