Darlithydd
Rhif ffôn: 029 2041 7299
Cyfeiriad e-bost: sdrane@cardiffmet.ac.uk
Mae Suzy’n ddarlithydd mewn Datblygu Chwaraeon a Chwaraeon Perfformio.
Ymunodd â'r ysgol yn 2011 ar ôl cwblhau BSc ac MSc yn y brifysgol, mewn Datblygu Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd yn y drefn honno.
Gan weithio ochr yn ochr â chyfarwyddwr y rhaglen mae hi wedi cyfrannu at ddylunio'r cwrs Datblygu Chwaraeon newydd ac mae bellach yn rhan o'r tîm cyflwyno ar gyfer y rhain.
Mae Suzy yn parhau i gydbwyso addysgu yn y brifysgol gyda'i hymrwymiadau chwarae Pêl-rwyd. Ar hyn o bryd mae hi'n rhan o fasnachfraint Celtic Dragons sy'n chwarae yn y Super League Netball cenedlaethol a hi yw capten presennol Cymru.
Ymchwil / Cyhoeddiadau
Mae fy mhrif ddiddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio chwaraeon fel cyfrwng ar gyfer datblygu pobl. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn sut mae chwaraeon yn effeithio ar iechyd a chymhwyso polisi chwaraeon ar waith.
Teitl traethawd hir BSc: A critical analysis of the effectiveness of the Welsh Netball academy
Teitl traethawd hir MSc : A critical analysis of the implementation of Sport Wales’ physical activity and health agenda: The 5x60 programme. Astudiaeth Achos.
Addysgu a Goruchwylio
Fi yw arweinydd y modiwl ar gyfer Dysgu yn Seiliedig ar Broblemau mewn Datblygu Chwaraeon (SSP4005), Datblygu Chwaraeon ar Waith (SSP5056), a Dadansoddi a Chymhwyso mewn Pêl-rwyd (SSP6075) ac arweinydd gweithgaredd Pêl-rwyd ar gyfer y modiwlau: Cyflwyniad i Egwyddorion a Thechnegau Cymhwysol mewn Ymarfer Proffesiynol (SSP4001), a Thechnegau a Dadansoddiad Chwaraeon (SSP5067). Rwyf hefyd yn dysgu ar Cyflwyniad i Ddatblygu Chwaraeon (SSP4004). Rwy'n diwtor Lefel 4 a 6 Tiwtor Blwyddyn ac yn diwtor personol Lefel 4 a 6 ar gyfer myfyrwyr Datblygu Chwaraeon ac yn goruchwylio myfyrwyr traethawd hir israddedig.
Cymwysterau a Gwobrau
Datblygu Chwaraeon - BSc (Anrh) UWIC 2004-2007
MSc Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd. UWIC 2007-2011
Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCtHE). 2012- i'r presennol
Dolenni Allanol
Proffil Chwaraeon / Hyfforddi
Tiwtor Addysg Hyfforddwr Pêl-rwyd Cymru
Anrhydeddau Rhyngwladol Cymru mewn Ieuenctid (2002-2005) a Lefel Uwch (2005- cyfredol). Cynrychioli Cymru mewn nifer o Bencampwriaethau Ewropeaidd, Gemau'r Gymanwlad, Pencampwriaethau'r Byd.
Cyn-fyfyriwr UWIC.
Hyfforddwr Pêl-rwyd Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd.