Dr Gethin Thomas

​​

 

​​

​​Darlithydd Gwyddor Hyfforddi gyda'r Coleg​​​ Cymraeg Cenedlaethol

Rhif ffôn: 029 20415540
Cyfeiriad e-bost: glthomas@cardiffmet.ac.uk

Rwy’n Gyfarwyddwr Rhaglen yr MSc mewn Hyfforddi ac Addysgeg Chwaraeon ac yn ddarlithydd mewn Hyfforddi Chwaraeon, sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Ymunais â'r staff addysgu ar ôl cwblhau Ph.D ym Mhrifysgol Caerwysg gan weithio mewn partneriaeth â'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Undeb Rygbi.

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â hyfforddi chwaraeon ac addysgeg. Ar hyn o bryd mae fy mhrif ffocws ar archwilio arfer addysgeg hyfforddwyr chwaraeon gan ddefnyddio gwaith Lev Vygotsky. Yn benodol, sut y gall hyfforddwyr ddatblygu a chreu'r amgylcheddau dysgu gorau posibl ar gyfer chwaraewyr o bob lefel gallu. Roedd fy ngwaith doethuriaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr ar lefel mini rygbi (7-11 oed) yn Lloegr. Mae'r ymchwil wedi arwain at weithredu deddfau chwarae newydd yn y grwpiau oedran hyn. Mae'r gwaith hefyd wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion ac wedi cael derbyniad da mewn cynadleddau Cenedlaethol a Rhyngwladol.

https://www.englandrugby.com/my-rugby/coaches/new-rules-of-play/

Cyhoeddiadau

Jones, R. L, Corsby, C.L.T. & Thomas, G. Ll. (2023). Bordering, connecting, and dispelling within sports coaching: Erasing the practitioner-scholar divide. Societies, 13(9), 201; https://doi.org/10.3390/soc13090201​​

Mouchet, A., Morgan, K. & Thomas, G. Ll. (2018). Pyschophenomenology and the explicitation interview for accessing subjective lived experience in sport coaching, Sport, Education and Society, DOI: 10.1080/13573322.2018.1495189

Jones, R. L, Thomas, G. Ll., Nunes, R. L. & Viotto Filho, I.A.T. (2018). The importance of history, language, change and challenge: What Vygotsky can teach sports coaches. Motriz. Revista de Educação Física, 24:2, DOI: 10.1590/s1980-6574201800020008

Thomas, G.Ll., Coles, T. & Wilson, M.R. (2016). Exploring mini rugby union coaches' perceptions of competitive activities. Sports Coaching Review. DOI: 10.1080/21640629.2016.1244425

Jones, R. L & Thomas, G. Ll. (2015). Coaching as 'scaffolded' practice: further insights into sport pedagogy, Sports Coaching Review, 4:2, 65-79, DOI: 10.1080/21640629.2016.1157321.

Thomas, G. Ll., & Wilson, M. R. (2015). Playing by the rules: A developmentally appropriate introduction to rugby union. International Journal of Sports Science & Coaching,10:2+3, 413-423.

Thomas, G. Ll. & Wilson, M.R. (2014). Exploring a competitive developmental pathway for childhood rugby union. Qualitative Research in Sport, Exercise and Health. DOI.10.1080/2159676X.2013.819373

Thomas, G. Ll., Morgan, K. & Mesquita, I. (2013). Examining the implementation of a TGfU approach in junior rugby using a reflective practice design. Sports Coaching Review.

Penodau Llyfrau

Thomas, G.Ll., Morgan K., & Harris, K. (2016). Application of Albert Bandura's work to coaching. In L.Nelson, P.Potrac & R. Groom (Eds.), Learning in sports coaching: Theory and application. London: Routledge. 22-33.

Jones, R.L., Thomas, G.Ll., Felix, T., Viotto Filho, T., & Edwards, C.. (2016) Yrjö Engeström, activity theory and coaching. L.Nelson, P.Potrac & R. Groom (Eds.), Learning in sports coaching: Theory and application. London: Routledge. 113-122.

Cyflwyniadau cynhadledd drwy wahoddiad

Thomas, G.L., (2014). Tactical & skill development through game centred approaches: Scaffolding coaching practice. Paper presented at the 'Youth Talent ID & Development Conference', Cape Town, South Africa.

