Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig ystod o brentisiaethau gradd. Ariennir y rhaglenni yn llawn gan Lywodraeth Cymru a gall gweithwyr ennill gradd yn eu disgyblaeth ddewisol dros gyfnod o 3 blynedd.
Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn cynnig prentisiaethau gradd mewn nifer o ddisgyblaethau digidol ac yn bwriadu ehangu’r cynnig hwn yn y dyfodol agos yn unol â datblygiadau gan Lywodraeth Cymru.