Nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw darparu amgylchedd diogel a sicr i fyfyrwyr sy'n byw ar y campws, gyda staff cyfeillgar y Neuaddau ar gael i ddarparu cefnogaeth a chymorth trwy gydol eich arhosiad gyda ni.
Ar hyn o bryd mae gennym bron i 1,000 o ystafelloedd gwely astudio ar gampysau Cyncoed a Phlas Gwyn. Mae ein holl ystafelloedd gwely yn gymysg o ran rhyw ac yn cynnwys yr holl filiau cyfleustodau, gan gynnwys trydan, nwy, dŵr, rhyngrwyd, yswiriant, ac ati.
Yn ogystal, rydym hefyd yn dyrannu ychydig dros 1,200 o neuaddau en-suite preifat i fyfyrwyr trwy gytundebau enwebu gyda neuaddau preifat sydd wedi'u lleoli ger y campysau.
Darganfyddwch beth rydyn ni'n ei gynnig
Campws Cyncoed
Gyda 549 o ystafelloedd ar draws y campws. Yn cynnig cymysgedd o ystafelloedd arlwyo, hunanarlwyo, en-suite a chyfleusterau a rennir. Addas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Chwaraeon, Addysg neu'r Dyniaethau.Campws Cyncoed
Campws Plas Gwyn
Wedi'i leoli'n agos at gampws Llandaf gyda 392 o ystafelloedd en-suite hunanarlwyo. Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Celf a Dylunio, Rheolaeth, Gwyddorau Iechyd a Thechnolegau.Campws Plas Gwyn
Neuaddau Preifat
Mae Met Caerdydd wedi sicrhau dros 1,200 o ystafelloedd gwely astudio en-suite mewn neuaddau preswyl breifat, y mae rhai ohonynt wedi'u lleoli'n agos at y campysau. Mae pob un o'r Neuaddau'n cael eu gwasanaethu'n rheolaidd gan wasanaethau Bws Caerdydd neu'n ddigon agos i gerdded i'r campws.Neuaddau Preifat
Sut i wneud cais?
Ceisiadau Ar agor Ebrill 1af bob blwyddyn ar gyfer derbyniad mis Medi.Sut i wneud cais?
Beth yw'r costau?
Mae ffioedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac o gampws i gampws yn dibynnu ar y math o ystafell a neilltuir i chi.Beth yw'r costau?
Help i dalu am neuaddau
Ym Met Caerdydd rydym yn awyddus i helpu unrhyw un sy'n cael trafferthion ariannol i dalu am eu Neuaddau.Help i dalu am neuaddau
Myfyrwyr Rhyngwladol
Dysgwch fwy am wneud cais am lety fel Myfyriwr Rhyngwladol.Myfyrwyr Rhyngwladol
Gwybodaeth i Fyfyrwyr Anabl
Mae gan gampysau Plas Gwyn, Cyncoed ac Unite North Court ystafell sy'n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau sydd angen llety wedi'i addasu.Myfyrwyr Anabl
Gwasanaethau Myfyrwyr
Cefnogaeth ymroddedig i fyfyrwyr sy'n byw ac yn astudio ym Met Caerdydd.Gwasanaethau Myfyrwyr
Sut rydym yn dyrannu ystafelloedd
Gwybodaeth bwysig am sut rydym yn dyrannu ystafelloedd mewn tri cham ar ôl derbyn cais neuadd wedi'i gwblhau.Sut rydym yn dyrannu ystafelloedd
Arlwyo
Mae llety arlwyo yng Nghyncoed yn cynnwys brecwast a swper 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor!Arlwyo
Rhentu ystafell landlord
Yn ogystal â dyrannu lleoedd i fyfyrwyr mewn neuaddau, mae'r Gwasanaeth hefyd yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lety addas oddi ar y campws.Rhentu ystafell landlord
Y Gymuned Fyfyrwyr Orau
ENILLYDD: 'Y Gymuned Fyfyrwyr Orau' yn yr Arolwg Cenedlaethol o Dai Myfyrwyr 2019Darganfod mwy
Ein nod yw gwneud byw mewn neuaddau yn un o brofiadau gorau eich bywyd prifysgol ac i'ch helpu i gael profiad bythgofiadwy mae gennym raglen Bywyd Preswylio sydd wedi ennill gwobrau.Darganfod mwy am Bywyd Pres
"Mae ein calendr blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau wythnosol wedi'i anelu at fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn neuaddau Met Caerdydd. Rydyn ni wedi rhoi tocynnau i'n myfyrwyr i gemau rygbi Cymru, sglefrio iâ, premières ffilm, ioga, nosweithiau pizza, clybiau llyfrau, twrnameintiau FIFA, torri gwallt, teithiau dydd a nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol eraill. Y newyddion gwych yw bod hyn i gyd AM DDIM! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cymryd rhan. Pan fyddwch chi'n cyrraedd siaradwch â'ch Warden neu Lysgennad Bywyd Pres i gael mwy o wybodaeth."
Bywyd mewn Neuaddau: Barbeciw Diwedd Blwyddyn
Mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym sut beth yw byw mewn neuaddau myfyrwyr yn y barbeciw diwedd blwyddyn a drefnwyd gan ResLife.
Bywyd mewn Neuaddau: Holly
Dyma Holly, myfyrwraig Astudiaethau Addysg Gynradd, yn sôn am sut brofiad yw byw mewn neuaddau myfyrwyr.
Bywyd mewn Neuaddau: Gavin a Sam
Dyma fyfyrwyr presennol Gavin a Sam gyda phopeth sydd angen i chi ei wybod am fywyd mewn llety myfyrwyr.
3 awgrym ar gyfer byw yn neuaddau Cyncoed
Mae Josie, myfyrwraig y Dyniaethau, yn blogio'i hawgrymiadau da ar gyfer byw yn neuaddau Cyncoed.Darganfod mwy
Gwneud y mwyaf o neuaddau Plas Gwyn
Mae Ella, myfyrwraig Marchnata Ffasiwn, yn rhannu ei phrofiad o fyw yn neuaddau Plas Gwyn.Darganfod mwy
Dewis llety fel myfyriwr rhyngwladol
Mae Meriem, myfyriwr dyniaethau, yn blogio am ei chanllaw i ddewis llety a setlo i fywyd mewn gwlad newydd.Darganfod mwy
Gallwch Sgwrsio'n Fyw gyda ni ar y tudalennau hyn. Fel arall:E: accomm@cardiffmet.ac.uk | Ffôn: 029 2041 6188Gwasanaeth Llety, Campws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Warwick House, Heol Cyncoed, Caerdydd CF23 6XD