Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Wedi’i lleoli ar draws campws Cyncoed a Llandaf, mae’r Ysgol yn cynnig graddau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym meysydd pwnc Addysg, Dyniaethau, Polisi Cymdeithasol ac Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Yn gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU, mae gennym dros 60 mlynedd o brofiad ac enw rhagorol am ansawdd ein darpariaeth hyfforddiant athrawon.
Mae ein graddedigion yn hynod fedrus ac yn gwbl barod ar gyfer y byd gwaith. Mae ein cysylltiadau rhagorol ag ysgolion, diwydiant, cyrff proffesiynol a’r gymuned, yn darparu profiadau gwaith gwerthfawr a chyfleoedd i chi ddysgu gan staff addysgu arbenigol ac ennill cymwysterau ychwanegol, i wneud i chi sefyll allan.
Gweld Ein Cyrsiau