Cynnwys Y Cwrs
Dyluniwyd strwythur y rhaglen fel bod Tymor 1 yn cael cyflwyniad eang i'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer unrhyw radd Technoleg. Mae Tymor 2 yn caniatáu i fyfyrwyr deilwra eu hastudiaethau i'w diddordeb penodol a'r rhaglen radd a ddewiswyd ganddynt yn y dyfodol trwy gwblhau un modiwl dewisol 40 credyd a phrosiect unigol wedi'i gynllunio i gydgrynhoi'r dysgu trwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
Modiwlau Gorfodol:
Mathemateg ar gyfer Technoleg (20 credyd)
Themâu Cyfoes mewn Technoleg (20 credyd)
Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd (20 credyd)
Prosiect Unigol (20 credyd)
Modiwlau opsiynol (dewiswch un):
Ystadegau a Sgiliau Rhaglennu (40 credyd)
Ffiseg ac Electroneg (40 credyd)
Mae'r cwrs yn cysylltu â'r rhaglenni gradd anrhydedd canlynol a gyflwynir yn Ysgol Technolegau Caerdydd:
Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol-BSc (Anrh)
Cyfrifiadureg- BSc (Anrh)
Diogelwch Cyfrifiaduron- BSc (Anrh)
Cyfrifiadura ar gyfer Rhyngweithio-BSc (Anrh)
Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol-BSc (Anrh)
Gwyddor Data-BSc (Anrh)
Peirianneg Systemau Electronig a Chyfrifiadurol-BEng/MEng
Peirianneg Roboteg-BEng/MEng
Peirianneg Meddalwedd-BSc (Anrh)
Rhith a Realiti Estynedig-BSc (Anrh)
Dysgu Ac Addysgu
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy'n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Asesu
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Cyflogadwyedd A Gyrfaoedd
Gofynion Mynediad A Sut I Wneud Cais
Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr:
- 5 TGAU o leiaf (Graddau A*–C) gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr)
-
ar gyfer llwybrau gradd Cyfrifiadureg: 32 Pwynt Tariff UCAS o 1 Safon U o leiaf neu gyfwerth
-
ar gyfer llwybrau gradd Peirianneg: 64 Pwynt Tariff UCAS o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau DD, mewn Mathemateg, Ffiseg neu bwnc Technoleg; neu 64 Pwynt Tariff UCAS o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau CC o leiaf mewn pynciau na fydd yn berthnasol.
Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn
Mathemateg neu
Mathemateg – Rhifedd.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych yma
chwilio cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE, drwy glicio
yma.
Caiff ymgeiswyr na fydd â’r cymwysterau mynediad isaf arferol eu cyfweld a’u hystyried yn unigol ar sail eu dysgu blaenorol neu eu cefndir gwaith. Ar gyfer ymgeiswyr a fydd ond yn cymryd 2 Safon U neu gyfwerth, caiff hyn ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd, ac efallai y gwnawn roi cynnig graddedig yn lle cynnig a fydd yn defnyddio Tariff UCAS.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r
tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddewis:
Fel arfer bydd y dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a chyfweliad, lle bydd hynny’n berthnasol.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma:
www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma:
www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs lle y gellir ymuno â blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais yma:
tudalen cydnabod dysgu blaenorol. Cysylltwch â
Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth
yma.
Gofynion Mynediad: Dylai ymgeiswyr ar gyfer y Dystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol fod â diddordeb ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol yn ogystal ag un o’r canlynol:
- 48 pwynt o 2 Safon U o leiaf, neu gyfwerth, ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch ar Lefel 4
- RQF National Extended Diploma/Cambridge Technical Extended Diploma PPP
- 48 pwynt o 2 Scottish Advanced Highers. Caiff Scottish Highers eu hystyried hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad ag Advanced Highers
- 48 pwynt o’r Irish Leaving Certificate at Highers. H4 mewn pynciau Higher Level yw’r radd leiaf y gellir ei hystyried
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwaith Ieuenctid neu NVQ/VRQ lefel 2.
Bydd mynediad yn amodol hefyd ar wiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae rhagor o fanylion ar weithdrefnau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael yma:
www.cardiffmet.ac.uk/dbs.
Mae’n bosib hefyd gwneud cais am fynediad eithriadol os na fyddwch yn boddhau’r meini prawf mynediad academaidd uchod os bydd profiad sylweddol gennych mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a gallwch ddangos y gallwch weithio ar lefel Sylfaen (Lefel 3). Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen os byddwch am drafod hyn.
Cysylltu  Ni