Rydym wedi datblygu portffolio o
micro-gyrsiau technoleg ddigidol i’ch helpu chi uwchsgilio, parhau â’ch datblygiad proffesiynol, neu ddysgu rhywbeth newydd mewn fformat hyblyg.
Mae micro-gyrsiau’n fyr ac ymarferol. Fel arfer yn para 10 wythnos yn unig, maent wedi’u cynllunio i ffitio o amgylch eich ymrwymiadau presennol. Byddwch yn dysgu mewn grwpiau bach, penodedig o uchafswm o 20 dysgwr, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae micro-gyrsiau technoleg ddigidol ym Met Caerdydd yn ymdrin â phynciau sy’n berthnasol i’r diwydiant ac maen nhw’n rhad ac am ddim i’w mynychu.
Gallwch fynychu micro-gwrs er mwyn:
- uwchsgilio a dysgu rhywbeth newydd
- fel llwybr at gyflogaeth
- cael blas ar bwnc penodol
Ein Micro-gyrsiau
Cwrs Micro-Gymhwyster Dysgu Peirianyddol
Cwrs Micro-Darpariaeth Codio Creadigol
Cwrs Micro-Ddarpariaeth Dysgu Peirianyddol Cyfrifol
Cwrs Micro-Ddarpariaeth: Cryptoarian a Blockchain 101
Cwrs Micro-Ddarpariaeth: Rhyngweithiadau Robotiaid Dynolffurf a’u Goblygiadau Moesegol