Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Rydym yn cynnig graddau rhyngddisgyblaethol creadigol israddedig ac ôl-raddedig i’ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd heddiw a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dewiswch o ystod eang o ddisgyblaethau yn cynnwys Pensaernïaeth, Celf Gain, Ffotograffiaeth a Dylunio Mewnol.
Dewch i fod yn un o’n graddedigion hynod fedrus, yn barod i ymuno ag arweinwyr, meddylwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol.
Gweithiwch gydag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr eraill ar draws y disgyblaethau, gan rannu sgiliau, syniadau a phrofiadau.
Datblygwch eich sgiliau a’ch profiad yng nghyd-destun cyfrifoldeb cymdeithasol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynwysoldeb, llesiant a chreu dyfodol cynaliadwy.