Yr Athro Barry McDonnell

Barry McDonnell

Teitl y Swydd:  Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg
 Rhif Ystafell:  D2.04a
 Rhif Ffôn: + 44 (0) 29 2041 6871
 Cyfeiriad E-bost:   bmcdonnell@cardiffmet.ac.uk 

Addysgu

Rwy'n wyddonydd ymchwil clinigol gweithredol ym maes ffisioleg gardiofasgwlaidd, sy'n helpu i lywio fy addysgu, dylunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso sawl rhaglen a addysgir. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys BSc Gwyddoniaeth Biofeddygol, BSc Gwyddor Gofal Iechyd, HNC Gwyddoniaeth Biofeddygol,  HND Gwyddoniaeth Biofeddygol, BSc Gwyddoniaeth Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth), BSc Maeth Dynol a Deieteg, BSc Maeth Iechyd Cyhoeddus, BSc Gofal Iechyd Cyflenwol a BSc Podiatreg.
Modiwlau rydw i'n ymwneud â nhw:
APS4002 Anatomeg Dynol a Ffisioleg
APS5017 Ffarmacoleg a Thocsicoleg
SBM5004 Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
SBM6001 Meddygaeth Chwaraeon
SMB6002 Cyffuriau mewn Chwaraeon ac Immunohaematoleg
APS6001 - Prosiect Ymchwil
SBM5001 Pathoffisioleg Clefyd

Ymchwil

 

Ar hyn o bryd rwy'n arwain y Grŵp Ymchwil Ffisioleg Fasgwlaidd sy'n canolbwyntio ar ffisioleg gardiofasgwlaidd, heneiddio ac afiechyd. Rwy'n Brif Ymchwilydd ar gyfer tri treial ymchwil ffisioleg glinigol: (Treial ARCADE, yn ymchwilio i effaith clefyd anadlol ar haemodynameg prifwythiennol; astudiaeth ACCT, yn ymchwilio i rôl heneiddio fasgwlaidd cynamserol ar bwysedd gwaed a risg cardiofasgwlaidd mewn Cydweithiad â Phrifysgol Caergrawnt; a Threial HIT-LVAD ym Mhrifysgol Columbia, Ysbyty Presbyteraidd Efrog Newydd, yn ymchwilio i effaith mewnblannu dyfeisiau cynorthwyo fentriglaidd ar haemodynameg fasgwlaidd mewn cleifion â methiant y galon). Yn ogystal â fy ymrwymiadau addysgu, rwyf wedi goruchwylio nifer o efrydiaethau PhD, dau swyddog ymchwil ôl-ddoethuriaeth, nyrs ymchwil ac un cymrawd ymchwil fyd-eang Marie-Sklodowska Curie Action dros y chwe mlynedd diwethaf er mwyn datblygu thema ymchwil y grŵp. Mae'r grŵp ymchwil yn defnyddio nifer o weithdrefnau profi ffisiolegol i fod yn sail i'n hymchwil (samplu gwaed, strwythur a swyddogaeth gardiaidd, pwysedd gwaed ymylol a chanolog, pwysedd gwaed 24 awr, stiffrwydd rhydweli mawr a churiadwyedd llif micro-fasgwlaidd yn ngwlâu fasgwlaidd arennol, yr ymennydd a'r retina).

Trwy'r cyfleusterau ymchwil sydd ar gael ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a'r Ystafell Asesu Iechyd, rwy'n cydweithredu'n fewnol ar nifer o astudiaethau:

  • Heneiddio celloedd a stiffrwydd prifwythiennol (Yr Athro Jorge Erusalimsky)
  • Ymchwilio i'r berthynas rhwng swyddogaeth fentriglaidd a haemodynameg rhydweli mawr trwy heneiddio, gorbwysedd ac ymarfer corff (Yr Athro Rob Shave)
  • Ymarfer corff a swyddogaeth fasgwlaidd yn y gymuned (Dr Richard Webb)

