P’un a oes angen i chi logi ystafell gynadledda fawr, ystafell hyfforddi TG, ystafelloedd cyfarfod, canolfan arddangos neu leoliadau chwaraeon, mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ystod helaeth o gyfleusterau ar gael. Rydym yn cynnig lleoliadau cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod gydag amgylchedd cadarnhaol ac opsiwn gwahanol i westy arferol. Mae staff cyfeillgar a phrofiadol y ganolfan gynadledda wrth law trwy gydol eich diwrnod i sicrhau digwyddiad llwyddiannus. Mae dau leoliad i ddewis ohonynt sydd yn agos at Gaerdydd, prifddinas Cymru, ac mae’r ddau yn hawdd eu cyrraedd o'r M4 a chyda pharcio ar y safle.