Ymchwil ac Arloesi

Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn ymfalchïo yn ei henw da am waith ymchwil   ‘Gyda’r Gorau yn y Byd’ sy’n amlygu ‘Rhagoriaeth Ryngwladol’. Mae Ymchwil ac Arloesi yn flaenoriaethau strategol, a dangosir hynny gan led, dyfnder ac ansawdd y gweithgarwch ymchwil. Mae ymrwymiad yr Ysgol i feithrin diwylliant ymchwil bywiog a chefnogi dyheadau ymchwil staff yn ganolog i’w hethos o addysgu a dysgu seiliedig ar ymchwil, yn ogystal ag ymgysylltu allanol.

Ar hyn o bryd, mae ymchwil ac arloesi yn canolbwyntio ar bedair prif thema: 1) Gwyddor Chwaraeon Gymhwysol, 2) Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio, 3) Diwylliant, Polisi ac Ymarfer Proffesiynol, a 4) Peryglon i’r Boblogaeth a Gofal Iechyd. Mae pob thema yn cynnwys grwpiau arbenigol sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil ledled y sbectrwm llawn o ymchwiliadau ym meysydd gwyddor foleciwlaidd, iechyd a llesiant, ac ymarfer corff a chwaraeon.

Mae gan ein hymchwil sylfaen gymhwysol gref sy'n ei wneud yn hawdd ei drasblannu i nifer o brofesiynnau iechyd, addysg a gwasanaethau cymunedol, cyfranogiad gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Mae’r ymchwil hefyd yn bwydo nifer o ganolfannau; gan gynnwys Canolfan Podiatreg Cymru, y Ganolfan Diwyddiant Bwyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Ganolfan Iechyd, Gweithgaredd a Lles, a'r Ganolfan Hyfforddi Chwaraeon. Drwy'r canolfannau hyn a'r grwpiau ymchwil ac arloesi, mae ein hagenda ymchwil yn ymestyn ar draws iechyd, ffyrdd o fyw, hyd at wyddor chwaraeon ac ymarfer corff, gyda ffocws cymhwysol wrth ei wraidd.  

 


 

Oherwydd y berthynas waith agos rhwng timau ymchwil yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, rydym mewn sefyllfa dda i wynebu rhai o heriau mwyaf cymhleth ein cymdeithas. Mae’r cyfuniad o gyfleusterau chwaraeon a gwyddorau yn ein galluogi i gydweithio’n eang â diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau cymunedol.

 

CSSHS Strategaeth Ymchwill

Diweddarwyd Strategaeth Ymchwil Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yn ddiweddar. Mae’r strategaeth wedi’i alinio’n uniongyrchol â ‘Mesurau Llwyddiant’ y Brifysgol ac yn benodol i ddyheadau ac anghenion yr Ysgol. Gallwch chi gyrchu’r Strategaeth Ymchwil yma.

Moeseg

I gael gwybodaeth am Lywodraethu Moeseg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd cliciwch yma.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Fframwaith Moeseg yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yma. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ESSHEthics@cardiffmet.ac.uk.

 

​​Key Contacts

Professor Jon Oliver 
Yr Athro Jon Oliver
Deon Cysylltiol Ymchwil
Rhiannon Phillips  
Dr Rhiannon Phillips
Dirprwy Deon Cysylltiol Ymchwil
​​
Peter Sykes  
Dr​ Peter Sykes
​Deon Cysylltiol Arloesi​
Dan Heggs  
Dr Dan Heggs
Deon Cysylltiol Partneriaethau
Dr Sarah Maddocks  
Dr Sarah Maddocks
Cydlynydd REF
Professor Mike Stembridge  
Yr Athro Mike Stembridge
Cydlynydd REF