Mae'r DProf yn CSAD wedi'i strwythuro i gefnogi newid arfer cam wrth gam gan yr Artistiaid a'r Dylunwyr neu drwy newid o fewn y sefydliad y maen nhw'n gweithio iddyn nhw. Yn CSAD, mae'r arfer yn cynnwys: Celf a Dylunio Cynhwysol; Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol; Animeiddiad; Modelu Gwybodaeth am Adeiladau Treftadaeth; Canfyddiad Gweledol yn ymgorffori Celf a Gwyddoniaeth; Darlun; Y Broses Greu a Gweithgynhyrchu Digidol; Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr; Celf Gain; Cerameg; Dylunio Cynnyrch; Tecstilau a Ffasiwn.
Gwahoddir ceisiadau gan unrhyw ymarferydd Celf a Dylunio sy'n gweithio mewn stiwdio, neu sefydliad academaidd. Ymhlith y themâu o fewn ac ar draws disgyblaethau mae canfyddiad, ymwybyddiaeth a gweledigaeth; dyfalu athronyddol a thrawsddisgyblaethol; curadu; dulliau ac arfer Celf creadigol; arfer a dulliau dylunio creadigol; a diwylliannau deunydd gweledol.
Mae'r DProf o fewn CSAD a PDR yn galluogi ymarferwyr i ystyried sut y dylai eu harfer eu hunain ac arfer eu cyfoedion newid (addasu) er mwyn i’w datrysiadau Celf a Dylunio (newydd a phresennol) fod yn fwy effeithiol. Gallai prosiectau CSAD a PDR ganolbwyntio ar amrywiaeth eang o arferion lle mae angen ymchwilio i her neu broblem yn sgil arfer cyfredol.
Mae'r ffocws ar newid arfer neu newid sefydliadol, neu'r ddau, yn hyblyg ac yn cynnwys yn fras, un o dri math, sef: cynnig, gweithredu a gwerthuso newid yn y cyd-destun proffesiynol; gwerthuso newid sydd eisoes yn digwydd o fewn y cyd-destun proffesiynol; neu ennill dealltwriaeth well o'r cyd-destun proffesiynol i gynnig newid.