Ym Met Caerdydd, credwn fod cyflogadwyedd yn golygu datblygu'r gallu i reoli'ch llwybr gyrfa eich hun a gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i'r economi a'r gymdeithas. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chi i ymwreiddio EDGE Met Caerdydd - cyfres o sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd i ddatblygu eich hyder, eich gwydnwch a'ch profiadau. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol ac i gyflogaeth. I gyflawni hynny, rydym yn cynnig y canlynol:
-
Cyrsiau o ansawdd uchel sydd â chysylltiadau cryf â’r diwydiant a'r proffesiynau, gan gynnwys opsiynau ar gyfer profiad gwaith.
- Cyfleoedd helaeth ar gyfer datblygiad personol a datblygiad gyrfa.
- Mae'r
Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi'i gynllunio i'ch helpu chi trwy gynnig apwyntiadau un i un, digwyddiadau yn eich Ysgol a gwahodd cyflogwyr i'r campws ar gyfer ystod o ffeiriau, fforymau a chyflwyniadau.