Hafan>Ymchwil>Ddoethuriaeth Broffesiynol

Beth yw Doethuriaeth Broffesiynol?

Sut mae newid yn edrych?

Gall newid edrych yn wahanol iawn o un practis proffesiynol a/neu sefydliad i'r llall. Gall y math o newid y gallwch ei gynnig, cynllunio ar ei gyfer, ac yna o bosibl ei weithredu fod yn fawr drwy ganolbwyntio ar newidiadau mewn ffactorau strwythurol neu ddiwylliannol (megis polisi, strategaeth, systemau, strwythurau sefydliadol a/neu dimau). Gall newidiadau mawr ddigwydd hefyd yn sgil newidiadau i ffactorau proses fel technoleg, meddalwedd, dylunio cynnyrch, darparu gwasanaeth, a'r wybodaeth sy'n sail i arfer a/neu sefydliadau. Mewn cyferbyniad, gall newidiadau hefyd fod yn llai trwy ganolbwyntio ar newidiadau sy'n canolbwyntio ar bobl, trwy ystyried ffactorau fel agweddau ac ymddygiadau, sgiliau, rolau a chyfrifoldebau, rhaglenni datblygu, a pherfformiadau unigolion.

O ganlyniad, bydd ffocws eich Doethuriaeth Broffesiynol yn berthnasol i'ch ymarfer proffesiynol ac yn fwyaf tebygol bydd yn unigryw.

Ond mae’n wahanol i PhD!

Mae gan y Ddoethuriaeth Broffesiynol yr un statws a heriau â PhD. Fodd bynnag, mae yna rai gwahaniaethau cynnil. Dylai PhD ddatblygu gwybodaeth a/neu theori newydd, ond dylai Doethuriaeth Broffesiynol symbylu newidiadau o safbwynt arfer proffesiynol a/neu sefydliadau, wedi'u llywio gan wybodaeth a/neu theori neu wybodaeth bresennol a ddatblygwyd o ymgymryd â'r ddoethuriaeth proffesiynol.

Mae'r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn gymhwyster cydnabyddedig ledled y byd.

Rydym yn cynnig mwy o fewnwelediad i'n rhaglen a'n cefnogaeth yn y llawlyfr hwn, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau tra'n ymgeisio, cofiwch gysylltu.

Pa raglenni Doethuriaeth Broffesiynol sydd ar gael ym Met Caerdydd?

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

> Doethur mewn Addysg (EdD)

Ysgol Reoli Caerdydd

> Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA)

> Doethur mewn Ymarfer Proffesiynol CSS (Prof)

> Doethur mewn Peirianneg (DEng) (rhaglen ar y cyd â CSAD (yn arwain) a PDR)

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

> Athro yn yr Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy (DSBE)

> Doethur Ymarfer Proffesiynol CSS (Prof)

> Doethur mewn Peirianneg (DEng) (rhaglen ar y cyd â CSAD a PDR)

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

> Doethur Ymarfer Proffesiynol (DProf) - Chwaraeon

> Doethur mewn Ymarfer Proffesiynol (DProf) - Gwyddorau Iechyd

PDR

> Doethur mewn Peirianneg (DEng) (rhaglen ar y cyd â CSAD (yn arwain) a CSM)

Ydw i'n gymwys?

Fel rheol, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i'r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol ar ôl cwblhau 120 credyd drwy fodiwlau a addysgir ar Lefel 7 (M), fel rhan o raglen MA, MSc neu MBA.

Gellir caniatáu eithriad i ymgeiswyr o'r astudiaeth lefel meistr uchod, i gael mwy o wybodaeth am ofynion mynediad, dilynwch y ddolen isod:

> Gofynion Mynediad Doethuriaeth Broffesiynol Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Os ydych yn dal yn ansicr o'ch cymhwysedd ar gyfer y rhaglen, cysylltwch â'r tîm dros e-bostio profdoc@cardiffmet.ac.uk a byddwn yn hapus i helpu gyda'ch ymholiad.

Faint fydd y gost?

I weld rhestr gyflawn o'r ffioedd llawn a rhan-amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd cliciwch ar y ddolen isod:

> Ffioedd a Chyllid - Myfyrwyr Ôl-raddedig, Ymchwil a Rhan-Amser

(Gellir gweld ffioedd rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol ar dudalennau 3 a 4).

Sut mae gwneud cais?

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r cyswllt yn yr Ysgol berthnasol i drafod y maes astudio arfaethedig cyn gwneud cais. Gellir gweld y dolenni ar gyfer cysylltiadau'r Ysgol yn y rhaglenni "Pa raglenni Doethuriaeth Broffesiynol sydd ar gael ym Met Caerdydd?" yn y blwch dewis uchod. Ceir manylion am y drefn ymgeisio lawn ar gyfer Rhaglenni Ymchwil y cyrsiau Rhan Amser, Ôl-raddedig a Phroffesiynol drwy'r ddolen isod:

Gweithdrefn Ymgeisio Rhaglenni Ymchwil

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynglŷn â sut i wneud cais, cysylltwch â profdoc@cardiffmet.ac.uk gan nodi pa raglen y mae gennych ddiddordeb mewn ymgeisio amdani.

Cyswllt

Dr Alex McInch
Cydlynydd Doethuriaeth Broffesiynol
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ffordd Cyncoed
Caerdydd
CF23 6XD
E: amcinch@cardiffmet.ac.uk
Ff: 029 2020 5402

Ar gyfer ymholiadau rhaglen-benodol edrychwch ar y rhaglenni perthnasol yn y gwymplen o dan "Pa raglenni Doethuriaeth Broffesiynol sydd ar gael ym Met Caerdydd?".