Cynnwys Y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Gall y rhaglen hon gynnwys Blwyddyn Sylfaen a fwriedir ar gyfer myfyrwyr a fydd am ymrestru ar radd anrhydedd dair blynedd, a fydd yn dod o dan un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr a fydd heb gael y nifer ofynnol o bwyntiau Safon U (neu gyfwerth) er mwyn cael dechrau ar flwyddyn gyntaf rhaglen y radd.
2. Myfyrwyr hŷn a fydd heb fod yn y system addysg ffurfiol am dipyn o amser.
Mae rhagor o wybodaeth ar y Flwyddyn Sylfaen ar gael drwy
glicio yma.
Gradd
Yn ystod y cwrs gradd fe gewch y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth ac i ddysgu ystod eang o sgiliau. Bydd hyn yn cynnwys sut caiff gemau eu dylunio a’u gweithredu, sut bydd peiriannau gemau yn gweithio, mecaneg gemau, deallusrwydd artiffisial, a datblygu gemau symudol ac aml-chwaraewyr. Byddwch hefyd yn dysgu nifer o ieithoedd rhaglennu, gan gynnwys C++. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall sut bydd elfennau mewnol gemau yn gweithio ac yn rhoi’r hyblygrwydd i chi fel y gallwch wireddu eich syniadau dylunio gemau chi eich hunan. Bydd systemau gemau heddiw, o ffonau symudol hyd gonsolau, yn defnyddio cerdyn graffeg (Uned Prosesu Graffeg neu GPU) i greu’r effeithiau a welwch ar y sgrin. Bydd rhaglennu’r GPU yn bwysig yn natblygiad gemau modern a bydd hyn yn ffurfio rhan hanfodol o raglen datblygu gemau ym Met Caerdydd.
Mae rhaglen y radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i gael datblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Bydd y dewis gan y myfyrwyr i gwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.
Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1:
- Cyflwyniad i Ymarfer yn y Diwydiant Gemau
- Sylfeini Systemau Gemau
- Egwyddorion Rhaglennu
- Meddwl yn Gyfrifiadurol
- Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd I
- Systemau Gweithredu a Saernïaeth
Blwyddyn 2:
- Dylunio a Gweithredu Mecaneg Gemau
- Cyflwyniad i Ddylunio Lefelau a Chreu Asedau Gemau
- Graffigwaith Cyfrifiadurol Amser Real
- Datblygu Peiriannau Gemau
- Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau
- Sgiliau Proffesiynol ac Ymchwil
Blwyddyn 3:
Modiwlau gorfodol:
- Creu Bydoedd Rhithwir drwy Ddefnyddio GPU
- Mecaneg Uwch
- Prosiect Traethawd Hir Datblygu Gemau (40 credyd)
Modiwlau opsiynol (dau o’r canlynol):
- Datblygu Gemau Amlchwaraewyr
- Datblygu Gemau Symudol
- Deallusrwydd Cyfrifiadurol
- Systemau Paralel a Gwasgaredig
- Gemeiddio a Datblygu ar gyfer Cyd-destunau Di-gêm
- Entrepreneuriaeth ac Arloesedd Busnes
- Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)
Noder: Bydd modiwlau opsiynol yn dibynnu ar eu hargaeledd ac ar y galw amdanyn nhw; felly mae’n bosib na fydd pob un o’r modiwlau hyn yn rhedeg mewn un Flwyddyn Academaidd.
Dysgu Ac Addysgu
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Gall y myfyrwyr fynd i’r Gweithdy Datblygu Gemau hefyd – lle i gwrdd yn wythnosol ble y gallwch drafod eich gêm neu eich syniadau chi eich hunan y byddwch am eu datblygu ar wahân i’r gemau a fydd yn cael eu creu yn rhan o’r cwrs. Gallwch gael adborth defnyddiol oddi wrth eich cyd-fyfyrwyr yn ogystal â chymorth ychwanegol i weithredu’ch syniadau. Mae’n gyfle hefyd i ddangos eich gemau ac i ddatblygu portffolio i ddangos i gyflogwyr posib.