Tîm ymchwil cyfredol:
• Dr Eric Stohr (Cymrawd Ymchwil Byd-eang Marie Sklodowska-Curie)
• Dr Maria Kearney (Cydymaith Ôl-Ddoethurol / Ymchwil)
• Miss Laura Watkeys (Cydlynydd Ymchwil a Lab)
• Dr James Coulson (Meddyg / Clinigydd Llanw)
• Mrs Margaret Munnery (Cymrawd Ymchwil-Nyrs)
• Mr Stuart Ennis (Myfyriwr PhD)
• Mrs Mahfouhda Al Shezawi (Myfyriwr PhD)
• Yr Athro John Cockcroft (Ymgynghorydd Clinigol)

Cyhoeddiadau

    1. James E. Sharman, Alberto P. Avolio, Johannes Baulmann, Athanase Benetos, Jacques Blacher, C. Leigh Blizzard, Pierre Boutouyrie, Chen-Huan Chen, Phil Chowienczyk, John R. Cockcroft, J. Kennedy Cruickshank, Isabel Ferreira, Lorenzo Ghiadoni, Alun Hughes, Piotr Jankowski, Stephane Laurent, Barry J. McDonnell, Carmel McEniery, Sandrine C. Millasseau, Theodoros G. Papaioannou, Gianfranco Parati, Jeong Bae Park, Athanase D. Protogerou, Mary J. Roman, Giuseppe Schillaci, Patrick Segers, George S. Stergiou, Hirofumi Tomiyama, Raymond R. Townsend, Luc M. Van Bortel, Jiguang Wang, Siegfried Wassertheurer, Thomas Weber, Ian B. Wilkinson, Charalambos Vlachopoulos. Validation of non-invasive central blood pressure devices: task force consensus statement on protocol standardization. Dec 2016. European Heart Journal. In Press.
    2. McDonnell BJ, Yasmin, Butcher L, Cockcroft JR, Wilkinson IB, Erusalimsky J, McEniery CM. The Age Dependent Association between Aortic Pulse Wave Velocity and Telomere Length. JoPhysiology. Dec 2016. In Press.
    3. Hickson SS, Nichols WW, Yasmin, McDonnell BJ, Cockcroft JR, Wilkinson IB, McEniery CM. Influence of the central-to-peripheral arterial stiffness gradient on the timing and amplitude of wave reflections. Hypertens Res. 2016 Jun 16. doi: 10.1038/hr.2016.64. [Epub ahead of print]
    4. Anke CCM van Mil, James Pearson, Aimee L Drane, John R Cockcroft, Barry J McDonnell and Eric J. Stöhr. Interaction between left ventricular twist mechanics and arterial haemodynamics during localised, non-metabolic hyperaemia with and without blood flow restriction. Exp Physiol. 2016 Apr;101(4):509-20. doi: 10.1113/EP085623.
    5. Webb R, Thompson JES, Ruffino J-S, Davies, NA, Watkeys L, Hooper S, Jones PM, Walters G, Clayton, D. Thomas AW, Morris K, Llewellyn DH, Ward M, Wyatt-Williams J, McDonnell BJ. An Evaluation of Cardiovascular Risk-Lowering Health Benefits Accruing from Laboratory-based, Community-based and Exercise-Referral Exercise Programmes. BMJ Open Sport & Exercise Medicine. 2016;2:e000089. doi:10.1136/bmjsem-2015-000089
    6. Middlemiss JE, Miles KL, McDonnell BJ, Yasmin, Maki-Petaja K, Cockcroft JR, Wilkinson IB, McEniery CM, On behalf of The Enigma Study investigators. Mechanisms underlying elevated systolic blood pressure differ with adiposity in young adults: The Enigma Study. J Hypertens. 2016, 34:290–297.
    7. McDonnell BJ, Pearson J and Cockcroft JR. Reflections on Vascular Ageing and Microvascular Pulsatility. J Hypertens. 2014. Sep; 32(9):1907-8.
    8. Thompson JE, Webb R, Hewlett P, Llewellyn D,McDonnell BJ. Matrix metalloproteinase-9 and augmentation index are reduced with an 8-week green-exercise walking programme. J Hypertens OA. 2013. 2(4): 127-133.
    9. Barry J McDonnell, Kaisa M Maki-Petaja, Margaret Munnery, Yasmin, Ian B Wilkinson, John R Cockcroft, Carmel M McEniery. Habitual exercise and blood pressure: age dependency and underlying mechanisms. American Journal of Hypertension. 2013; 26(3):334-41.
    10. Stöhr EJ, McDonnell B, Thompson J, Stone K, Bull T, Houston R, Cockcroft J, Shave R. Left ventricular mechanics in humans with high aerobic fitness: adaptation independent of structural remodelling, arterial haemodynamics and heart rate. J Physiol. 2012. May 1;590 (Pt 9):2107-19.
    11. Miles KL, McDonnell BJ, Maki-Petaja KM, Yasmin, Cockcroft JR, Wilkinson IB, McEniery CM. The impact of birth weight on blood pressure and arterial stiffness in later life: The ENIGMA Study. J Hypertens. 2011 Dec;29(12):2324-31.
    12. Hickson SS, Miles KL, McDonnell BJ, Yasmin, Cockcroft JR, Wilkinson IB, McEniery CM; ENIGMA Study Investigators. Use of the oral contraceptive pill is associated with increased large artery stiffness in young women: the ENIGMA study. J Hypertens. 2011 Jun;29(6):1155-9.
    13. Charlotte E. Bolton, Carmel M. McEniery, Vimal Raj, Barry J. McDonnell, Adrian K. Dixon, Margaret Munnery, Ramsey Sabit, Nicholas Screaton, Michael Stone, Ian B. Wilkinson, Dennis J. Shale, John R. Cockcroft. Aortic calcification, arterial stiffness and bone mineral density in patients with COPD. Artery Research. March 2011 (Vol. 5, Issue 1, Pages 30-36)
    14. Campbell R, Fisher JP, Sharman JE, McDonnell BJ, Frenneaux MP. Contribution of nitric oxide to the blood pressure and arterial responses to exercise in humans. J Hum Hypertens. 2011 Apr;25 (4):262-70. Epub 2010 May 27.

Dolenni Allanol

SWYDDI ANRHYDEDDUS:
Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd
Ysgol Meddygaeth Uwch Awstralia
Prifysgol MacQuarie
Sydney, Awstralia

Athro Dirprwyol
Canolfan Feddygol Prifysgol Columbia
Ysbyty Presbyteraidd Efrog Newydd
Prifysgol Columbia
Efrog Newydd, UDA

 

AELODAETH BYRDDAU GOLYGYDDOL A PHWYLLGORAU GWYDDONOL:
• Artery Research, Aelod o'r Bwrdd Golygyddol (Ewrop)
• Grŵp Cydlynu Ymchwil Ewropeaidd, Iechyd. Addysg Uwch Cymru Brwsel. (Aelod o Fwrdd Ymchwil Iechyd Cymru)
• Horizon 2020, Aelod o'r Grŵp Cynghori ar Heriau Cymdeithasol (Cymru)
• Pwysedd Gwaed Cymru, Aelod o'r Pwyllgor Trefnu / Gwyddonol (Cymru)

 

AELODAETH O BWYLLGORAU PANEL ADOLYGU:
• Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR), pwyllgor adolygu grantiau rhithwir: cadeirydd ac aelod o'r panel
• Aelod o banel adolygu haniaethol ar gyfer "Rhwydwaith Ymchwilwyr Newydd" y Gymdeithas Orbwysedd Ryngwladol (ISH)
• Gweithgor Clinigol (Prifysgol Metropolitan Caerdydd): Aelod o'r Pwyllgor
• Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Canolfan Ymarfer Corff ac Iechyd Caerdydd (CCEH): Aelod o'r grŵp llywio

ADOLYGYDD ERTHYGLAU MEWN CYFNODOLION:
• Journal of Applied Physiology
• International Journal of Cardiology
• Journal of Human Hypertension
• Artery Research
• American Journal of Hypertension
• Clinical and Experimental Ophthalmology
• Medicine
• Heart and Vessels
• Sleep Science
• Scientific Reports

AELODAETH O GYMDEITHASAU DYSGEDIG:
• Ymchwil ARTERY
• CVIRG Cymru
• Grŵp Ymchwil Gweithgaredd Corfforol, Diabetes ac Iechyd Metabolaidd Cymru
• Pwysedd Gwaed Cymru
• Grŵp Ymchwil Cardi-Anadlol Cymru
• Cymdeithas Ewropeaidd i Astudio Diabetes (EASD)
• Cymdeithas Ryngwladol Gorbwysedd (ISH)
• Cymdeithas Gorbwysedd America
  

Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch