Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Cyfrifiadura â Dylunio Creadigol - BSc (Anrh)

Cyfrifiadura â Dylunio Creadigol - BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd ein gradd Cyfrifiadura â Dylunio Creadigol yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau cyfrifiadura gan ganolbwyntio’n benodol ar y cyfleoedd creadigol a dylunio a gyflwynir o fewn y ddisgyblaeth yma.

Yn ogystal â dysgu hanfodion datblygu systemau cyfrifiadurol a systemau ar sail meddalwedd, cewch eich annog i ymgorffori meddwl dylunio modern yn eich gwaith technegol. Yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i egwyddorion rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron allweddol gan archwilio sut mae dylunio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhyngweithio a phrofiad y defnyddiwr a rhyngweithio.

Fe’ch cyflwynir i ystod eang o dechnolegau ac offer a fydd yn hwyluso gwaith dylunio a chreu datrysiadau caledwedd a meddalwedd newydd, gan eich helpu i ddatblygu eich galluoedd dadansoddi wrth edrych ar brosesau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl. Bydd hyn yn eich galluogi i sefydlu eich hun fel unigolyn ‘hybrid’ sydd a’r sgiliau i lenwi’r bwlch rhwng y byd technegol a’r byd creadigol i greu atebion arloesol i broblemau hen a newydd.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio ar y cyd ag ysgolion eraill i helpu i feithrin eich sgiliau mewn disgyblaethau eraill. Yn benodol, mae gan ein gradd Cyfrifiadura â Dylunio Creadigol bartneriaeth agos â rhaglenni yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd I ganiatáu i fyfyrwyr adeiladu ymhellach ar sgiliau creadigol. Gyda mynediad i gyfleusterau newydd blaengar ein Hysgol Dechnolegau, a’r mannau agored ar gyfer dylunio creadigol yn ein Hysgol Gelf a Dylunio, byddwch yn mwynhau’r gorau o’r ddau fyd. Bydd hyn oll yn eich paratoi ar gyfer llwybrau gyrfa gyffrous sy’n llenwi’r bwlch rhwng y byd technegol a’r byd creadigol.


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Gradd

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Bydd myfyrwyr yn gallu dewis cwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.


Blwyddyn 1:

  • Meddwl Dylunio
  • Technoleg a’r Gymdeithas
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Rhyngweithiad Dynol â Chyfrifiadur
  • Explore
  • Dylunio Gwe a Chronfeydd Data


Blwyddyn 2:

  • Technolegau Symudol a Gwe
  • Cyfrifiadura Ffisegol
  • Expand
  • Prosiect Cydweithredol
  • Dylunio Creadigol ac Arloesi

Modiwlau dewisol:

  • Amlgyfrwng a Rhyngweithio
  • Busnes Digidol


Blwyddyn 3:

  • Prosiect Datblygu (40 credyd)
  • Profiad Defnyddwyr a Chynnwys Digidol
  • Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol
  • Technoleg Uwch Gwefannau

Modiwlau opsiynol (dewiswch un):

  • Roboteg Dynolffurf Cymdeithasol
  • Rheoli Prosiect Technoleg
  • Profiad Gwaith Diwydiannol

Dysgu ac Addysgu

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Asesu

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

O ystyried y defnydd cynyddol ar dechnoleg ddigidol ar draws llawer o sectorau a meysydd, ni fu’r angen am offer a chymwysiadau a fydd wedi’u hadeiladu â’r defnyddiwr yn berson cymharol di-sgil yn ganolog iddyn nhw, erioed yn bwysicach.

Bydd mwy a mwy o alw am unigolion a fydd yn cyfuno’r sgiliau creadigrwydd a dylunio gyda’r gallu i adeiladu meddalwedd ddibynadwy a chynaliadwy. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i chi gael ennill y sgiliau rhyngddisgyblaethol hyn, ac yn paratoi graddedigion ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ar draws meysydd megis y celfyddydau, adloniant/gemau, datblygu apiau symudol, amlgyfryngau, dylunio cynhyrchion/gwe a systemau rhyngweithiol eraill ar draws pob sector.

Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Gofynion Mynediad a Sut I Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu trydar @CMetAdmissions

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Joel Pinney:
E-bost: JPinney2@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
G300 - Gradd 3 blynedd
G30F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Lleoliad Astudio: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​

CWRDD Â'R TÎM
Joel Pinney

Rwyf wedi ymddiddori mewn technoleg erioed, o archwilio sut y mae wedi'i gynllunio i ystyried sut rydym yn rhyngweithio ag ef. Rwyf bellach yn ffodus iawn o allu addysgu ac ymchwilio yn y maes hwn. Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu, bydd yn dylanwadu ymhellach ar ein bywydau bob dydd, ac ni fu'r gwerthfawrogiad craidd o sut y gall bodau dynol a thechnoleg weithio'n gytûn erioed mor hanfodol.

Mae addysgu mewn rhaglen amlddisgyblaethol wedi fy nghaniatáu imi barhau i archwilio technoleg arloesol tra'n parhau i werthfawrogi disgyblaethau eraill, gan gynnwys sut mae creadigrwydd yn dylanwadu ar feysydd gwyddor data (delweddu) a roboteg. Mae dilyn y dull hwn wedi fy ngalluogi i ddod â setiau sgiliau gwahanol i'm haddysgu a ddatblygwyd mewn meysydd eraill.

Joel Pinney
Darlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen BSc Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith rithiol o amgylch Ysgol Technolegau Caerdydd

Ewch am dro rhithiol o'n Ysgol Technolegau newydd sbon ym Met Caerdydd.