Mae penderfynu ble i astudio yn golygu mwy na dewis y cwrs mwyaf priodol. Mae angen i chi hefyd ddewis ble rydych chi am fyw neu gael eich lleoli ar gyfer blynyddoedd nesaf eich bywyd.
Dyma ein dinas ni – prifddinas Cymru. Llawn diwylliant, antur a chwaraeon. Bywyd nos, siopa, bwyd rhyngwladol ffyniannus, mannau gwyrdd, dyfrffyrdd a mwy – pob un wedi’i lapio mewn gofod cryno a hawdd ei lywio.
P’un a ydych yn lleol i’r ddinas, neu’n ystyried astudio gyda ni o bell i ffwrdd, rydym yn hyderus mai Caerdydd yw’r lle y byddwch am ei alw’n gartref. Gyda phoblogaeth ffyniannus o fyfyrwyr, ystyrir Caerdydd fel un o’r dinasoedd myfyrwyr mwyaf fforddiadwy yn y DU*.
*Mynegai NatWest am Gostau Byw i Fyfyrwyr 2023