Os oes gennych chi feddylfryd dadansoddol, yn hoffi meddwl y tu allan i’r bocs a mwynhau datrys problemau, efallai mai gyrfa mewn Cyfrifiadureg a Gwyddor Data fyddai orau i chi. Mae data a gynhyrchir gan fodau dynol a pheiriannau yn trawsnewid ein cymdeithas, economeg a gwleidyddiaeth. Mae’r gallu i adnabod patrymau a thynnu mewnwelediadau o ddata cymhleth yn rhoi’r grymi sefydliadau ragweld y dyfodol a gwneud penderfyniadau deallus sy’n mynd i’r afael â phroblemau a’u datrys yn gyflym. Nid yw’n syndod bod Gwyddor Data yn faes sydd ar dwf ac yn dwyn elw.
Bydd ein gradd Cyfrifiadureg a Gwyddor Data yn eich dysgu sut i wneud synnwyr o’r setiau mawr hyn o ddata – gan nodi’r hyn sydd ei angen, dadansoddi a phrosesu’r data, a’i wneud yn hawdd ei ddarllen a’i ddeall. Wedi’i llywio gan anghenion y diwydiant, bydd y radd yn eich arfogi â’r sgiliau y mae galw amdanynt i ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau megis gofal iechyd, cyllid, manwerthu ac e-fasnach, trafnidiaeth a logisteg, ynni a chyfleustodau, marchnata cyfryngau cymdeithasol a gwyddorau amgylcheddol.
Mae ystod eang o sefydliadau’r diwydiant a’r llywodraeth fel y
Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gweithio’n agos i ddatblygu’r radd, gan greu senarios heriol ac asesiadau yn seiliedig ar achosion bywyd go iawn ar gyfer eich amgylchedd dysgu. Gan eich paratoi i ddiwallu anghenion y diwydiant, mae’r cwricwlwm yn cwmpasu technoleg Blockchain – y cyntaf o’i fath yng Nghymru, a byddwch yn gweithio gyda data strwythuredig ac anstrwythuredig. Bydd gennych yr opsiwn i archwilio cyfleoedd profiad gwaith ac ehangu eich persbectif rhyngwladol trwy gyfnewid myfyrwyr ac interniaethau gyda nifer o bartneriaid Ewropeaidd a rhyngwladol.
Mae’r radd hon wedi’i hachredu gan BCS, Y Sefydliad Siartredig TG. Mae achrediad yn arwydd o sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a osodwyd gan BCS. Mae gradd achrededig yn rhoi’r hawl i chi gael aelodaeth broffesiynol o BCS, sy’n rhan bwysig o’r meini prawf ar gyfer cyflawni statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP) drwy’r Sefydliad. Mae rhai cyflogwyr yn ffafrio recriwtio o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Cynnwys y Cwrs
Gradd
Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.
Mae pob modiwl yn 20 credyd, oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1:
- Meddwl Cyfrifiadurol
- Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
- Egwyddorion Rhaglennu
- Technoleg a Chymdeithas
- Cyflwyniad i Ddadansoddeg Data
- Explore
Blwyddyn 2:
- Rheoli Data a Gwybodaeth
- Dadansoddi Data
- Hanfodion Blockchain
- Delweddu a Naratifau Data
- Expand
- Prosiect Cydweithredol
Blwyddyn 3:
- Delweddu Data Gramadeg ac Idiomau
- Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol
- Dadansoddeg Busnes a Deallusrwydd
- Prosiect Datblygu (40 credyd)
Modiwlau dewisol (dewiswch un):
- Profiad Gwaith Diwydiannol
- Deallusrwydd Cyfrifiadurol
Dysgu ac Addysgu
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol.
Asesu
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i raddedigion ddeall, cymhwyso a gwerthuso’n feirniadol egwyddorion sylfaenol Cyfrifiadura a Gwyddor Data. Yn ogystal, bydd graddedigion hefyd yn meddu ar y sgiliau i ddylunio a defnyddio systemau Gwyddor Data a defnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant wrth eu gweithredu.
Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaethau trwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol ddewisol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
Bydd graddedigion wedi’u harfogi’n fedrus i ddilyn gyrfa hynod broffidiol, ac mae yna nifer o gyfleoedd ar draws amrywiaeth o sectorau.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae yna hefyd opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir pellach ar draws systemau cyfrifiadurol a gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
-
Pwyntiau tariff: 104-112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni