Jane Bellamy

 

​​

Uwch Ddarlithydd (Dawns)

Rhif ffôn: 029 2041 5895
Cyfeiriad e-bost: jbellamy@cardiffmet.ac.uk

Mae Jane yn cyfrannu at y llwybr Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dawns) gyda chyfoeth o brofiad yn gweithio o fewn diwydiant Dawns Cymru yn gweithio fel perfformiwr / coreograffydd / athro.  

Mae hi wedi gweithio o fewn sefydliadau dawns a'r celfyddydau, gan greu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad a pherfformiad dawns mewn lleoliadau cymunedol ac addysgol. Mae wedi cydweithio ag ymarferwyr dawns a'r celfyddydau o theatr, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol i gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa BBC Cymru, Cymdeithas Hawliau Perfformio, Celfyddydau Rhyngddiwylliannol De Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd.  

Ymchwil / Cyhoeddiadau 

Aelod o grŵp ymchwil 'Addysg Gorfforol Gymhwysol ac Iechyd ' yr ysgol chwaraeon a gwyddorau iechyd:

Diddordeb cyffredinol mewn archwilio cyfraniad dawns fel gweithgaredd corfforol i feysydd iechyd / lles trwy ddatblygu cyfleoedd cyfranogi dawns o fewn Iechyd Meddwl. 

Diddordeb mewn datblygu dulliau addysgeg o Ddawns mewn Addysg ac mae wedi cychwyn sawl prosiect yn seiliedig ar berfformiad: 'Water babies Project', archwilio'r cysylltiad rhwng dawns a gwyddoniaeth mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae 'Move A Book', prosiect perfformio cyfranogol ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed yn cysylltu dawns â fframwaith llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm cenedlaethol.

Ers cymhwyso fel tylinydd chwaraeon mae Jane wedi datblygu dull o ddysgu gan ganolbwyntio ar y Dawnsiwr Iach ac ymarfer dawns iach, yn unol ag arfer a datblygiad cyfredol mewn Gwyddor Dawns. Mae hi'n parhau i archwilio ffyrdd o alluogi'r myfyriwr dawns i fod yn fwy gwybodus am anatomeg a ffisioleg y corff dawnsio, trwy amrywiaeth o ddulliau pedagogaidd trwy brofiad.

Ar hyn o bryd yn archwilio rôl Ioga fel arfer somatig wrth astudio Dawns mewn Addysg Uwch.

Addysgu a Goruchwylio

Mae Jane yn cyfrannu ar draws sawl modiwl yn yr ysgol gan ganolbwyntio ar feysydd Addysgeg, Ymarfer Dawns Iach a Choreograffi. • Yn cyfrannu at gymorth myfyrwyr fel tiwtor personol. • Yn weithredol yn natblygiad prosiectau dawns sy'n canolbwyntio ar ehangu mynediad i astudio yn y brifysgol, cydweithredu ag uned First Campus y brifysgol a darparu mynediad at gyfleoedd dysgu yn y gwaith i fyfyrwyr.

Cymwysterau a Gwobrau

  • BA Dawns (Laban, Center Movement & Dance, Llundain) 
  • Cymrodoriaeth yr AAU 

Dolenni Allanol

  • Dawns mewn Addysg Uwch - sefydliad sy'n cefnogi astudio dawns mewn AU 
  • One Dance UK - Llais ar gyfer diwydiant Dawns y DU ar draws sectorau  
  • People Dancing, sylfaen ar gyfer dawns gymunedol - creu cyfleoedd i brofi a chymryd rhan mewn dawns
  • IADMS - Cymdeithas Ryngwladol Meddygaeth Dawns a Gwyddoniaeth