Nod tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod pobl o unrhyw gefndir neu grŵp ethnig dros 18 oed yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio yma mewn modd â chymorth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y dylai pawb sydd â'r penderfyniad, y sgiliau a'r awydd i gael mynediad i Addysg Uwch allu gwneud hynny.
Os ydych chi'n fyfyriwr aeddfed, yn ddysgwr sy'n oedolyn neu â diddordeb mewn dysgu yn eich cymuned ac eisiau rhoi cynnig ar gwrs byr ar gyfer symud ymlaen i'r brifysgol, yna gallwn ni helpu. Rydym yn gweithio gyda chymunedau sy'n cynnig cyfleoedd hygyrch a hyblyg i ddysgwyr anhraddodiadol. Mae'r cyrsiau a gynigir yn rhaglenni dysgu rhan-amser, bach eu maint sydd wedi'u cynllunio i ehangu cyfranogiad i addysg uwch.