Asesu
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Cyflogadwyedd A Gyrfaoedd
Nod pennaf rhaglen y radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol dylunio a datblygu gemau cyfrifiadur. Bydd yn dangos effaith a phwysigrwydd ehangach technoleg a meddalwedd gemau i gymdeithas yn ogystal ag i’r economi ddigidol yn y DU ac yn fyd-eang. Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol, sgiliau dadansoddi a datrys problemau, sef sgiliau trosglwyddadwy iawn, ynghyd ag ystod eang o sgiliau datblygu meddalwedd.
Bydd amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol ar gael i raddedigion yn y sector gemau cyfrifiadur ac yn y diwydiannau adloniant a chyfryngau ehangach hefyd. Bydd rolau mwy cyffredinol ar gael yn y rhan fwyaf o’r sectorau diwydiannol eraill (rhai cyhoeddus a rhai preifat), gan gynnwys gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gweithgynhyrchu uwch, peirianneg ac ymgynghoriaeth rheoli. Cafodd graddedigion y cwrs eu cyflogi yn y sector gemau, er enghraifft Cloud Imperium ac Ubisoft, ac mewn sectorau eraill, er enghraifft DTM Global a CGI.
Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy leoliadau blwyddyn rhyngosod ac interniaethau diwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr cyfrifiadura/TG i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, IBM, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Gofynion Mynediad A Sut I Wneud Cais
Llwybr Sylfaen:
Yn ddelfrydol dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr) a 32 Pwynt Tariff UCAS o 1 Safon U o leiaf (neu gyfwerth).
Caiff ymgeiswyr na fydd â’r cymwysterau mynediad lleiaf arferol eu cyfweld a’u hystyried yn unigol ar sail eu dysgu blaenorol neu eu cefndir gwaith.
Gradd:
Dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau’r TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr) a 96 pwynt o 2 Safon U o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 96 pwynt UCAS o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau CC; Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch ei ystyried yn drydydd pwnc
- RQF BTEC National Extended Diploma / Cambridge Technical Extended Diploma: MMM
- 96 pwynt o’r Irish Leaving Certificate (Highers) a fydd yn cynnwys 2 radd H2. Gradd H4 (Higher) yw’r lleiaf a gaiff ei gyfrif tuag at gynnig pwyntiau
- 96 pwynt o 2 Scottish Advanced Highers a fydd yn cynnwys graddau DD. Caiff Scottish Highers eu hystyried hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad ag Advanced Highers
- 96 pwynt o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.
Rydym wreth ein bodd yn derbyn ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr a fydd wedi astudio Cyfrifiadureg ar lefel TGAU neu Safon U (yn cael ei galw’n Gyfrifiadura gan y prif fyrddau arholi) ac fe roddwn yr ystyriaeth ddyladwy iddyn nhw. Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o fyfyrwyr sydd wedi cael cyfle i astudio Cyfrifiadureg (yn enwedig ar lefel TGAU), felly peidiwch â phoeni os na chawsoch y cyfle.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych yma chwilio cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE, drwy glicio
yma.
Gall ymgeiswyr y bydd Dyfarniad Uwch Edexcel (HNC/HND) ganddyn nhw ag iddo gynnwys Cyfrifiadura neu Beirianneg Meddalwedd sylweddol gwblhau’r cwrs o fewn blwyddyn neu ddwy flynedd. Mae’n bosib newid o radd gyffredin i radd anrhydedd os bydd gradd gennych o Met Caerdydd. Cysylltwch â Derbyniadau os byddwch am ymuno drwy’r llwybrau hyn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r
tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddewis:
Fel arfer bydd y dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a chyfweliad, lle bydd hynny’n berthnasol.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma:
www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma:
www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs lle y gellir ymuno â blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais yma:
tudalen cydnabod dysgu blaenorol. Cysylltwch â
Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth
yma.
Cysylltu  Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost
askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu trydar
@CMetAdmissions.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Glenn Jenkins:
Ebost:
GLJenkins@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 7160