Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Gradd BEng / MEng (Anrh): Peiriannneg Roboteg

Peiriannneg Roboteg - Gradd BEng / MEng (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd y radd integredig hon mewn Peirianneg Roboteg yn rhoi cyfwyniad i chi i un o’r sectorau mwyaf deinamig a chynyddol ym maes technoleg. Bydd dyluniad unigryw’r radd yn cynnig cyfle i chi astudio’r agweddau mwyaf cyffrous ar roboteg a’u cymhwyso i ddylunio a datblygu systemau deallus ymreolaethol soffistigedig. Byddwch yn agored i ystod eang o ddamcaniaethau peirianneg roboteg a chymwysiadau gwyddonol, gan ystyried y materion moesegol sy’n ymwneud â’r sector.

Bydd profiad ymarferol gydag offer safonol y diwydiant yn rhoi sgiliau ymarferol i chi. Mae’r radd wedi’i hintegreiddio’n agos â Labordy Roboteg EUREKA yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd. Mae’r Labordy yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU fel un o bedair ar ddeg o ganolfannau ymchwil arbenigol ym maes roboteg yn y DU, a’r unig ganolfan flaenllaw sy’n arbenigo mewn roboteg gymdeithasol a gwasanaeth. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio technolegau uwch, cymryd rhan mewn prosiectau roboteg parhaus, a gweithio gyda dros 30 o robotiaid arbenigol fel dronau, breichiau robotig, a robotiaid dynolffurf gwir faint.

Bydd gennych fynediad i gyfleusterau arloesol ac i rai o’r robotiaid mwyaf datblygedig ar y farchnad. Byddwch yn gallu gweithio gyda robotiaid dynolffurf cymdeithasol, gwasanaeth ac addysgol gyda nodweddion deallusrwydd artiffisial datblygedig, a breichiau robotig ar gyfer ymchwil a datblygu roboteg ddiwydiannol.

Gan bontio ymchwil a busnes, mae’r radd yn cynnwys astudiaethau achosion yn y byd go iawn a darlithoedd gwadd gan arbenigwyr yn y diwydiant. Gallwch hefyd gymryd blwyddyn ar leoliad mewn diwydiant ac ymuno â theithiau rhyngwladol i ymweld â chwmnïau a grwpiau ymchwil blaenllaw. Ar ôl graddio, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i ddechrau gyrfa lwyddiannus yn y sector ffyniannus hwn. Byddwch yn barod i ddiwallu anghenion busnes cwmnïau sy’n gweithredu ar flaen y gad yn y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, ar draws llu o sectorau a meysydd pwnc.

Mae’r rhaglen hon yn ceisio achrediad gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni’r gofyniad academaidd i gofrestru fel Peiriannydd Siartredig. Cynlluniwyd y cwrs i ddiwallu anghenion achrediad a gyda’r bwriad o ôl-ddyddio’r dyddiad effeithiol i gynnwys yr holl fyfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglen.


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn 1

Bydd Blwyddyn 1 yn ymdrin â nifer o bynciau sydd wedi’u cynllunio i roi sylfaen gadarn i dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir mewn systemau electronig a chyfrifiadurol. Byddwch yn astudio theori ac ymarfer dylunio systemau analog a digidol, ac yn cael eich cyflwyno i fyd cyffrous systemau mecanyddol ac electroneg mewn cyfuniad (mecatroneg). Bydd eich gwaith yn cael ei ategu gan gyfarwyddyd mewn mathemateg peirianneg gymhwysol, a datblygu a threfnu datrysiadau adeiladu meddalwedd. Bydd gwaith prosiect yn eich galluogi i atgyfnerthu’r deunydd a gwmpesir gan systemau datblygu i ddatrys problemau’r byd go iawn.

Modiwlau:

  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Electroneg Analog a Digidol 1
  • Mathemateg Peirianneg 1
  • Cyflwyniad i Fecatroneg
  • Explore


Blwyddyn 2

Bydd Blwyddyn 2 yn adeiladu ar bynciau a themâu Blwyddyn 1 i gael cyflwyno nifer o bynciau ychwanegol a fydd wedi’u dylunio i roi golwg ddyfnach i chi ar dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir o fewn systemau robotig. Byddwch yn ymdrin â theori ac ymarfer defnyddio meddalwedd i reoli caledwedd. Cewch y cyfle i adeiladu systemau electronig i gyfnerthu’r gwaith damcaniaethol drwy ddatblygu prosiectau caledwedd. Bydd cymhwyso mathemateg i ddylunio systemau rheoli yn rhoi mewnwelediad i chi i leoli ac i drin peirianwaith awtomataidd yn gywir, gan gynnwys breichiau robotig. Byddwch yn dysgu sut bydd rhaid datblygu systemau electronig a chyfrifiadurol gan fod yn ymwybodol o anghenion bygythiad seiber. Bydd dyluniad a phroses cynhyrchu systemau robotig yn elfen allweddol yn y flwyddyn hon. Bydd rheoli prosiectau a sgiliau ymchwil yn cael eu trafod hefyd. Byddwch yn ymgymryd â gwaith prosiect helaeth hefyd er mwyn cyfnerthu eich dysgu drwy ddatblygu systemau i ddatrys problemau robotig go iawn.

