Mae Ysgol Dechnolegau newydd Caerdydd, y’i hagorwyd yn 2020, yn cynnig amgylchedd a gafodd ei gynllunio â myfyrwyr yn ganolog iddo.
Mae’r Ysgol Dechnolegau yn cynnwys casgliad o labordai a mannau addysgu uwchdechnoleg penodedig, ardaloedd dysgu agored ar gyfer cydweithio, canolfan ymchwil i fyfyrwyr Doethuriaeth ac ardaloedd cymdeithasol.
Mae’r Ysgol ar daith ehangu uchelgeisiol a fydd yn arwain at fwy o gyfleusterau arloesol yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd nesaf i gefnogi ein dysgu, addysgu ac ymchwil.
Labordy Roboteg Mae ein Labordy Roboteg wedi’i integreiddio’n agos â Chanolfan Roboteg EUREKA. Mae’n cynnig mynediad at fwy na 30 o robotiaid arbenigol, robotiaid dynolffurf a breichiau robotig, yn ogystal â phecynnau a meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial, Realiti Estynedig, roboteg ac argraffu 3D datblygedig. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Diogelwch Cyfrifiadurol Mae ein labordy seiberddiogelwch Cisco cyflawn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu adnoddau a thechnegau safonol y diwydiant ac ennill profiad ymarferol o rwydweithio, profion hacio, profion diogelwch a’r Rhyngrwyd Pethau. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Systemau Electronig Mae ein Labordy Systemau Electronig yn cynnig profiad trochi gyda meddalwedd ac offerwaith sy’n ymdrin â’r casgliad cyfan o dechnegau a rhaglenni electronig, awtomeiddio a systemau ymreolaethol. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Gemau Mae ein Labordy Gemau’n cefnogi myfyrwyr â chipio symudiadau, Realiti Rhithwir/Realiti Estynedig, pecynnau datblygu ffonau symudol a chonsol, gan eu galluogi nhw i weithio ar brosiectau gemau sydd wedi’u targedu at lwyfannau caledwedd gwahanol. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial Mae ein Labordy Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial yn helpu myfyrwyr i fireinio eu sgiliau ymarferol gyda pheiriannau a chyfarpar manyleb uchel sydd â’r gallu i redeg delweddu data cymhleth a dysgu peirianyddol. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Ymchwil Mae myfyrwyr ymchwil yn manteisio ar ganolfan benodedig ac maen nhw wedi’u hintegreiddio’n llawn â darpariaeth rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Addysgu 1 Mae ein labordai addysgu’n cefnogi dysgu ac addysgu ledled y portffolio cyfan o raglenni. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Addysgu 2 Mae ein labordai addysgu’n cefnogi dysgu ac addysgu ledled y portffolio cyfan o raglenni. Ewch ar Daith Rithiol
Labordy Addysgu 3 Mae ein labordai addysgu’n cefnogi dysgu ac addysgu ledled y portffolio cyfan o raglenni. Ewch ar Daith Rithiol