Darlithydd
Rhif ffôn: 029 20 416309
Cyfeiriad e-bost: akelly@cardiffmet.ac.uk
Mae Andy yn ddarlithydd, yn Ffisiotherapydd ac yn ymarferwr tylino cymwys ar raglen gradd BSc (Anrhydedd) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon ar ôl ymuno â’r ysgol yn 2012 wedi cyfnod yn gweithio ym maes rygbi’r undeb proffesiynol. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn nifer o leoliadau chwaraeon gwahanol, practis preifat a’r GIG.
O fewn yr ysgol, mae’n diwtor personol, yn arweinydd cyflogadwyedd i’r cwrs ac yn arweinydd modiwl. Mae’n cyfrannu hefyd at y radd MSc mewn Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer yn ogystal â rhaglenni MSc eraill. Ynghyd â’r darlithio, mae wedi parhau i weithio ac ymgynghori fel ffisiotherapydd i Ganolfan Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer Caerdydd yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau chwaraeon eraill. Mae hyn yn cynnwys Rhwyfo Prydain Fawr, Hoci Cymru a Thenis Cymru ymysg eraill.
Ymchwil / Cyhoeddiadau
Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud ag anafiadau chwaraeon a sgrinio/rhagfynegi ffactorau risg sy’n arwain at amser i ffwrdd o chwaraeon. Roedd fy mhrosiect MSc yn edrych ar gryfder ysgwyddau chwaraewyr rygbi cyn i’r tymor ddechrau ac yn monitro’r risg o anafiadau drwy’r tymor. Cyflwynwyd y prosiect hwn i Gynadleddau BASEM a Rhwydwaith Gwyddorau Rygbi yn 2015.
Addysgu a Goruchwylio
Rwyf ar hyn o bryd yn arweinydd modiwl i Gyflwyniad i Anafiadau Chwaraeon ac Adferiad lefel 4 (ssp 4015), Dysgu yn y Gwaith lefel 6 (ssp6092) ac yn chwarae rôl weithredol yn y Modiwl Adferiad ac Anafiadau Chwaraeon lefel 5 (ssp5063). Yn ogystal â hyn, rwy’n diwtor lefel 4 a 6 i’r cwrs SCRaM. Ochr yn ochr â’r rolau hyn, rwy’n gweithio fel yr arweinydd cyflogadwyedd i’r rhaglen SCRaM ac yn trefnu lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr yn ystod trydedd flwyddyn eu gradd. O ran MSC Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer, rwy’n gyfrifol am gyflwyno a marcio elfennau o gynnwys y cwrs. Rwyf hefyd o bryd i’w gilydd yn cyflwyno i fyfyrwyr ar y cyrsiau MSc Cryfder a Chyflyru a MSc Dadansoddi Perfformiad.
Cymwysterau a Gwobrau
- MSc Ffisiotherapi Chwaraeon
- Tylino Chwaraeon
- BSc (Anrhydedd) Ffisiotherapi
- BSc (Anrhydedd) Adferiad Chwaraeon
Dolenni Allanol
- Ffisiotherapydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd
- Aelod o Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Aelod o BASRaT
- Aelod o ACPSEM
- Aelod o’r AACP
- Cymedrolwr ICSP gyda’r Rhwydwaith Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer
- Siaradwr gwadd i Gymdeithas Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer Caerdydd
Proffil Chwaraeon / Hyfforddi
Wrth weithio fel ffisiotherapydd, rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio ar draws a gyda nifer fawr o dimau a chwaraeon yn fy ngyrfa hyd yn hyn. Yn arbennig gyda: Rhwyfo Prydain Fawr, Tîm Rygbi Saints Northampton, ECB, England Touch Rygby, Hoci Cymru, Tenis Cymru a chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain.