Skip to main content

Graddau Ysgol Dechnolegau Caerdydd

​​​​​Mae graddau Ysgol Dechnolegau Caerdydd wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfa'n siapio dyfodol technoleg. O'r diwrnod cyntaf, cewch eich annog i fabwysiadu meddylfryd twf, gan gryfhau'ch gallu i ddysgu'n annibynnol. Gan ddefnyddio ein labordai pwrpasol o'r radd flaenaf, byddwch yn gallu rhoi theori ar waith ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn byd digidol sy'n esblygu.

Fe'ch addysgir gan academyddion ac ymarferwyr, a fydd yn rhoi mewnwelediadau i'w gweithgaredd ymchwil a menter. Trwy ddarlithoedd gwadd gan bartneriaid diwydiant, gweithdai rhyngweithiol, a phroblemau byd go iawn ar gyfer asesiadau, bydd ein rhwydwaith o arbenigwyr yn dod â gwybodaeth arbenigol ac arferion gorau i'r ystafell ddosbarth. Ar ben hynny, mae llawer o'n rhaglenni wedi'u hintegreiddio â chynnwys ardystio proffesiynol fel SAS, Tableau, Cisco a Hacio Moesegol Ardystiedig (CEH), i roi mantais i chi ym marchnad swyddi gystadleuol heddiw.

Er mwyn cryfhau'r cysylltiad â chyflogwyr, mae pob gradd yn rhoi cyfle i chi ennill profiad diwydiant trwy fodiwlau dysgu dewisol yn y gwaith. Gallwch gwblhau blwyddyn allan ar leoliad neu gymryd rhan yn ein Hackathons ymarferol sy'n seiliedig ar ddiwydiant. Yn ogystal, rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid academaidd rhyngwladol i gynnig cyfleoedd i chi astudio a gweithio dramor.

Cyrsiau Israddedig

Cyrsiau Ôl-raddedig

Prentisiaethau Gradd

Micro-gymwysterau, ​Datblygiad Proffesiynol a Chyrsiau Byr