Modiwlau:

  • Mathemateg Peirianneg 2
  • Cyfrifiadura Ffisegol
  • Roboteg Ddynolffurf Gymdeithasol
  • Systemau Rheoli
  • Roboteg a Systemau Awtomeiddio
  • Rheoli Prosiectau Peirianneg


Blwyddyn 3

Mae Blwyddyn 3 yn ymdrin ag ystod o bynciau’n fanylach. Ar ôl datblygu sgiliau rhaglennu ym mlwyddyn 1 a 2, byddwch yn mynd ymlaen i gymhwyso’r sgiliau hyn i galedwedd rhaglennu a sglodion microbrosesydd a rheolydd arbenigol. Byddwch yn parhau i ddatblygu a dyfnhau eich dealltwriaeth o systemau analog a digidol, gan gynnwys rheolaeth ddeallus a chlyfar a systemau pŵer electronig. Yn ogystal â modiwlau craidd, mae opsiynau i astudio deallusrwydd artiffisial a sut mae’n cael ei gymhwyso i roboteg a chymwysiadau rheoli awtomataidd; pensaernïaeth gyfrifiadura uwch; seiberddiogelwch; yn ogystal â rheoli prosiect technegol. Bydd prosiect unigol yn eich galluogi i atgyfnerthu eich dysgu trwy ddatblygu systemau i gyfrannu tuag at ddatrys problem roboteg o’ch dewis yn y byd go iawn.

Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Modiwlau:

  • Electroneg a Systemau Pŵer
  • Systemau Awtonomaidd
  • Systemau Rheoli Uwch
  • Prosiect Ymarferol Peirianneg Broffesiynol

Dewisol:

  • Systemau Cyfochrog a Gwasgaredig
  • Deallusrwydd Cyfrifiadurol
  • Systemau Cyfathrebu Digidol ac Analog
  • Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)


Blwyddyn 4

Gan adeiladu ar ddealltwriaeth eang a dwfn o bynciau a drafodir yn ystod 3 blynedd gyntaf y rhaglen, bydd blwyddyn 4 yn eich galluogi i ddatblygu meistrolaeth a sgiliau uwch ar draws pynciau cymhleth a chraidd ym maes electroneg a phrosesu cyfrifiadurol. Bydd prosiect datblygu grŵp yn rhoi cyfle i chi ddod â llawer o’r pynciau a drafodir ar y rhaglen ynghyd, yn ogystal â chaniatáu ymchwilio i ddiddordeb penodol neu faes datblygu penodol. Y tu allan i’r agweddau craidd hyn, bydd cyfleoedd i archwilio’n fanylach bynciau yn amrywio o ddeallusrwydd artiffisial, cymwysiadau roboteg, synwyryddion ac actiwadyddion, dylunio systemau electromecanyddol uwch, yn ogystal ag ystyried materion moesegol a phroffesiynol dylunio systemau. Mae cyfle hefyd i ymgymryd â lleoliad diwydiannol byr, a all fod yn ddefnyddiol iawn yn aml wrth sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.

Modiwlau:

  • Prosiect Datblygu Tîm
  • Rhyngrwyd Pethau
  • Materion Proffesiynol a Moesegol mewn Peirianneg/li>
  • Deallusrwydd Artiffisial Uwch mewn Roboteg

Dewisol:

  • Synwyryddion a Actiwadyddion
  • Rhaglennu ar gyfer Dadansoddi Data
  • Cymwysiadau ar gyfer Robotiaid Cymdeithasol a Gwasanaeth
  • Ffiniau mewn Technoleg

Dysgu ac Addysgu

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Asesu

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae technoleg yn sail i gymdeithas fodern. Mae datblygu a chymhwyso technolegau arloesol yn tyfu’n gyflym, gan greu cyfleoedd i darfu. Fel asiantau newid, mae peirianwyr yn eistedd wrth galon y chwyldro digidol, a gall gyrfaoedd mewn peirianneg fod yn werth chweil ac yn amrywiol.

Mae’r proffesiwn peirianneg yn y DU yn cael ei oruchwylio gan sefydliadau proffesiynol ar ran Cyngor Peirianneg y DU. Mae safonau’n pennu’r cymwyseddau addysg, hyfforddiant a phrofiad sydd eu hangen i fod yn gofrestru fel Peiriannydd Corfforedig neu Beiriannydd Siartredig. Mae’r safonau hyn yn eu tro yn cyfateb i gymwysterau rhyngwladol o’r un safon ac felly maent yn cael eu cydnabod yn eang yn fyd-eang o fewn y proffesiwn. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn bodloni’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer addysg, bydd rhaglenni peirianneg Met Caerdydd yn ceisio achrediad drwy’r sefydliad peirianneg mwyaf priodol — y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae’n ofynnol i raglenni newydd gyflwyno tystiolaeth o garfan lawn (myfyrwyr sy’n symud ymlaen yn llwyddiannus i raddio dros 4 blynedd y cwrs) ar gyfer craffu cyn dyfarnu Achrediad llawn. Ar ôl ei ddyfarnu yna gall pob myfyriwr sydd wedi mynychu’r cwrs hwnnw hawlio eu bod wedi mynychu rhaglen gydnabyddedig ac felly bod yn gymwys i gael cydnabyddiaeth lawn (MEng) neu rannol (BEng) o’r safon addysg ofynnol ar gyfer cofrestru proffesiynol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymgymryd â blwyddyn allan ddewisol mewn diwydiant i ategu eu hastudiaethau gyda phrofiad yn y byd go iawn o waith peirianneg mewn amgylchedd masnachol. Bydd hyn yn eu paratoi’n well ar gyfer mynd i’r gweithle ar ôl graddio.

