Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Gwyddor Data - MSc/PgD/PgC

Gradd Meistr Gwyddor Data - MSc/PgD/PgC

​​

Mae'r radd Meistr hon mewn Gwyddor Data yn rhaglen astudio ôl-raddedig boblogaidd a pherthnasol i'r diwydiant. Mae Gwyddor Data a "Data Mawr" yn bwysicach nac erioed. Gofynnir am raddedigion sydd wedi'u hyfforddi i gasglu mewnwelediadau o setiau data mawr, echdynnu patrymau a darparu gwybodaeth y gellir ei gweithredu er mwyn datrys problemau'r byd go iawn yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol mewn galw i ddatblygu systemau gwyddor data, defnyddio meddalwedd i ddadansoddi a syntheseiddio data, a rheoli pob agwedd ar wyddoniaeth data.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Modiwlau gorfodol:

Data Mawr ar gyfer Menter (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno technegau rheoli data mawr trwy weithgareddau ymarferol sy'n gysylltiedig â materion byd go iawn.

Technolegau Data Mawr (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr drwy ymdrin â thueddiadau diweddar i storio, prosesu a dadansoddi data mawr mewn amgylchedd gwasgaredig.

Dadansoddiad Geo-ofodol (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad a datblygu sgiliau wrth drin data gofodol, a nodi a deall unrhyw batrymau a ddatgelir yn y data hwnnw trwy gymhwyso technegau amrywiol mewn dadansoddi gofodol.

Rhaglennu ar gyfer Dadansoddi Data (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o strategaethau rhaglennu a datrys problemau, yn ogystal â datblygu, dadansoddi ac asesu'n feirniadol datrysiadau i broblemau dadansoddi data yn y byd go iawn.

Ymchwil ac Ymarfer Proffesiynol (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw arfogi'r myfyriwr â'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau angenrheidiol i gynhyrchu traethawd hir â ffocws ymchwil neu dechnegol.

Dadansoddi a Delweddu Data (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr gyda setiau data cyhoeddus neu ddata a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi data hanesyddol, cyfredol a rhagfynegol. Mae'n ymdrin â chrafu data, dethol, delweddu, a dadansoddeg, gan integreiddio'r rhain â dulliau dadansoddi amrywiol.

Traethawd Hir Technoleg (40 credyd)
Nod y prosiect technoleg yw i'r myfyriwr gymhwyso gwybodaeth, sgiliau a thechnegau a ddatblygwyd yn ystod astudiaeth gyfeiriedig ac annibynnol i ddatrys prosiect sy'n gysylltiedig â thechnoleg y byd go iawn. Gall y prosiect technoleg fod ar ffurf prosiect ymchwil manwl neu ddatblygu system gyfrifiadurol.

Diogelwch Gwybodaeth (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi mewnwelediad i weithredu diogelwch data mewn systemau cyfrifiadurol ac annog myfyrwyr i werthfawrogi'r egwyddorion rheoli ymarferol a damcaniaethol sy'n gysylltiedig â diogelwch gwybodaeth.

I gael gradd MSc, rhaid i chi ddilyn a chwblhau cyfanswm o 180 credyd yn llwyddiannus. Gellir dyfarnu PgC (60 credyd) a PgD (120 credyd) fel dyfarniadau annibynnol neu ymadael.

Dysgu ac Addysgu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol, tiwtorialau, seminarau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn, i gyd wedi’u hategu gan ddysgu ar-lein drwy Moodle. Gydag agwedd sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, mae’r Ysgol yn gweithredu polisi drws agored i staff i gefnogi myfyrwyr, ynghyd â chefnogaeth gan ein tîm gyrfaoedd a sgiliau academaidd.

Stiwdios

Mae stiwdios yn rhan bwysig o’r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae stiwdios yn ffordd ryngweithiol ac effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.

Gweithdai

Yn y gweithdai bydd y myfyriwr neu fyfyrwyr yn gweithio’n fwy gweithredol i ddeall y pwnc astudio. Gall hyn gynnwys strategaethau fel cyflwyno gwaith a baratowyd yn flaenorol i gyfoedion a darlithwyr. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant dderbyn adborth gan aelod o staff academaidd. Mae’r gweithdai ymarferol yn cynrychioli cyfle pontio gwerthfawr rhwng theori a’r gweithle.

Defnyddir gweithdai i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir gweithdai yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol a chyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Astudiaethau Achos

Mae astudiaethau achos yn strategaeth addysgu a dysgu a ddefnyddir mewn ystod o fodiwlau; maen nhw hefyd yn offeryn asesu defnyddiol. Bydd myfyrwyr yn cael astudiaeth achos, neu bydd gofyn iddyn nhw ddatblygu problemau cymhleth go iawn neu efelychol, a bydd angen iddyn nhw eu dadansoddi’n fanwl ac yna syntheseiddio/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Moodle

Bydd y rhan fwyaf o fodiwlau yn cael eu cefnogi gan Moodle ac yn darparu ystod eang o ddeunydd dysgu a chanllawiau astudio i fyfyrwyr.

