Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Gall y rhaglen hon gynnwys Blwyddyn Sylfaen a fwriedir ar gyfer myfyrwyr a fydd am ymrestru ar radd anrhydedd dair blynedd, a fydd yn dod o dan un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr a fydd heb gael y nifer ofynnol o bwyntiau Safon U (neu gyfwerth) er mwyn cael dechrau ar flwyddyn gyntaf rhaglen y radd.
2. Myfyrwyr hŷn a fydd heb fod yn y system addysg ffurfiol am dipyn o amser.
Mae rhagor o wybodaeth ar y Flwyddyn Sylfaen ar gael drwy
glicio yma.
Gradd
Mae rhaglen y radd Peirianneg Meddalwedd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol gydag ystod o opsiynau yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf i gael datblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Bydd y dewis gan y myfyrwyr i gwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.
Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1:
Bydd y myfyrwyr yn dilyn modiwlau gorfodol a fydd yn werth 120 credyd:
- Egwyddorion Rhaglennu
- Saernïaeth a Systemau Gweithredu
- Adeiladu ar gyfer y We
- Technoleg a Chymdeithas
- Meddwl yn Gyfrifiadurol
- Datblygu Systemau a Meddalwedd a Ansawdd I
Blwyddyn 2:
Bydd y myfyrwyr yn dilyn modiwlau gorfodol a fydd yn werth 100 credyd ac yn dewis un modiwl opsiynol a fydd yn werth 20 credyd.
- Dylunio Systemau sy’n Canolbwyntio ar Wrthrychau
- Dadansoddi a Dylunio Systemau
- Technolegau Symudol a Gwe
- Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd II
- Sgiliau Proffesiynol ac Ymchwil
Modiwlau opsiynol* (dewis un o’r canlynol)
- Amlgyfryngau a Rhyngweithio
- Rheoli Data a Gwybodaeth
- Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau
- Y Gyfraith a Diogelwch Digidol
- Graffigwaith Cyfrifiadurol Amser Real
Blwyddyn 3:
Bydd y myfyrwyr yn dilyn modiwlau gorfodol a fydd yn werth 100 credyd ac yn dewis un modiwl opsiynol a fydd yn werth 20 credyd.
Modiwlau gorfodol:
- Prosiect Traethawd Hir Peirianneg Meddalwedd (40 credyd) NEU Brosiect Datblygu (BCS) (40 credyd)
- Rhaglennu Uwch
- Materion Proffesiynol a Moesegol mewn TG
- Systemau Paralel a Gwasgaredig
Modiwlau opsiynol* (dewis un o’r canlynol):
- Seiberddiogelwch a Chryptograffeg
- Amlgyfryngau Uwch
- Deallusrwydd Cyfrifiadurol
- Dadansoddeg a Gwybodaeth Busnes
- Creu Bydoedd Rhithwir gan ddefnyddio GPU
- Rhaglennu Gwe Uwch
- Entrepreneuriaeth ac Arloesedd Busnes
- Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)
Noder: Bydd modiwlau opsiynol yn dibynnu ar eu hargaeledd ac ar y galw amdanyn nhw; felly mae’n bosib na fydd pob un o’r modiwlau yn rhedeg mewn un Flwyddyn Academaidd.
Llwybrau
Bydd gofyn i’r myfyrwyr a fydd am ddilyn llwybr gymryd modiwl arbenigol 20 credyd ym Mlynyddoedd 2 a 3. Dyma’r modiwlau hyn:
Technoleg Gwe
Blwyddyn 2: Technolegau Symudol a Gwe
Blwyddyn 3: Rhaglennu Gwe Uwch
Realiti Estynedig a Rhithwir
Blwyddyn 2: Graffigwaith Cyfrifiadurol Amser Real
Blwyddyn 3: Creu Bydoedd Rhithwir gan ddefnyddio GPU
Diogelwch Rhwydweithiau
Blwyddyn 2: Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau
Blwyddyn 3: Seiberddiogelwch a Chryptograffeg
Diogelwch Data
Blwyddyn 2: Y Gyfraith a Diogelwch Digidol
Blwyddyn 3: Seiberddiogelwch a Chryptograffeg
Bydd angen hefyd i’r myfyrwyr gwblhau eu prosiect traethawd hir 40 credyd mewn pwnc a fydd yn perthyn i’w llwybr arbenigol.
Dysgu Ac Addysgu
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Asesu
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Nod pennaf rhaglen y radd hon yw datblygu’ch gwybodaeth a’ch arbenigedd o ran dylunio, datblygu a darparu meddalwedd ar gyfer llwyfannau ac amgylcheddau modern. Bydd yn dangos effaith a phwysigrwydd ehangach meddalwedd a thechnoleg i’r economi ddigidol yn y DU ac yn fyd-eang, yn datblygu diwylliant a gwerthfawrogiad o software carpentry / codemanship drwy greu arteffactau meddalwedd defnyddiol a defnyddiadwy. Yn ogystal, bydd gennych sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol, sgiliau dadansoddi a datrys problemau, sef sgiliau trosglwyddadwy iawn.
Peirianneg Meddalwedd
Bydd graddedigion Peirianneg Meddalwedd yn dod o hyd i amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa ar draws y sector TG a thelathrebu traddodiadol, yn ogystal â mwyafrif y sectorau diwydiannol eraill (cyhoeddus a phreifat), gan gynnwys y diwydiannau digidol/creadigol, gwasanaethu ariannol a phroffesiynol, uwch ymgynghoriaeth gweithgynhyrchu, peirianneg a rheoli.