Thomas, G.L., Wilson, M.R., Coles, T.E., (2014). Introducing children to rugby: Shaping the game, retaining players and developing talent. Paper presented at the 'Youth Talent ID & Development Conference', Cape Town, South Africa.

Cyflwyniadau eraill mewn cynadleddau

Thomas, G.Ll., & Jones R.L., (2015). Scaffolding Coaching Practice. Third International Coaching Conference, Crewe, UK.

Thomas, G.L., Coles, T.E., Wilson, M.R., (2013). Introducing children to rugby: Exploring mini rugby coaches' views on U9 rugby. Paper presented at the 'Second International Coaching Conference', Crewe, UK.

Thomas, G.L. & Wilson, M.R. (2012). Producing a developmentally appropriate game for under-9 rugby union players. Presentation given at the 'ICSEMIS convention' in Glasgow, Scotland.  

Thomas, G.L. & Wilson, M.R. (2012). Producing a developmentally appropriate game for under-11 rugby union players. Presentation given at the British Psychological Society, Expertise and Skill Acquisition Network Annual Meeting, Liverpool, England.

Addysgu a Goruchwylio

Fi yw Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc mewn Hyfforddi ac Addysgeg Chwaraeon

Goruchwyliaeth PhD cyfredol

Development of a health and well-being activity pathway for the foundation phase (5-7 year old) for enjoyable and continued participation in rugby union. Andrew Thomas. 2017+

The problem of rapid weight loss in combat sports: an interdisciplinary approach, Dan Jacklin  (Third supervisor). 2017+

Coach Vygotsky: Developing the pedagogical creativity of coaches: An action research approach. Oli Lum (Second supervisor)., 2018+

Vygotsky In Practice: Applying Vygotsky's Work To Sports Coaching. Rhys Pritchard (Second supervisor)., 2018+

Doethuriaeth mewn Hyfforddi Chwaraeon/MSc (Hyfforddi ac Addysgeg Chwaraeon)

Rwy'n dysgu ar y Ddoethuriaeth mewn Hyfforddi Chwaraeon (DSC) a'r MSc ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Cymwysterau a Gwobrau

Ph.D mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd
MSc Gwyddor Hyfforddi (Rhagoriaeth)
Undeb Rygbi Cymru Lefel 3 mewn hyfforddi rygbi’r undeb
UEFA Hyfforddwr Pêl-droed Trwyddedig 'C'
TAR Addysg Gynradd
Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Newyddiaduraeth
LL.B Y Gyfraith (Anrh)
Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)

Cysylltiadau Allanol

Arholwr Allanol: BA Addysg Gorfforol a Chwaraeon, Prifysgol y Santes Fair, Twickenham, Llundain (2016 - presennol).

Golygydd Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer y Sports Coaching Review.

Addysgwr hyfforddwyr Lefel 4 i Undeb Rygbi Cymru.

Aelod o'r Bwrdd Golygyddol ar gyfer Gwyddoniaeth Hyfforddi (Rhwydwaith Gwyddoniaeth Rygbi'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol).

Cyllid a ddyfarnwyd
 Cyllid KESS2. CMK204: PhD: Development of a health and well-being rugby union activity pathway for the foundation phase (5-7 year olds) gydag Undeb Rygbi Cymru (Myfyriwr PhD: Andrew Thomas).

Ysgoloriaeth ESRC CASE dan y Wobr Adeiladu Clystyrau Gallu (RES-187-24-0002) mewn partneriaeth â'r Undeb Rygbi.

Cyrraedd y rhestr fer yn 2013 am Wobr Effaith Prifysgol Caerwysg yn y categorïau 'Effaith Eithriadol mewn Polisi ac Addysg', a'r 'Effaith Ôl-raddedig Gorau'.

Proffil Chwaraeon / Hyfforddi

Hyfforddi
Hyfforddwr Rygbi Clwb Rygbi Metropolitan Caerdydd   (2013 - Presennol)
Hyfforddwr Rygbi Prifysgol Caerwysg (2010 - 2013)
Hyfforddwr Rygbi Ieuenctid Merthyr (2009 - 2010)

Perfformiad 
Rygbi dan 18 Ysgolion Dwyrain Cymru (1993)
Chwaraewr Rygbi Lled-Broffesiynol Clwb Rygbi Llanharan (1996 - 1998) a Chlwb Rygbi Merthyr (1998 - 2009)