Mae myfyrwyr sy’n gwneud yn dda ar y rhaglen hefyd yn cael cynnig cyfleoedd i astudio ar lefel uwch ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig mewn pynciau technoleg a pheirianneg drwy raglenni a addysgir ymhellach neu drwy ymchwil.

Gofynion Mynediad a Sut I Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 112-120 (Gradd BEng) neu 120-128 (Gradd MEng)
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau BCC gan gynnwys gradd C yn Mathemateg neu Ffiseg. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM (Gradd BEng) neu DDM (Gradd MEng). Gan gynnwys 6 Clod yn y modiwlau Mathemateg neu Ffiseg.
  • Lefel T: Teilyngdod. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Jasim Uddin.
E-bost: JUddin@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
BEng - Gradd 3 blynedd - G901
BEng - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen) - G91F
MEng - Gradd 4 blynedd - G900
MEng - Gradd 5 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen) - G90F

Lleoliad Astudio: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
3-5 mlynedd llawn amser yn dibynnu ar ddilyn y llwybr BEng neu MEng ac ymgymryd â blwyddyn sylfaen.​

CWRDD Â'R TÎM
Jasim Uddin

Mae gan Dr Jasim bortffolio ymchwil helaeth a gydnabyddir yn fyd-eang ym meysydd Peirianneg Electromagneteg, Metaddeunyddiau, RF a Microdon. Mae'n cymhwyso ei harbenigedd i ystod amrywiol o gymwysiadau ymarferol, gan gynnwys gofal iechyd, amddiffyn a thechnolegau gofod, cynaeafu ynni, a chyfathrebu diwifr. Dr. Mae Jasim yn dal swydd uchel ei pharch fel uwch aelod IEEE a hefyd yn aelod gweithredol o IET. Mae hefyd yn cael ei chydnabod a'i anrhydeddu fel Cymrawd nodedig o Advanced HE.

Trwy gydol ei gyrfa, mae Dr Jasim wedi goruchwylio nifer o brosiectau rhyngwladol mewn cydweithrediad â gwahanol sefydliadau o Awstralia, Malaysia, Canada, a Bangladesh mewn disgyblaethau amrywiol gan gynnwys metamaterials, amledd radio (RF), a microdonnau. Ar hyn o bryd, mae hi'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Rhaglen Peirianneg Systemau Electroneg a Chyfrifiadurol (ECSE). Yn ogystal, mae'n cyfrannu'n weithredol at y gymuned academaidd fel aelod o bwyllgor panel achredu Ysgol Dechnolegau Caerdydd (YDC).

Mae arbenigedd Dr Jasim yn cael ei gydnabod ymhellach trwy ei rôl fel golygydd rhifyn arbennig yng nghylchgrawn Symmetreg, yn benodol ym maes 'Advancements in Energy Harvesting, Metamaterials, and their Integrated Multifunctional Systems'. Mae ei chyfranogiad mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol IEEE yn amlwg gan ei fod yn dal swyddi o gyfrifoldeb mawr, gan gynnwys cadeirydd pwyllgor rhaglen dechnegol (TPC), cadeirydd y pwyllgor, a chadeirydd sesiwn. Dr. Dangosir cyfraniadau rhyfeddol Jasim yn glir gan ei awduraeth neu gyd-awduriaeth o dros 40 o gyhoeddiadau, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth amlwg mewn cyfnodolion uchel eu parch, cynadleddau, a phenodau mewn llyfrau.

Dr Jasim Uddin
Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen mewn Peirianneg Electroneg a Systemau Cyfrifiadurol yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Cwrdd â'r Tîm: Dr Esyin Chew

"Fy niddordeb ymchwil yw Roboteg Humanoid. Cefais fy ysbrydoli yn gyntaf gan Astro Boy, cyfres deledu animeiddiedig o Japan am android pwerus gyda meddwl ac emosiynau dynol." Dewch i gwrdd â Dr Esyin Chew, sylfaenydd Canolfan Roboteg EUREKA Met Caerdydd a Darllenydd ar Beirianneg Roboteg BEng / MEng.

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith rithiol o amgylch Ysgol Technolegau Caerdydd

Ewch am dro rhithiol o'n Ysgol Technolegau newydd sbon ym Met Caerdydd.