Luke Hawker

​​

Darlithydd mewn Hyfforddi Chwaraeon


Rhif ffôn:
Cyfeiriad E-bost:  luhawker@cardiffmet.ac.uk

 

Mae Luke Hawker yn Ddarlithydd mewn Addysg Gorfforol a Hyfforddi Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Perfformiad. Hoci Ymunodd Luke â'r ysgol yn 2016 yn dilyn astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig yn Met Caerdydd.

Mae Luke yn arbenigo mewn theori i ymarfer, yn enwedig datblygu dylunio ymarfer er mwyn hwyluso rhaglenni addysgu, hyfforddi a hyfforddi effeithiol mewn perfformiad chwaraeon ac ymarfer corff. Mae ganddo ddiddordeb pellach yn natblygiad timau sy’n cefnogi athletwyr rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol. Mae ei ddiddordeb yn y pwnc hwn wedi datblygu o'r daith tuag at ei statws cyfredol fel Capten Tîm Hoci Hŷn Dynion Cymru a fynychodd Gemau'r Gymanwlad yn 2014 ac sy'n cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd a chystadlaethau Cynghrair y Byd bob yn ail flwyddyn.

Ochr yn ochr â pherfformiad mae'n Brif Hyfforddwr, Mentor, Addysgwr Hyfforddwr ac Asesydd. Mae ei gyfuniad o brofiadau yn ei  alluogi  i ledaenu cysyniadau damcaniaethol cymhleth o safbwyntiau amrywiol, creadigrwydd wrth ddylunio'r cwricwlwm a datblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyflawnir trwy brofiad gwaith.
Ar hyn o bryd mae Luke yn ymgymryd â Thystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PgCTHE) sy'n cynnwys ymyriadau addysgu sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio Amgylcheddau Dysgu Rhithwir a thechnoleg Dadansoddi Perfformiad ar gyfer addysg hyfforddwyr gyda'r nod o lywio arferion dylunio cwricwlwm ac addysg hyfforddwyr. Mae'n bwriadu symud ymlaen tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol a pharhau i integreiddio cyrsiau Addysg Hyfforddwyr NGB i'r cwricwlwm.

Addysgu a Goruchwylio

Ar hyn o bryd rwy'n cyflwyno modiwl Egwyddorion a Thechnegau Cymhwysol mewn Ymarfer Proffesiynol trwy gyfrwng Hoci ar lefel 4 a lefel 5. Fel rhan o hyn, rwy'n diwtor ac yn asesu cymhwyster Hyfforddwr Sesiynol Hoci UKCC integredig. Rwyf hefyd yn cyfllwyno ar Brofiad Gwaith, Gwyddor Hyfforddi a Dulliau Ymchwil ar lefel 4, 5 a 6.

 

Dolenni Allanol

Hoci Cymru - Addysg Hyfforddwyr

 

Cymwysterau a Gwobrau

• B.Sc. Hyfforddi Chwaraeon - Anrhydedd Dosbarth 1af, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2012)
• Gweinyddwr Myfyrwyr Chwaraeon y Flwyddyn (2012)
• Myfyriwr Israddedig Cyffredinol Gorau (2012)
• Hyfforddwr Hoci Lefel 2 UKCC (2013)
• M.Sc. Hyfforddi Chwaraeon - Rhagoriaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2014)
• Tystysgrif L3 mewn Addysg a Hyfforddiant (QCF) - (2015)
• Tystysgrif L3 mewn Asesu Cyflawniad sy'n Gysylltiedig â Galwedigaeth (QCF) - (2016)
• Gwobr am Wasanaethau i Chwaraeon Myfyrwyr - (2016)

 

Proffil Chwaraeon/Hyfforddi

• Cyfarwyddwr Hoci - Prifysgol Metropolitan Caerdydd
• Prif Hyfforddwr, Tîm 1af Merched  BUCS - Prifysgol Metropolitan Caerdydd
• Prif Hyfforddwr, Tîm 1af Merched  - Clwb Hoci Caerdydd a Met Caerdydd
• Addysgwr ac Aseswr Hyfforddwyr - Hoci Cymru
• Capten y Dynion, Hoci Cymru - Debut 2012
• Clwb Hoci Caerdydd a Met Caerdydd - Cynghrair Eurohockey, Cynghrair Genedlaethol Hoci Lloegr, Pencampwriaethau Clwb Eurohockey Dan Do ac Awyr Agored.