Valerie Scholey

 Teitl y Swydd:  Darlithydd
 Rhif Ystafell:  D1.08
 Rhif Ffôn:  + 44 (0) 29 2041 6851
 Cyfeiriad E-bost:   vscholey@cardiffmet.ac.uk 

 

 

Addysgu

Mae Val yn darlithio ar ystod o lefelau o'r cwrs sylfaen, i lefel israddedig, hyd lefel ôl-raddedig.  Mae hyn yn cynrychioli holl raddau'r tîm disgyblaeth (BSc Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd ac MSc Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles & Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol) a'r cwrs sylfaen mewn Iechyd a Gwyddorau Cymdeithas.  Mae hi'n arweinydd modiwl ar gyfer pynciau sy'n amrywio o gymdeithaseg rhostir a dylanwadu ar newid unigol a sefydliadol i ganfyddiad risg a chyfathrebu.

Mae gan Val MSc mewn Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Lles, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheolaeth ac mae'n Aelod pleidleisiol o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

Yn dilyn gyrfa 25 mlynedd yn y sector preifat, 16 ohonynt ar lefel rheoli ac uwch reoli, cymerodd Val seibiant gyrfa er mwyn dychwelyd i astudio a pedair mlynedd yn ddiweddarach enillodd radd dosbarth cyntaf (gyda gwobrau) mewn Iechyd yr Amgylchedd.  Dydi Val ddim cweit wedi gadael y Brifysgol erioed, gan ddychwelyd i gymryd rhan mewn diwrnodau agored fel llysgennad ar gyfer y cwrs ac yna i ddysgu ar y radd fel tiwtor cyswllt, yn ystod y mwyafrif o flynyddoedd.  Ym mis Medi 2016, ymunodd â'r tîm yn llawn amser.

Ymchwil

Ar ôl treulio chwe blynedd yn gweithio gyda  tîm Gweithio Iach Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn ddiweddarach yn ei reoli, mae gan Val ddiddordeb mewn lles yn y gweithle a'r effaith y gall rheoli llinell ei gael ar les unigolion.

Cyhoeddiadau

George E., Tomlinson A., Scholey V., Williams E., Griffiths J. (in press). An Independent Review of the Provision of Smoking Cessation Services in Wales. A report commissioned by Welsh Government, to be published early 2018.


Bell, N., Powell, C., Sykes, P. and Scholey V.  From Health to Wellbeing.  Safety and Health Practitioner.  August 2015. Available online at:
http://www.shponline.co.uk/cpd-from-health-to-wellbeing/

 

Dolenni Allanol

Mae Val wedi sefydlu a rhedeg Fforwm Lles Cyflogwyr, gan wahodd cyflogwyr i ddod ynghyd i rannu eu profiadau o weithredu mentrau lles, a gynhelir gan y brifysgol.

Aelod o'r grŵp llywio ar gyfer Engage For Success, Cymru

Aelod o Grŵp Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru, Panel Arbenigwyr Iechyd a Diogelwch

Aelod o Bwyllgor Moeseg y Tîm Disgyblu