Arweinydd Modiwl
• PSY5008 Gwaith a Gwirfoddoli mewn Seicoleg Gymhwysol
Addysgu Lefel 4
• PSY4009 Llythrennedd Seicolegol
• PSY4004 Seicoleg Datblygiadol
Addysgu Lefel 5
• PSY5003 Materion ac Anhwylderau Plentyndod
• PSY5008 Gwaith a Gwirfoddoli mewn Seicoleg Gymhwysol
Goruchwylio
• SSF3020 Traethawd Estynedig Cwrs Sylfaen yn y Gwyddorau Cymdeithasol
• PSY5008 Gwaith a Gwirfoddoli mewn Seicoleg Gymhwysol
• PSY6001 Prosiect Ymchwil Israddedig
• PSY6111 Gwaith a Gwirfoddoli mewn Seicoleg Gymhwysol 2
Tiwtora personol:
• Sylfaen yn y Gwyddorau Cymdeithasol
• Lefel 4
• Lefel 5
Cyfrifoldebau Eraill
• Cydlynydd Lleoli
• Arweinydd Ymweliadau Allanol y Coleg a'r Ysgol Seicoleg
• Arweinydd Datblygu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Aelod
• Cyfeiriadur Arbenigedd y BBC
• Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain
• Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cangen Prifysgol Metropolitan Caerdydd
• Pwyllgor Moeseg Adran Seicoleg Prifysgol Metropolitan Caerdydd
• Grŵp Diddordeb Arbennig Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Ysgol Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
• Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
• Grŵp Ymchwil mewn Profiad Myfyrwyr (RISE) (Ysgol Seicoleg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
• Sefydliad Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Dulliau a Data (WISERD)
Anrhydeddau a Gwobrau
• Ar restr fer Cymrodoriaeth Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (2016)
Mae Dr Mirain Rhys yn ddarlithydd a chydlynydd lleoliad yn yr Ysgol Seicoleg. Ymunodd â'r adran yn 2016 ar ôl gweithio ym maes ymchwil am nifer o flynyddoedd. Mae ei harbenigedd yn cwmpasu meysydd Addysg a Dwyieithrwydd. Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn natblygiad / trosglwyddiad y Gymraeg o fewn addysg, y gymuned a'r cartref a sut mae hyn yn cymharu ag enghreifftiau rhyngwladol eraill o boblogaethau ieithoedd lleiafrifol. Mae hi wedi cynnal ymchwil ac wedi cyhoeddi mewn sawl maes, gan gynnwys addysg blynyddoedd cynnar, dwyieithrwydd, ieithoedd lleiafrifol a'r Gymraeg.
Cyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd gan Mirain swydd Ymchwilydd Cyswllt yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economiadd, Dulliau a Data Cymru (WISERD) a bu ganddi rôl allweddol mewn nifer o werthusiadau annibynnol o bolisïau addysg blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru:
WISERD Education:
http://www.wiserd.ac.uk/wiserd-education/en/
Gwerthusiad Cyfnod Sylfaen 3 Mlynedd:
http://wiserd.ac.uk/research/education/current-projects/evaluating-foundation-phase/
Gwerthusiad o Beilotiaid Hyblygrwydd y Cyfnod Sylfaen
http://wiserd.ac.uk/research/education/current-projects/evaluation-foundation-phase-flexibility-pilots/
Gwerthusiad o'r Grant Amddifadedd Disgyblion:
http://www.wiserd.ac.uk/research/education/current-projects/evaluation-pupil-deprivation-grant/
Cwblhaodd Mirain radd PhD gyda goruchwyliaeth gan yr Athro Enlli Thomas, gan edrych ar effaith addysg ddwyieithog ar sgiliau gwybyddol ac ieithyddol plant ac agweddau rhieni tuag at ddwyieithrwydd yn 2013. Roedd hyn yn dilyn cwblhau gradd Seicoleg (BSc) yn 2009, y ddau ym Mhrifysgol Bangor. Mae Mirain yn gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.
Ar hyn o bryd mae Mirain yn cynnal prosiect ymchwil sy'n edrych ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg mewn Addysg Uwch, gan gydweithio ar brosiectau ysgrifennu ar bwnc y Gymraeg fel ail iaith, ac mae'n rhan o'r Cynllun Mentora Menywod mewn Addysg.
Mae Mirain yn mwynhau gweithio gyda chyrff y llywodraeth, sefydliadau addysgol a chyd-ymchwilwyr i ddatblygu strategaethau ac atebion realistig, cynaliadwy sy'n cael eu gyrru gan sylfaen o dystiolaeth gadarn.
Diddordebau ymchwil ehangach + arbenigedd: Dwyieithrwydd, addysg ddwyieithog, arfer gorau, materion Cymraeg, gwerthuso polisi, addysg uwch a dewis iaith, ieithoedd lleiafrifol, datblygiad plant ac addysg blynyddoedd cynnar.
Croesewir ceisiadau goruchwylio prosiect a chydweithrediadau ar y pynciau uchod.