Hafan>Ynglŷn â Ni>Campysau a Lleoliadau

Teithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd

Gweld y map uchod mewn maint llawn

Gweld map o’r draffordd a’r ddinas

Hoffem estyn croeso cynnes i bob ymwelydd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Fel rhan o'n Cynllun Teithio Cynaliadwy, anogwn bob ymwelydd, myfyrwyr ac aelodau staff i deithio i'r Brifysgol trwy gerdded, seiclo, trafnidiaeth gyhoeddus, neu drwy rannu ceir.

I gael gwybodaeth ar sut i gyrraedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd naill ai drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car, gweler tudalennau gwe ein campysau unigol.

Campws Llandaf

Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Ysgol Reoli Caerdydd
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Llandaf)
Ysgol Technolegau Caerdydd

Campws Cyncoed

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyncoed)

Campws Preswyl Plas Gwyn

Cynllun Teithio

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi teithio cynaliadwy er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gwella iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff, a chwarae'n rhan fel aelod cyfrifol o'r gymuned leol. 

Mae'n Cynllun Teithio yn darparu fframwaith cynhwysfawr i adolygu a gwella arferion teithio'r Brifysgol yn barhaus, ac mae'n elfen hanfodol o werthoedd corfforaethol y Brifysgol.

Cydnabuwyd ein dull llwyddiannus o gynllunio teithio â Gwobr Lefel Aur Cynllunio Teithio Cymru yn 2011.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Teithio 2015​
Adroddiad Blynyddol Cynllun Teithio 2011
Adroddiad Blynyddol Cynllun Teithio 2010
Cam 1 Cynllun Teithio
Cam 2 Cynllun Teithio​​