Cynnwys y Cwrs
Mae rhaglen y radd yn cynnwys 7 modiwl gorfodol a phrosiect Traethawd Hir i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol. Mae pob modiwl a addysgir yn 20 credyd, oni nodir yn wahanol.
Diogelwch gwybodaeth - Risgiau, Bygythiadau ac Ymosodiadau (20 Credyd)
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cipolwg ar weithredu diogelwch data mewn systemau cyfrifiadurol a’i nod yw annog myfyrwyr i werthfawrogi’r egwyddorion rheoli ymarferol a damcaniaethol sy’n gysylltiedig â diogelwch gwybodaeth.
Diogelwch sy’n Canolbwyntio ar y Bod Dynol (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cipolwg ar ddiogelwch y gellir ei ddefnyddio, ffactorau cymdeithasol ac ymddygiadol sy’n effeithio ar ddiogelwch, diwylliant diogelwch ac ymwybyddiaeth, yn ogystal ag effaith rheolaethau diogelwch ar ymddygiadau defnyddwyr.
Gwaith Fforensig (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn archwilio gwaith fforensig cyfrifiadurol gyda ffocws penodol ar ddiffiniadau, modelau cysyniadol, systemau gweithredu a dadansoddi arteffactau, prif gof, gwaith fforensig rhaglenni a’r cwmwl.
Systemau a meddalwedd diogel (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn darparu ymdriniaeth fanwl o breifatrwydd a diogelwch systemau a meddalwedd, a dulliau ar gyfer dylunio systemau a meddalwedd diogel gan ddefnyddio Cylchoedd Bywyd Datblygu Meddalwedd (SDLC) diogel traddodiadol a newydd.
Diogelwch Rhwydwaith (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn archwilio pensaernïaeth y Rhyngrwyd, protocolau a gwendidau rhwydweithiau, offer amddiffyn rhwydweithiau, LAN di-wifr, diogelwch, a phynciau diogelwch rhwydwaith Uwch gan gynnwys SDN, IoT.
Cryptograffeg Gymhwysol (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â phynciau manwl fel cynlluniau cryptograffig cymhwysol, cryptograffeg gymesur ac anghymesur, modelau diogelwch cryptograffig, a phrotocolau safonol ac uwch.
Dulliau Ymchwil ar gyfer Traethodau Hir Technoleg (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw arfogi’r myfyriwr â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r technegau sy’n angenrheidiol i gynhyrchu traethawd hir gyda ffocws ymchwil neu dechnegol. Bydd y modiwl yn cael ei asesu drwy gynnig ymchwil ysgrifenedig y gellir ei defnyddio wedyn fel sail i’r traethawd hir.
Traethawd hir seiberddiogelwch (40 credyd)
Nod y prosiect technoleg yw rhoi cyfle i’r myfyriwr gymhwyso gwybodaeth, sgiliau a thechnegau a ddatblygwyd yn ystod astudiaeth gyfeiriedig ac annibynnol i ddatrys prosiect diogelwch cyfrifiadurol yn y byd go iawn. Gall y prosiect diogelwch cyfrifiadurol fod ar ffurf prosiect ymchwil manwl neu ddatblygu system diogelwch cyfrifiadurol. Yn y naill achos neu’r llall, mae’r modiwl yn galluogi’r myfyriwr i ddatblygu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o brosiectau datblygu ac ymchwil yn y byd go iawn drwy ddysgu annibynnol a gwerthuso beirniadol.
Dysgu ac Addysgu
Defnyddir ystod o ddulliau addysgu yn yr Ysgol Dechnolegau newydd, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol, tiwtorialau, seminarau ac astudiaethau achos yn y byd go iawn, pob un wedi’i gefnogi gan ddysgu ar-lein drwy Moodle. Gyda dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, mae’r Ysgol yn gweithredu polisi drws agored i staff a bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol.
Staff
Caiff y cwrs ei arwain gan dîm o staff seiberddiogelwch arbenigol sydd hefyd yn ymchwilwyr gweithredol yn y maes.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan fawr o’r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o ddarparu deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr â darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe’u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- ehangu ar ddeunydd sy’n cael ei drafod mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau sy’n seiliedig ar ymholiadau
- gwaith adfer i nodi a datrys unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.