Asesu

Crëir asesiadau o fewn fframwaith cymwyseddau EDGE (Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuriaeth) Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac maent ar ffurf gwaith cwrs unigol neu grŵp, aseiniadau ar sail ymchwil, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau, profion dosbarth a thraethawd hir/prosiect datblygu.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r rhaglen hon yn archwilio sut y gellir rheoli technolegau gwybodaeth a chyfathrebu, a sut y gallant wasanaethu dibenion rheoli. Mae graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd fel rheolwyr TGCh, rheolwyr prosiectau ac ymgynghorwyr, dadansoddwyr busnes a systemau, athrawon a darlithwyr.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai ymgeiswyr fodloni ag un o'r canlynol:

  • Meddu ar, neu ddisgwyl cael, gradd israddedig neu gyfwerth, mewn maes perthnasol, e.e., Cyfrifiadura neu Systemau Gwybodaeth gydag o leiaf dosbarthiad 2:2.
  • Meddu ar gymhwyster proffesiynol addas gan gorff proffesiynol priodol.


Penderfynir ar berthnasedd gan y Cyfarwyddwr Rhaglen gan gyfeirio at drawsgrifiad yr ymgeisydd, ac, os oes angen, trwy gyfweliad.


Bydd cywerthedd yn cael ei bennu gan:

  • Tîm Derbyn Rhyngwladol ar gyfer ymgeiswyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.
  • Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer ymgeiswyr sy'n cyflwyno cymwysterau proffesiynol megis y BCS. Byddai ymgeisydd o'r fath yn cael ei gyfweld gan gyfarwyddwr y rhaglen i sefydlu addasrwydd.


Gofynion Iaith Saesneg:
Dylai ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf gyfeirio at Ofynion Iaith Saesneg i gadarnhau'r lefel a'r dystiolaeth o ruglder sy'n ofynnol ar gyfer mynediad i'r rhaglen.

Gall myfyrwyr sydd â chymwysterau lefel 7 sy'n bodoli ac sy'n dymuno cael mynediad i'r cwrs wneud cais ar sail RPL am fynediad gyda Chredyd. Mewn achosion o'r fath bydd y rheoliadau a nodir yn y Llawlyfr Academaidd yn berthnasol ac yn caniatáu ar gyfer RPL o 120 credyd ar y mwyaf ar raglen Meistr. Yn yr achos hwn byddai'r 60 credyd sy'n weddill yn cynnwys y modiwl dulliau ymchwil a'r traethawd hir.

Rheolir y broses dderbyn gan dîm derbyniadau canolog Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

Bydd pob cais gan fyfyrwyr Rhyngwladol yn amodol ar asesiad cychwynnol o gymwysterau academaidd, hyfedredd Iaith Saesneg ac addasrwydd cyffredinol ar gyfer y rhaglen gan y Timau Derbyn Rhyngwladol. Fodd bynnag, mae'r penderfyniad terfynol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Rhaglen.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Cyn gwneud cais, dylai myfyrwyr rhyngwladol (y rhai o’r tu allan i'r UE), gysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol ym Met Caerdydd i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol mewn perthynas ag astudio gyda ni. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/international.

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir bris, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Imtiaz Hussain Khan: IHKhan@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
12-18 mis amser llawn yn dibynnu ar y dyddiad dechrau, neu dair blynedd yn rhan-amser.

Mewnlifiadau Medi ac Ionawr ar gael.

Ysgoloriaethau Ôl-raddedig:
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig cynllun ysgoloriaeth ôl-raddedig i helpu myfyrwyr tra yn y brifysgol.
Gweld a ydych chi'n gymwys.

DEWCH I GWRDD Â'R TÎM

"Rwy'n weithiwr proffesiynol Deallusrwydd Artiffisial (AI) sy’n canolbwyntio ar wyddor data a dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu ac ymchwil. Mae gwyddor data yn dod i'r amlwg fel microcosm o AI sy'n gofyn am gefndir a chymhelliant cryf mewn modelu mathemategol, rhaglennu a datrys problemau, a meddwl dadansoddol. Mae angen profiad ymarferol gyda setiau data ac offer byd go iawn fel Python, Scikit-learn, a Spark. Rwy'n cadw fy sgiliau’n gyfredol ac mae fy ymarfer addysgegol wedi datblygu’n ddysgu gweithredol sy'n cael ei arwain gan ymchwil, sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn seiliedig ar broblemau. Rwy’n credu mewn cysylltiad cryf rhwng y myfyriwr a’r athro ac yn ceisio adborth gan fyfyrwyr a chymheiriaid yn barhaus i wella fy ymarfer addysgu."


Dr Imtiaz Hussain Khan
Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr y Rhaglen MSc Gwyddor Data yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith rithiol o amgylch Ysgol Technolegau Caerdydd

Ewch am dro rhithiol o'n Ysgol Technolegau newydd sbon ym Met Caerdydd.