Peirianneg Meddalwedd (Technoleg We)
Mae Technoleg Gwe yn cwmpasu ystod eang o dechnolegau ac yn cefnogi llawer o gymwysiadau a gwasanaethau meddalwedd, yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ynghylch cynllunio, dylunio a gweithredu cymwysiadau gwe. Mae gyrfaoedd wedi aeddfedu, gyda chyfleoedd ar draws pob sector a disgyblaeth gyda'r defnydd cyffredinol o Dechnolegau Gwe ar draws diwydiant a bywyd bob dydd.
Peirianneg Meddalwedd (Realiti Estynedig a Rhithwir)
Mae Realiti Estynedig a Rhithiol yn trawsnewid pob diwydiant, gyda chwmnïau a gwyddoniaeth yn cydnabod y cyfleoedd a ddaw yn sgil y dechnoleg hon. Gyda'r twf mewn mabwysiadu caledwedd o glustffonau VR fel Oculus Rift, Oculus Quest a HTC, mae angen datblygwyr VR ar y diwydiant. Mae cyfleoedd gyrfa wedi datblygu o amgylch creu atebion ar gyfer meddygaeth, diwydiant trwm, chwaraeon, busnes a marchnata yn ogystal â gemau a thwristiaeth. Mae'r nifer o gymwysiadau AR a VR newydd ddechrau cael eu harchwilio ac mae cyfleoedd yn dod i'r amlwg yn barhaus.
Peirianneg Meddalwedd (Diogelwch Rhwydwaith)
Mae rhedeg rhwydweithiau yn ddiogel a'r isadeiledd sy'n eu cefnogi yn hanfodol i unrhyw fusnes neu sefydliad. Er mwyn datblygu a chefnogi'r rhwydweithiau hyn, mae angen dealltwriaeth o'u hegwyddorion, eu defnydd a'u cynnal a'u cadw ar gyfer caledwedd a meddalwedd mewn amgylchedd diogel. Mae gyrfaoedd mewn Diogelwch Rhwydwaith yn cael eu talu'n dda ac mae nifer o gyfleoedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i arbenigwyr yn y maes hwn wrth i'r ddibyniaeth ar TG dyfu.
Peirianneg Meddalwedd (Diogelwch Data)
Mae datblygu meddalwedd o fewn amgylchedd diogel yn hanfodol i fusnes, ac mae angen cael dealltwriaeth drylwyr o'r fframweithiau o amgylch hyn. Mae cydnabod y berthynas rhwng diogelwch data a'r rheoliadau cyfreithiol sy'n berthnasol i gyfrifiadura yn gofyn am ddealltwriaeth o ddiogelwch sy'n cynnwys caledwedd, rheolaeth ac amgryptio data. Mae Diogelwch Data yn cynnig rhagolygon rhagorol ar gyfer cyflogaeth yn rhyngwladol, gyda'r sector yn esblygu'n barhaus ac yn ymateb i fygythiadau newydd.
Gellir cael profiad o'r byd go iawn fel rhan o'ch astudiaeth trwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod dewisol/ interniaeth ddiwydiannol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a'r Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhaglen radd hon yn y broses o gael ei hachredu gan BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG - y corff sy'n hyrwyddo'r proffesiwn TG byd-eang gyda mwy na 70,000 o aelodau ledled y byd. Mae'r rhaglen radd hon yn bodloni'r gofynion addysgol ar gyfer aelodaeth broffesiynol a statws siartredig (ar ôl cwblhau profiad diwydiant yn llwyddiannus ar y lefel briodol o hynafedd).
Ar ôl cwblhau'r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae yna hefyd opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir ymhellach ar draws systemau cyfrifiadurol a gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Gofynion Mynediad A Sut I Wneud Cais
Sylfaen:
Yn ddelfrydol dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr) a 32 Pwynt Tariff UCAS o 1 Safon U o leiaf (neu gyfwerth).
Gradd:
Dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau’r TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr) a 96 pwynt o 2 Safon U o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 96 pwynt UCAS o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau CC; Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ei ystyried yn drydydd pwnc
- RQF BTEC National Extended Diploma / Cambridge Technical Extended Diploma: MMM
- 96 pwynt o’r Irish Leaving Certificate (Highers) a fydd yn cynnwys 2 radd H2. Gradd H4 (Higher) yw’r lleiaf a gaiff ei gyfrif tuag at gynnig pwyntiau
- 96 pwynt o 2 Scottish Advanced Highers a fydd yn cynnwys graddau DD.
- 96 pwynt o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch
Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych yma chwilio cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE, drwy glicio
yma.
Gall ymgeiswyr y bydd Dyfarniad Uwch Edexcel (HNC/HND) ganddyn nhw ag iddo gynnwys Cyfrifiadura neu Beirianneg Meddalwedd sylweddol gwblhau’r cwrs o fewn blwyddyn neu ddwy flynedd. Mae’n bosib newid o radd gyffredin i radd anrhydedd os bydd gradd gennych o Met Caerdydd. Cysylltwch â Derbyniadau os byddwch am ymuno drwy’r llwybrau hyn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r
tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddewis:
Fel arfer bydd y dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a chyfweliad, lle bydd hynny’n berthnasol.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma:
www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma:
www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs lle y gellir ymuno â blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais yma: tudalen cydnabod dysgu blaenorol. Cysylltwch â Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth
yma.
Cysylltu  Ni