Seminarau
Mae seminarau’n cynnwys myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith a baratowyd yn flaenorol i gyd-fyfyrwyr a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol ynghyd â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau, ac maen nhw’n darparu profiad gwerthfawr i fyfyrwyr mewn sgiliau cyflwyno yn ogystal â darparu dull o asesu dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr i staff.
Gweithdai Ymarferol
Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallan nhw dderbyn adborth gan aelod o staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn cynrychioli trosglwyddiad gwerthfawr rhwng damcaniaeth a’r gweithle.
Astudiaethau Achos
Mae astudiaethau achos yn strategaeth addysgu a dysgu a ddefnyddir mewn ystod o fodiwlau; maen nhw hefyd yn offeryn asesu defnyddiol. Bydd myfyrwyr yn cael astudiaeth achos, neu bydd gofyn iddyn nhw ddatblygu problemau cymhleth go iawn neu efelychol, a bydd angen iddyn nhw eu dadansoddi’n fanwl ac yna syntheseiddio/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Moodle
Bydd y rhan fwyaf o fodiwlau yn cael eu cefnogi gan Moodle ac yn darparu ystod eang o ddeunydd dysgu a chanllawiau astudio i fyfyrwyr.
Asesu
Mae’r strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a maes pwnc penodol. Mae asesiadau’n digwydd ar ffurf gwaith cwrs unigol neu grŵp, aseiniadau ar sail ymchwil, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau, profion dosbarth a thraethawd hir.
Rhoddir adborth manwl, penodol ac amserol i waith pob myfyriwr yn unol â chanllawiau Prifysgol Met Caerdydd.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Bydd yr wybodaeth arbenigol y byddwch yn ei hennill drwy’r cwrs yn eich rhoi mewn sefyllfa gref i ddilyn ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys dadansoddi risg, dadansoddwr achosion cyfrifiadurol, dadansoddwr seiberddiogelwch, ymgynghorydd diogelwch gwybodaeth a rolau rheoli mewn diwydiant. Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi ystod o sgiliau cyfrifiadurol i chi y gellid eu cymhwyso’n eang i unrhyw rôl ym meysydd gwyddor data a chyfrifiadura.
Bydd modd i chi gychwyn gyrfaoedd mewn rolau mwy technegol fel haciwr moesegol neu arbenigwr achosion diogelwch, yn ogystal â rolau rheoli fel asesydd risg, datblygwr polisi diogelwch gwybodaeth, swyddog diogelu data a swyddog cydymffurfio.
Gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn addysg bellach ymuno â graddau ymchwil, fel MPhil/PhD/ProfDoc yng nghymuned ymchwil fywiog Met Caerdydd.
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr gwrdd ag un o’r canlynol:
- Meddu ar radd israddedig neu gyfwerth mewn maes perthnasol, gyda dosbarthiad 2:2 o leiaf, neu ddisgwyl cael hynny;
- Meddu ar gymhwyster proffesiynol addas gan gorff proffesiynol priodol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 o leiaf, heb unrhyw elfen o dan 5.5 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Gall myfyrwyr sydd â chymwysterau lefel 7 sy'n bodoli sy'n dymuno ymuno â'r cwrs wneud cais ar sail RPL am fynediad gyda Chredyd. Mewn achosion o'r fath bydd y rheoliadau y manylir arnynt yn y Llawlyfr Academaidd yn berthnasol ac yn caniatáu ar gyfer uchafswm RPL o 120 credyd ar raglen Meistr. Yn yr achos hwn byddai'r 60 credyd sy'n weddill yn cynnwys y modiwl dulliau ymchwil a'r traethawd hir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych chi wedi cael cymwysterau a/neu brofiad er mwyn astudio cwrs ym Mhrifysgol Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn, ynghyd â gwybodaeth am sut i wneud cais, ar y dudalen
Cydnabod Dysgu Blaenorol.
Gwybodaeth ychwanegol
Gweithdrefn Ddethol:
Dewisir myfyrwyr y cwrs hwn drwy ffurflen gais a chyfweliad lle bo angen.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein cyfleuste
hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais y
www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael, ewch i
www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Ffioedd rhan amser:
Mae’r ffioedd ar sail Modiwlau Sengl oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gwneud 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaeth Israddedig ac Ôl-raddedig; er mwyn cael y gost wirioneddol dylech wirio hyn drwy gysylltu’n uniongyrchol â Chyfarwyddwr y Rhaglen.
Cysylltu â Ni